TEULU AR GRWYDR ~ Ioan Mai Evans ar drywydd

RHYW gyfeirio at lyfryn Syr Love Duncombe Jones Parry, sgweiar Madrun yng ngwlad Llŷn, The Legend of the Lady's Elbow yr oeddwn yn eich rhifyn diwethaf. Rhyfeddu at y Syr yn cyhoeddi yn bedair ar ddeg oed. Dri mis ar ôl hynny dyma 'ryfeddod prin' eto am yr un teulu. Ble mae'r busnes Hanes Lleol yma a'r casglu yn mynd â ni?

Wel, i Pennsylvania y tro hwn i ystyried sylwadaeth ar un o deulu'r Madrun, Thomas Parry. Brawd i'r piwritan enwog Sieffri Parry, Rhydolion, a mab i Syr Love Parry, medd cyfeiriad arall ato. Yn sicr ni fedrai fod y ddau.

Ymddengys iddo ddod i Pennsylvania yn ŵr ifanc, a phriodi â Jane Morris, a oedd yn berchen mil o aceri yn y fan lle sefydlwyd y Moreland Manor Tract, a ddaeth mewn amser yn eiddo un o'i feibion. A sôn am blant, 'roedd i'r briodas ddeg ohonynt, er bod Thomas Parry, yn bymtheg ar hugain oed yn priodi. Mae disgynyddion yr ail genhedlaeth hyd heddiw yn Pennsylvania, Ohio, Indiana, Efrog Newydd a New Jersey. Priododd y rhain i deuluoedd gorau'r wlad, y Morris, Tyson, Vaughn, Randolf, Bull, Wayne, Llewelyn, a Wilson. Yn ôl y sylwedydd Americanaidd maent cyn agosed ag y medrai'r un teulu fod i deulu'r 'taleithiau Canol', heb fod na Gogleddol na Deheuol yn eu cysylltiadau.

O'r holl blant, medd y gohebydd, credai mai John, trydydd mab Thomas a Jane Parry, oedd â'r elfen gryfaf at waith cyhoeddus.

Ei wraig Margaret Tyson, wedi ymfudo o'r Almaen. Sylwai'r gohebydd fod disgynyddion y gangen yma, yn gyfuniad solat o waed Cymreig ac Almaenig, cyfuniad yr ymhyfrydai'r Americanwr ynddo. O'r briodas hon, 'roedd mab Benjamin Parry, a aned yn 1757, a briododd â Jane Paxon, a byw yn yr Old Parry Mansion. Daeth eu mab Oliver Parry, Philadelphia, yn berchen ar yr adeilad ac yn berchnogion stad y Bush Hill, lle y trigai'r Llywod­raethwr Hamilton, ym mlynydd­oedd y gwladychu.

Caleb Parry, cefnder i Benjamin Parry, oedd y cyntaf i golli ei fywyd yn achos Annibyniaeth yr America. 'Roedd yn ddeugain oed pan gychwynnodd y chwyldro, ac yn un o'r rhai cyntaf i ddwyn arfau. 'Roedd yn Gyrnol Liff­tenant ym Mrwydr Long Island a bu farw'n ddisyfyd wrth godi calon y milwyr. Caniatawyd i'w weddw a'i blant fil o aceri yn Westmorland, Pennsylvania, am ei aberth.

Mae'r hanesion hyn yn cydweddu'n dda i natur teulu Madrun, ac i ddod yn ôl at y berthynas, ni fedraf dderbyn mai brawd i Jeffri Parry, oedd y Thomas Parry, a aeth i Pennsylvania, a chael ei eni ym 1680, ddwy flynedd ar hugain wedi marw Jeffri Parry. Felly 'does dim amdani ond astudio'r achau i weld a oedd yn fab i'r Siryf Love Parry, y cyntaf o'r teulu wrth yr new 'Love', a aned yn 1654.