CHWILEN GYMREIG TYWYSOG FFRAINC
gan Gwilym Arthur Jones

YMHLITH y pendefigion diwyll­iedig hynny a ymwelodd â Chymru yn y ganrif ddiwethaf yr oedd un gŵr a gymerai gryn ddi­ddordeb mewn tafodieithoedd ac a welai fod gwerth ym mharhad yr iaith Gymraeg. Y Tywysog Louis-Lucien Bonaparte (1813-91), a aned yn Thorngrove, Swydd Caer­wrangon, oedd y gŵr hwnnw. Yr oedd yr Ymherodr Napoleon I (m. 1821) yn ewythr iddo, sef brawd i’w dad. Dywedai rhai fod Louis-Lucien a'i ewythr yn debyg iawn o ran pryd a gwedd. Derbyniai bensiwn o'r Rhestr Sifil o £250 y flwyddyn ar gorn ei ymchwiliad­au ieithyddol.

Yn ystod mis Hydref 1855 penderfynodd y Tywysog ymweld â rhai o ardaloedd prydferthaf Cymru a disgrifiwyd y 'Grand Tour' mewn erthygl a ysgrif­enwyd yn Saesneg gan gyfaill agos i'r Tywysog, sef y Parchedig Robert Jones, Ficer Eglwys All Saints, Rotherhithe, Llundain. Ef oedd golygydd cyntaf y cylch­grawn Y Cymmrodor a dywedir fod ganddo gof anhygoel a gwybodaeth eang o lenyddiaeth Gymraeg - un arall o’r offeiriaid llengar hynny.

Un o nodweddion uchelwyr seibiannus y ganrif ddiwethaf, fel y sylwodd W.J. Gruffydd oedd hel creiriau o bob math, Bwriad y Tywysog hwn, fodd bynnag, oedd chwilio am lyfrau Cymraeg a dar­ganfod tafodieithoedd na chlywsai mo'u llefaru o’r blaen.

Trwy borth dinas Caer y cych­wynnodd y llyfrbryf a'i osgordd ar y siwrnai. Teithio mewn coits fawr gan fwrw ymlaen am Dre­ffynnon, Dinbych, Rhuthun, y Bala, Llanfyllin a Mallwyd. Treulio rhai dyddiau yn Aberdyfi a rhyfeddu at odidowgrwydd yr olygfa o amgylch. Yr hin yn hyfryd a chael cyfle i gyfathrachu â'r cychwyr a hwyliai'r llongau bach yn Aberdyfi. Sylwi'n arbennig ar berseinedd eu tafod­iaith. Ymserchu mor llwyr ym Mhlas Trefri nes codi awydd arno am brynu'r lle.

***

CLYWSAI fod llyfrgell nodedig Gwallter Mechain wedi ei chludo i Benmaen Dyfi, cartref y Fychan­iaid, a dyna ddigon o esgus dros alw i’w gweld. Enillasai Gwallter Mechain enw iddo'i hun fel offeiriad awenyddol a hynaf­ieithydd o fri. Cyflwynodd merch y bardd gopi o gyfieithiad Cymraeg o waith Thomas a Kempis i'r Tywysog.

Yn Llanegryn yr oedd cryn enw i siopwr y pentref fel casglwr llyfrau a 'doedd byw na marw na châi'r Tywysog ymweld ag ef. Rhyfeddai at chwaeth lenyddol y masnachwr hwn a bu'n dda ganddo gyflwyno un o'i gyfrolau prin i'r ymwelydd. Beth tybed a ddaeth o'r llyfrgell?

Heibio i hen eglwys Celynin wedyn ac aros yn syfrdan mewn edmygedd o harddwch Dyffryn Mawddach. Er i'r Tywysog, ar un adeg, fod yn Ddirprwy yng Nghorsica yn nyddiau anterth ei ewythr hyglod a chael cyfle i deithio cryn lawer trwy'r Eidal, bu raid iddo gyfaddef na welsai olygfa gyffelyb i'r un a ymledai o flaen ei lygaid y dwthwn hwnnw.

Wedi bwrw ei ludded yng ngwesty Cors-y-Gedol a lloffa ymysg rhagor o lyfrau Cymraeg yn y Bermo, troes i mewn i fynwent eglwys Dolgellau i ddarllen rhai o’r beddargraffiadau Cymraeg. Prynodd gopi o argraffiad cyntaf o'r Llyfr Gweddi Gyffredin yn yr iaith Fanaweg.

Testun edmygedd iddo ydoedd tafodiaith ddiledryw cylch Llanddewi Aberarth - heb arlliw, meddai, o ddylanwadau Seisnig arni. Ysgrifennodd sylwadaeth ar burdeb y barabl honno.

Hamddena yn nhueddau Tal-y-Llyn a chael cyfle i bysgota brithyll yno. Canu'n iach ag Aberdyfi a chyrraedd Machynlleth. Bodio rhagor o gyfrolau Cymraeg a phrynu copi rhwymedig hardd o'r Gwyddoniadur Cymreig (argraffedig yn Llanfair Caereinion). Ni chymerodd at y dafodiaith, fodd bynnag, gan ei bod, yn ôl ei dyb ef, yn frith o lygriadau Seisnig.

***

SYLWI bod golwg ddeallus ar y trigolion pryd-tywyll y cyfarfu â hwy ar y ffordd i Aberystwyth a rhyfeddu at raenusrwydd adeiladau'r ysgolion. Tario rhai dyddiau yn Aberystwyth a chopïo'r pennill trist hwn oddi ar un o'r cerrig beddau ym mynwent Llanbadarn Fawr:

Mae'n rhaid fod gan yr hen Dywysog gryn feddwl o ddawn brydyddol Gwallter Mechain gan iddo drysori ar ei gof ei englyn adnabyddus:

Dywedir iddo adrodd yr englyn hwn gydag arddeliad yng nghlyw pawb o'r cwmni un noswaith loergan lonydd.

Synnu at ruthr a bwrlwm y rhaeadr ym Mhont-ar-Fynach ac yng Nghwm Cyn-Felyn cafodd olwg ar rai cyfrolau prin a oedd wedi eu cyhoeddi ar y cyfandir.

Bwrw trem ar Aberaeron a chael seiat ddifyr o dan nenbren y Parchedig Rowland Williams, Is­Brifathro Coleg Llanbedr-Pont-Steffan ar y pryd. Yr hyn a'i denodd yno ydoedd meistrolaeth yr is-Brifathro o iaith y Basgiaid - iaith a apeliai orau at y Tywysog o holl ieithoedd Ewrop.

Galw i weld y wasg enwog yn Llanymddyfri a chofio mai yno yr argraffwyd copïau o'r Mabinogi, gwaith Lewis Dwnn, heblaw cyfraniadau nodedig Cymdeithas Lyfryddol Cymru. Canmolai waith pwysig Spurrell yng Nghaerfyrddin. Mewn tyddyn rhwng Llanymddyfri ac Aberhonddu trigai David Owen ('Brutus') a galwodd i'w weld. Ni chofnodir yr ymgom. Ymwelodd â'r ffwrneisi haearn ym Merthyr cyn cefnu ar Gymru. Yr oedd ei fryd ar weld eglwys gadeiriol Caerloyw yng ngolau'r lleuad.

***

MEDDYG teulu'r Tywysog ydoedd Syr Isambard Owen y cysylltir ei enw â llunio Siarter Prifysgol Cymru yn 1893. Brodor o Gasgwent ydoedd ond deuai ei deulu, ar ochr ei dad, o Gaer­narfon. Y mae'r Tywysog yn haeddu sylw pe na bai ond am iddo hwyluso cyhoeddi copi arbennig a ddaeth i'w feddiant o Athravaeth Gristnogavl Morys Clynog a argraffwyd yn 1558 gan Gruffydd Robert, Canon Eglwys Gadeiriol Milan. Y Cymmrodorion a ymgymrodd â chyhoeddi'r gwaith o dan gyfarwyddyd gofalus Isambard Owen - un arall o gymwynaswyr y genedl.

Ond y cwestiwn sy'n aros yw - beth a ddaeth o lyfrgell werthfawr y Tywysog wedi ei farw yn 1891 ac yntau yn ddeunaw a thrigain oed? Aros yn nhŷ ei nith yn Fano ar arfordir yr Adriatig yr oedd pan fu farw. Syr Isambard Owen (yn ôl y Times) a wyliai drosto.

Ceisiwyd cadw'r lyfrgell yn Lloegr ac i'r diben hwn fe ysgrifennodd Isambard Owen lythyr yn 1896 at y Prif Weinidog Gladstone yn pwyso arno i ddefnyddio ei ddylanwad rhag colli'r casgliad i ddwylo estron. Ond nid ymyrrodd y gwlad­weinydd, a gwerthwyd y cyfan i Lyfrgell Newberry Chicago am bunt y llyfr sef cyfanswm o £1,500! Bargen yn ddiamau.

Ni ellir bellach ond gofidio am nad oedd ein Llyfrgell Genedlaethol yn bod yn y dyddiau hynny i achub y fath drysorfa lyfryddol. Ac o bosibl y buasai tynged Ewrop yn dra gwahanol pe bai'r Ymherodr Napolean ei hunan wedi dilyn yr un trywydd ysgolheigaidd â'i nai.