Y CYHOEDDWR A ANGHOFIWYD ~
Ond nid gan Huw Williams

CYHOEDDWR pwysig a phrysur o'r ganrif o'r blaen nad oes cyfeiriad ato yn llyfr Ifano Jones ar argraffu ac argraffwyr yng Nghymru, nac ychwaith ysgrif arno yn Y Bywgraffiadur Cymreig yw Isaac Clarke, Rhuthun. Erbyn heddiw aeth ei enw'n ddieithr iawn i’r mwyaf rif ohonom, ac oni­bai bod rhai pobl yn dal i ganu ei emyn 'Cyduned nef a llawr', sy'n efelychiad digon teilwng o Glory to God on high (James Allen), go brin y byddai unrhyw son amdano.

Fe'i ganed, yn fab i amaethwr, yng Nghoedllai, Sir y Fflint, ym 1824, a'i brentisio'n argraffydd gyda Hugh Jones, yr Wyddgrug, sef gŵr y ceir ei enw ar nifer go dda o wyneb-ddalennau llyfrau diwinyddol a chyfrolau bychain o farddoniaeth a gyhoeddwyd yn y ganrif o'r blaen.

Ychydig cyn 1850 gadawodd yr Wyddgrug pan benodwyd ef yn oruchwyliwr i gwmni cyhoeddi bychan yn Rhuthun a berthynai i wraig weddw o'r enw Jane Maddocks, ond cyn pen dim amser bron fe'i perswadiwyd gan rai o'i gyfeillion i agor ei fusnes ei hun yn Well Street, Rhuthun.

Yn y lle hwnnw bwriodd amryw o wŷr blaenllaw yn hanes ein llên, ac ym maes cyhoeddi llyfrau Cymraeg yn y ganrif o'r blaen eu prentisiaeth; yn eu plith Isaac Foulkes (Llyfrbryf) a Lewis Jones (Rhuddenfab).

***

Y LLYFR cyntaf a gyhoeddwyd gan Isaac Clarke oedd Ceinion Alun (1851), sef cyfrol o weithiau barddonol John Blackwell (Alun), - brodor o'r un sir ag yntau, - wedi ei golygu gan y Parchedig Griffith Edwards, Ficer y Mwyn­glawdd yn sir Ddinbych. Yng nghefn y gyfrol honno ceir hysbyseb gan Isaac Clarke yn tynnu sylw'r cyhoedd at ei waith argraffu cywrain, ac yn apelio at weinidogion ac eraill am eu cefn­ogaeth.

Ym 1860, daeth Isaac Clarke i amlygrwydd cenedlaethol fel argraffydd pan gyhoeddodd y gyfrol gyntaf o gerddi Ceiriog dan y teitl Oriau'r Hwyr. Yn ôl tystiolaeth 'Llyfrbryf' (a ddylai wybod y cefndir cystal â neb), derbyniodd Ceiriog ddegpunt "am hawlysgrif yr argraffiad cyntaf "  gan Isaac Clarke, a hwyrach mai'r swm hwnnw oedd y swm mwyaf a dalwyd gan unrhyw gyhoeddwr hyd at 1860 am hawlfraint llyfryn swllt yn y Gymraeg.

Gwerthwyd dwy fil o gopïau o Oriau'r Hwyr o fewn deunaw mis, ac aeth y gyfrol i ail argraffiad gan yr un cyhoeddwr ym 1862, pan ymgymerodd hefyd â chyhoeddi'r ail gyfrol o gerddi Ceiriog dan y teitl Oriau'r Bore. Talodd y cyhoeddwr bymtheg punt i'r bardd am hawlfraint ei ail gyfrol, a'r un pryd rhoes bumpunt iddo am ail argraffiad ei gyfrol gyntaf.

Isaac Clarke felly, oedd y cyntaf i sylweddoli bod gwerth masnachol i gerddi Ceiriog, a phan benderfynodd roi'r gorau i'w fusnes yn Rhuthun fe brynwyd ei holl hawlfreinitiau gan Hughes a'i Fab, Wrecsam. Erbyn 1872 aethai'r gyfrol Oriau'r Hwyr i bum argraffiad, ac amcangyfrifai 'Llyfrbryf' bod rhwng 25,000 a 30,000 o gopïau o'r llyfr wedi cael eu gwerthu erbyn 1887.

***

OND ER cystal ei waith fel cyhoeddwr llyfrau, credaf mai fel cyhoeddwr cerddoriaeth yr haedda Isaac Clarke y clod pennaf, ac mai fel cyhoeddwr cerddoriaeth Gymraeg gynnar yr enillodd hefyd ei drwydded i anfarwoldeb.

Yn ei argratfwasg yn Well Street (ac yn ddiweddarach mewn lle yn dwyn yr enw The Cambrian Printing Press yn Market Place, Rhuthun), darparwyd erbyn 1870 fwy o amrywiaeth o gerddoriaeth gysegredig a seciwlar nag a wnaed yn odid unman arall yng Nghymru, a hynny cyn bod adran gerddoriaeth Hughes a'i Fab yn Wrecsam wedi cael ei dodi ar sylfeini cadarn.

Cynhwysai cynnyrch y wasg gasgliadau o gerddoriaeth draddodiadol, casgliadau tonau (gan 'Alawydd' ac eraill), a chopïau o unawdau, heblaw un neu ddau o ramadegau cerdd­oriaeth.

I bwrpas argraffu cerddoriaeth bu Isaac Clarke yn ddigon ffodus i sicrhau cydweithrediad cerddor a oedd hefyd yn argraffydd profiadol, sef Benjamin Morris Williams, brodor o ardal Bethesda, Arfon. Dysgasai ef y grefft o argraffu cerddoriaeth gyda Robert Jones, y cyhoeddwr cerddoriaeth enwog, ym Methesda, a dywedir amdano ei fod hefyd wedi treulio ysbeidiau yng ngwasanaeth cwmni Y Genedl Gymreig yng Nghaernarfon, ac yn Swyddfa Gee yn Ninbych.

I Benjamin Morris Williams y mae'r diolch am gysodi i Isaac Clarke y gyfrol bwysig Gems of Welsh Melody (gol. Owain Alaw, 1860-1864), sy'n cynnwys y copi argraffedig cyntaf o 'Hen Wlad fy Nhadau'. Yn Rhuthun felly, yr argraffwyd ac y cyhoeddwyd ein Hanthem Genedlaethol am y tro cyntaf, a hynny yn ystod oes Evan James a'i fab, James James, sef awduron y geiriau a'r alaw.

***

CYN HYNNY cyhoeddasai Isaac Clarke amryw o gynhyrchion cerddorol cynnar ei gyfaill Joseph David Jones, a gadwai ysgol yn Rhuthun, yn eu plith Y Delyn Gymreig (1859), sy'n cynnwys rhai o'r caneuon gwreiddiol cyntaf ar eiriau Cymraeg.

Ond er mor bwysig oedd ei waith yn darparu gwahanol gasgliadau o gerddoriaeth, y tebyg yw bod Isaac Clarke yn arloeswr yng ngwir ystyr y gair ym maes cyhoeddi unawdau sengl ('sheet music'). Er nad yw'r caneuon a gyhoeddwyd ganddo (o waith J.D. Jones, Gomer Powell, ac un neu ddau o awduron eraill) wedi eu dyddio, y tebyg yw eu bod i gyd wedi cael eu cyhoeddi yn Rhuthun yn ystod chwedegau cynnar y ganrif o'r blaen, ac mai hwy oedd y caneuon gwreiddiol cyntaf gan gyfansoddwyr Cymraeg y clywyd eu canu ar Iwyfannau'r eisteddfod a' r cyngerdd.

Yn ystod y saithdegau sicrhaodd Hughes a'i Fab hawlfreintiau'r caneuon, a gwerthwyd rhai cannoedd o gopïau ohonynt i brif unawdwyr y genedl, yn ne a gogledd, erbyn diwedd y ganrif.

Yn ôl ysgrif ar gofeb ym mynwent Eglwys Sant Pedr, Rhuthun, bu Isaac Clarke (a ddisgrifir fel 'Stationer') farw ar Ebrill 5, 1875 yn 51 oed, a'i briod Catherine ar Fehefin 27, 1891, yn 66 oed. Rhyfedd na wyddai Ifano Jones am ffigur mor bwysig ag Isaac Clarke, a rhyfeddach fyth i R.T. Jenkins ei anghofio, neu ddewis ei anwybyddu, wrth baratoi Y Bywgraffiadur Cymreig!