MN LWCH Y CLORIANNAU ~
G.Haulfryn Williams a'r pethau bach

PE BAWN i'n gefnog, mae'n debyg y byddwn yn gasglwr digyfaddawd o bopeth prin ar bapur a memrwn o lyfrau Gregynog i achresi o oes y Tuduriaid, ac o ddarluniau Wilson i fapiau Speed; a byddai'n anodd iawn gennyf ddewis fy mhriod faes. Ond i weithiwr cyffredin sy'n byw mewn tŷ bychan, nid yw na chyflog na lle yn caniatu i'r chwiw casglu fynd dros ben llestri. Ni all dyn helpu hel stwff fel gwiwer os mai dyna yw ei natur, ond o leiaf, gall sicrhau fod yr hyn sydd yn y storfa yn mynd i fod o werth yn y dyfodol, fel y mae'r wiwer yn hel cnau ac nid cerrig ar gyfer y gaeaf!

Peth arall y mae rhaid i'r casglwr di-geiniog ei gofio: nid oes bwynt yn y byd ceisio hel pethau sy'n werth pres mawr i eraill. Ac felly, os wyf fel gwiwer, yr wyf fel archeolegydd hefyd, yn cael hyd i'm prif ddarganfyddiadau ymysg ysbwriel ddoe.

Am y rhesymau hyn, cefais fy hun bron yn ddiymwybod yn casglu pob math o ddeunydd printiedig y gellir ei alw'n 'effemera', sef taflenni a llyfrynnau a phosteri a gynhyrchwyd yn rhad ar gyfer achlysur arbennig neu gyfnod byr. Prin y gellid canmol eu diwyg na'u gwerth llenyddol; ond i bwt o diwtor dosbarth nos fel fi, maent yn chwarel ddihysbydd o ffeithiau anhysbys am bob ardal a phob cyfnod.

Gwaetha'r modd, y mae gwerth masnachol hyd yn oed effemera yn codi, a rhaid talu'n ddrud heddiw am amserlenni rheilffyrdd, ticedi bysiau ac ati. Gwn am un dyn sy'n gwneud bywoliaeth fras o gyfnewid a gwerthu effemera sy'n ymwneud thrafnidiaeth.

***

MAE SEFYLLFA effemera crefyddol yn wahanol hyd yn hyn, diolch i arfer y siopau llyfrau ail-law o stwffio unrhyw bethau capelyddol i'r un silffoedd 'r rhesi diderfyn o hen esboniadau. Gwn am siop lle rhoddir pris o 5c. ar bob llyfr Cymraeg (gan nad yw'r siopwr yn deall yr iaith) ond lle na chodir ond ceiniog yn unig am lyfrynnau llipa - na, chewch chi ddim gwybod gennyf ymhle mae'r trysordy hwn! Ond yno yn ddiweddar, cefais ffynhonnell wych o hanes y Catholigion ar ddechrau'r ganrif, sef Llawlyfr Esgobaeth Menevia am 1908; a hynny am geiniog.

Ceir ynddo enw pob offeiriad pabyddol, lleoliad ac ystadegau pob eglwys Gatholig, manylion am bob mudiad a chymdeithas Gatholig yng Nghymru. Prin fod neb wedi agor y llyfryn ers saith deg o flynyddoedd; ysbwriel ydoedd ir perchennog gwreiddiol ac ir siopwr fel ei gilydd. Ond mae o ddefnydd a diddordeb i mi, a faint o gopau eraill, tybed, sydd ar gael erbyn heddiw?

Adroddiadau capel wedyn. Dyna ffynhonnell anhygoel o gyfoethog at astudio crefydda a chymdeithas yn ystod y ganrif ddiwethaf. Fel y gŵyr pawb, maent yn cynnwys enwau'r aelodau a'r gwrandawyr, mantolen yr eglwys a llythyr oddi wrth y Gweinidog, llythyr sydd yn cynnwys perlau o wybodaeth am y cylch yn ogystal 'r ystrydebau arferol - wrth hel setiau ohonynt o gapeli gwahanol enwadau mewn tref neu bentref, gellir dod o hyd i lawer o ffeithiau am dwf neu dranc achos, statws cymdeithasol yr aelodau, llwyddiant diwygiadau, llwyddiant yr eglwysi i argyhoeddi gwrandawyr fel y byddent yn ymaelodi, ac yn y blaen.

Rhaid cofio hefyd am y Detholiadau blynyddol, cyfres o tua 40 o bamffledi erbyn hyn, yn cynnwys cannoedd o donau ac emynau, rhai ohonynt nad ydynt ar gael yn yr un llyfr emynau. Dyma gyfoeth eto, yn dangos y ffordd y mae chwaeth wedi newid mewn canu cynulleidfaol. Faint o bobl sydd set gyflawn yn eu meddiant?

***

DICHON fy mod wedi dweud digon i brofi gwerth academaidd 'effemera yr enwadau', fel y gellid galw'r pethau hyn. Dylai archifdai ac yn arbennig llyfrgelloedd sirol fod wedi deffro iw pwysigrwydd ers talwm. Ond nid gwerth academaidd yw popeth i'r casglwr, efallai; mae'r wefr a ddaw o bori trwy restr o enwau neu ffeithiau yn rhywbeth na ellir ei ddiffinio, yn fy achos i. Rhowch amserlen bysiau neu gyfarwyddiadur teleffon i mi, ac mi fyddaf yn fodlon am oriau yn hel ffeithiau hollol ddi-fudd.

Cymerwch, er enghraifft, yr ychwanegiad diweddaraf at y swp o effemera sydd gennyf. Llyfr hardd, gyda rhwymiad lledr coch moethus, ond effemera ydyw serch hynny, oherwydd mai rhestr o danysgrifwyr ledled Cymru ydyw, yn cofnodi cyfraniadau at Gasgliad yr Ugeinfed Ganrif a drefnwyd gan yr Hen Gorff yn ystod y misoedd cyn Diwygiad 1904-5. Er gwaethaf diwyg aruchel y gyfrol, prin fod neb wedi ei hagor wedi ir perchennog sicrhau fod ei enw i lawr.

Ond son am chwarel o ffeithiau dibwys, digyswllt: yr oedd Bodo Sophia, modryb i 'nhad, wedi rhoi 5/- o'i harian prin at gronfa, leol Ponterwyd, a minnau'n meddwl mai Wesleaid selog oedd y teulu i gyd!

Yr oedd gweinidog yn byw yn y tŷ ffarm dros y ln i ni yma yn y Groeslon.

Capel Llandinam oedd y capel gyda'r cyfanswm uchaf o holl gapeli Cymru, dros 3500. Ac yn y blaen; caf dreulio oriau'n pori yn y gyfrol hon, am ddim ond am bris y llyfr sef 10c!