CARTRE'R DELYN gan Ifor Jones

RHODDWYD i Lanrwst amryw o deitlau a phwysleisiwyd arbenigrwydd yr hen dref yn yr ymadrodd "Cymru, Lloegr a Llanrwst", ond dyma a ddywedodd William Camden (1551-1623) amdani - "Tre fach aflêr ond yn nodedig am wneud telynau."

Yn wir, ymddengys fod Llan­rwst yn saernïo telynau o oddeutu 1450 ymlaen. Y gwneuthurwr cyntaf y mae cofnod amdano yw Gruffudd Coetmor, ŵyr i Hywel Coetmor a wnaeth enw iddo'i hun ym mrwydr Agincourt ym 1415. A Hywel a werthodd stad Gwydyr i hynafiaid yr anenwog Siôn Wyn. 'Roedd yn ei flodau rhwng 1450 a 1480 ac fe'i canmolir mewn cywydd am ei fod yn saer telyn unres da.

Un arall o'r hen seiri telyn oedd William Owen, Pencraig Inco (yn Llanrhychwyn) ac yn ôl traddodiad ef a gyfansoddodd yr alaw 'Consêt William Owen Pen­craig.'

'Roedd Dafydd Cadwaladr yn wneuthurwr telynau yn Nant Conwy ac yn ei flodau oddeutu 1650, ac felly'n perthyn i'r hen ysgol o seiri oedd mewn bri yn Llanrwst a Nant Conwy cyn dyddiau'r gwneuthurwr enwog John Richards.

Yn oes Elisabeth I ystyrid Llanrwst yn hynod am ei thelynorion, megis Dafydd Maenan a fu'n delynor i Syr Ellis Prys, Plas Iolyn, Pentrefoelas. Dywedir mai Syr Ellis oedd un o’r gwŷr a benodwyd gan Elisabeth i drefnu a chynnal Eisteddfod Caerwys ym 1568.

Telynor gwych, yn ogystal â bardd, oedd Thomas Annwyl o Faenan, a bu Robert Peilyn yn delynor yn llys y frenhines yn Llundain.

Ac yn wir mewn cyfrolau megis y Bardic Relicks fe ddaw bron y cyfan or gwneuthurwyr telynau a gofnodir naill ai o Lanrwst neu o Nant Conwy.

***

YR ENWOCAF o'r crefftwyr yma oedd John Richards, a aned ym 1711 yng ngwesty'r King's Head, Llanrwst (mae'r lle yn awr yn gartre'r Lleng Brydeinig). Prin iawn yw hanes ei fywyd, ond yn ôl traddodiad, yn Llanrwst y datblygwyd y delyn deires, a'r felysaf a wnaed oedd honno, a luniodd John Richards i John Parry Ddall o Riwabon.

Ac fe wnaeth John Richards ugain o delynau i Sackville Gwyn, Plas Glanbran, sir Gaerfyrddin - a oedd ei hun yn delynor nodedig – i'w rhoi i delynorion tlawd.

Un o'r gwneuthurwyr olaf yn Llanrwst oedd Rowland Griffith, oddeutu diwedd y ddeunawfed ganrif. Diweddodd ei oes yn un o'r elusendai a elwir y Bowls (a noddwyd gan Syr John Wynn o Wydir yn y cyfnod pan sefydlwyd Ysgol Rad Llanrwst), a dywedir iddo wneud amryw delynau yn y fan honno - ond y byddai yn mynd â hwy allan oddi yno i'w gorffen a'u "tantro" rhag ofn i leisiau hen wragedd preplyd yr elusendai effeithio ar y telynau ac andwyo eu tôn!

***

YN Y dref hefyd 'roedd llawer o ddatgeiniaid rhagorol ac un o'r canwyr penillion nodedig oedd Edward Jones (Eos Ebrill) a aned yn Llanrwst ym 1821. Gof hoelion ydoedd ("nailer") a bu'n gweithio gyda John Jones y Nailer - y Parch. John Jones, Rhos yn ddiweddarach - a bu ddwywaith yn cydweithio am gryn gyfnod â Robert Owen y Nailer a oedd yn englynwr medrus.

Bu Eos Ebrill yn fuddugol mewn llawer Eisteddfod gan gynnwys Eisteddfod Genedlaethol Wrecsam 1888. Ac yn ei Llyfr Cerdd Dannau y mae Robert Griffith yn cydnabod ei ddyled iddo am ei hyfforddiant ac am ddwyn i gof iddo lu o'r hen alawon ac o'r geiriau.

***

CYDOESWR i Eos Ebrill oedd Robert Owen (Eos Crwst). Yr oedd ganddo ef lais tenor anarferol o gyfoethog a phan fyddai'n canu penillion ar Pen Rhaw ei arfer oedd dilyn ail ran yr alaw trwy gychwyn y pennill wythawd yn uwch na diwedd y pennill yn y rhan gyntaf, ac nid un nodyn yn uwch yn ôl yr arfer gyffredin. Yr oedd y fath gwmpawd i'w lais fel y gallai wneud hynny gyda'r hwylustod mwyaf. Ond yr oedd yn dueddol ar adegau o anghofio'r geiriau, ond yn hytrach na mynd i'r wal byddai'n creu ei bennill ei hun yn y fan a'r lle - er na byddai ystyr hwnnw yn taro deuddeg bob amser!

***

MAE'N bosibl mai'r olaf i wneud telyn yng nghylch Llanrwst, a'i chanu, oedd James Hughes (Iago Bencerdd) a aned yn Sgubor Gerrig, Trefriw ac a ganodd delyn a wnaeth ei hun mewn eisteddfod yn Llanrwst ym 1874.

Ac un arall o'r hen delynorion oedd Evan Jones (Evan y Gorlan), Maenan. Bu ef yn athro i lawer telynor a datgeiniad - ac yn eu mysg, tad y Dr. J. Lloyd Williams, ac un arall eto o hogiau cerddgar Llanrwst.