LLEW O BLITH LLYFRAU ~
Roger Jones Williams a'r Gwyddoniadur

MAE'N DEBYG i lawer o ddarllenwyr Y Casglwr, fel finnau, lawenhau yn ddiweddar wrth iddynt dderbyn i'w dwylo gyfrolau hardd a graenus megis y cyfieithiad Cymraeg newydd o Beibl y Plant Mewn Lliw a'r ail gyfrol o Chwilota (gol. D. Gwyn Jones). Wrth droi tudalennau'r gyfrol olaf hon, sef yr ymgais gyntaf ers tro i lunio encyclopaedia Cymraeg, troes fy meddwl yn ôl at rai cyfrolau eraill o gyffelyb natur a ym­ddangosodd yn y Gymraeg yn y gorffennol.

Yn gynnar yn y ganrif ddiwethaf ymddangosodd CyneirIyfr: neu Eiriadur Cymraeg gan Edward Williams, Bardd Glas Morganwg, ond ni cheid yn ei ddwy gyfrol ond rhestrau o gyfystyron Cymraeg gydag ambell erthygl fechan fyw­graffyddol neu ddaearyddol hwnt ac yma.

Cafwyd ymgais llawer mwy uchelgeisiol gan Owen Gwyrfai yn ei Eirlyfr Cymraeg (1835) a rhoddwyd cynnig arni drachefn tua chanol y ganrif pan gasglodd Eben Fardd nifer o gyfieithwyr at ei gilydd er mwyn trosi Chambers' Information for the People i'r Gymraeg.

Eto yn y ganrif hon gwelwyd ambell ymgais wiw megis y deuddeg rhifyn o Gwybod, o dan ofal E. Curig Davies a Tom Parry, a ymddangosodd rhwng mis Rhagfyr 1938 a mis Tachwedd 1939. Dichon y byddai'r gyfres honno wedi tyfu'n gyfraniad sylweddol oni bai i bla'r Rhyfel Byd ei choncro.

Ond o blith y cyfeirlyfrau Cymraeg saif un ar ei ben ei hun. Fe'i gwelir, bellach, mewn ambell siop ail-law, mewn cas gwydr mewn festri capel neu ar silffoedd mwyaf anhygyrch a llychlyd ein llyfrgelloedd. Cyfeirio a wneir at ddeg cyfrol drwchus The Encyclopaedia Cambrensis neu Y Gwyddoniadur Cymreig. Os mai teg yw cyfeirio at y llew fel brenin y goedwig teg hefyd yw rhoi i'r Gwyddoniadur y teitl o frenin llyfrau Cymraeg.

***

THOMAS GEE, y cyhoeddwr a'r gwleidydd o Ddinbych oedd biau'r syniad o gyhoeddi encyclo­paedia Cymraeg, a dechreuodd ystyried y mater o ddifri tua chanol y ganrif ddiwethaf. "Yr hyn a'm cymhellodd i ymgymmeryd â'r gorchwyl gyntaf", meddai, "oedd yr ystyr­aeth fod gan bob cenedl wareiddiedig, o'r bron, ei 'GWYDDONIADUR' Encyclo­paedia - a chan lawer cenedl amryw ohonynt. Ond nid oedd gan y Cymry gymaint ag un llyfr yn eu hiaith o'r cymeriad hwn..."

Ar ôl i'r syniad ymsefydlu yn ei feddwl eisteddodd Thomas Gee i lawer a chyfri'r gost. Yr oedd yn ŵr busnes craff ac nid heb lawer o ystyriaeth i'r ochr ariannol y cychwynnwyd ar y fenter. Un o'r camau cyntaf wedyn oedd paratoi Rhestr o Deitlau y tybid y dylid cynnwys erthyglau arnynt. Argraffwyd hon yn llyfryn a ddanfonwyd at nifer o ysgol­heigion a llenorion amlwg y cyfnod gan ofyn a fuasent yn barod i ysgrifennu erthyglau ar rai o'r teitlau a nodwyd ac am ychwanegu at y rhestr os teimlent fod galw am hynny.

Roedd yn naturiol ddigon i Gee ar y cychwyn cyntaf i ymgysylltu â rhai o'i gyfeillion a thrafod y fenter gyda hwy. Gwyddys am dri pherson a fu'n cydweithredu'n agos gydag ef ar y cychwyn. Y cyntaf oedd y Parch. Daniel Silvan Evans a oedd ar y pryd yn gurad yn Llangïan yn Llŷn, yr ail oedd Robert John Pryse (Gweirydd ap Rhys) a'r trydydd John Parry, brawd yng nghyfraith Thomas Gee, a oedd yn ddarlithydd yng Ngholeg y Bala.

John Parry a ddewiswyd yn olygydd cyffredinol ond parhaodd y ddau arall i weithio'n ddiwyd gyda'r fenter ar y dechrau. Etholwyd Gweirydd ap Rhys ar y cychwyn i ysgrifennu ar "y duwiau a hynafiaethau" a chyf­rannodd ymhell dros 400 o erthyglau drwy'r gwaith i gyd.

Wynebid y golygydd â phroblemau enfawr o safbwynt geirfa ac orgraff ac ymddengys bod a wnelai Silvan a'r problemau ieithegol hyn. Yn wir mae'n bur debyg mai Silvan a fathodd y gair gwyddoniadur fel cyfieithiad o'r Saesneg encyclopaedia. Cyf­rannodd rai erthyglau, hefyd, ond yn anffodus bu cweryl rhyngddo ef a Gee a thorrodd ei gysylltiad â'r fenter yn lled fuan.

Wedi i Gee gasglu ei gynorthwywyr a threfnu'r fenter yn fanwl ymddangosodd hysbys­ebion am y gwaith yn y cyfnodol­ion. Y bwriad gwreiddiol oedd cyhoeddi'r Gwyddoniadur mewn pedwar dosbarth ar wahân:

I: Duwinyddiaeth:- Daear­yddiaeth, Hynafiaethau, Beirniadaeth, Bywgraph­yddiaeth a Llenoriaeth Ysgrythyrol; Hanes Eglwysig; a Bywgraphyddiaeth Gref­yddol, etc. etc.

II: Daearyddiaeth Gyffredinol, ac Anianaeth.

III: Y Gwyddorau a'r Celfyddydau.

IV: Hanes a Llenoriaeth Gyff­redinol; Bywgraphyddiaeth, ac Uwchanianaeth.

***

YR YDYM yn hen gyfarwydd drwy gyfrwng hysbysebion ein setiau teledu, i'r arfer o werthu llyfrau yn rhannau bychain sy'n ymddangos yn wythnosol neu'n fisol ac o'u casglu'n adeiladu'n fwynglawdd o wybodaeth ar bwnc arbennig. Dyna'r union dechneg a ddefnyddiwyd gyda'r Gwyddon­iadur.

Penderfynwyd dechrau gyda'r adran ddiwinyddol, a'i hargraffu'n rhifynnau bychain pris swllt. Cyn­hwysai pob rhifyn tua thrigain tudalen, a rhwymid dwsin ohonynt gyda'i gilydd i lunio cyfrol. Disgwylid i'r dosbarth diwinyddol gynnwys tua hanner cant o rifynnau. Ymddangosodd y rhifyn cyntaf, a gynhwysai erthyglau gan o leiaf bedwar ar ddeg o awduron, ar ddechrau 1854 ac fe'i croesawyd yn frwdfrydig gan y wasg Gymreig.

Cytunai'r holl gylchgronau a'r papurau mai dyma'r gwaith pwysicaf a gyhoeddwyd erioed yn yr iaith. Ar ôl astudio cynnwys y rhifyn daroganai'r adolygydd yn yr Amserau y byddai'r gwaith wedi ei orffen "yn gyfryw ag na chafodd y Cymry gynyg erioed ar ei debyg o'r blaen". "Y mae y Gwaith yn ymddangos i ni," meddai'r Bedyddiwr, "yn un o'r rhai mwyaf pwysig, os nid y pwysicaf oll, a gyhoeddwyd erioed yn yr laith Gymraeg..." Galwai'r Drysorfa y gwaith yn "goron gogoniant i lenyddiaeth Cymru" tra canmolai'r Caernarvon and Denbigh Herald ef "for the boldenss of its design, and the amount of energy and talent brought to bear upon its execution..."

Fe ymddengys fod y gwaith yn gwerthu'n dda, oherwydd tua diwedd 1860 aethpwyd ati i ail­argraffu'r rhifynnau cynnar, a hyd y gellir barnu, parhawyd i adargraffu'r rhifynnau drwy gydol yr amser tan tua 1883. Âi'r gwaith yn ei flaen o nerth i nerth, a'r unig anhawster sylweddol a ddaeth i'w ran oedd marwolaeth John Parry, y golygydd, yn 1874. Canlyniad ei farwolaeth oedd i Thomas Gee gymryd yr awenau golygyddol yn gyfan gwbl i'w ddwylo ei hun.

***

YMHELL cyn i Gee gymryd at y gwaith golygyddol newidiwyd cynllun y Gwyddoniadur. Eglur­wŷd eisoes mai'r bwriad gwreiddiol oedd ei gyhoeddi yn bedwar dosbarth ar wahân ac y disgwylid i'r dosbarth cyntaf ar faterion diwinyddol gynnwys tua 50 o rifynnau swllt. Ond yn fuan ar ôl dechrau cyhoeddi'r gwaith, teimlai'r golygydd na fuasai'n bosibl iddo ef olygu unrhyw ddosbarth ond y cyntaf a syl­weddolwyd yn fuan y buasai amryw erthyglau, mewn gwahanol ddosbarthiadau, yn gorgyffwrdd, ac felly penderfynwyd newid y cynlluniau a'i ddwyn allan yn un gwaith mawr.

Gwelir felly, i'r Gwyddoniadur ddechrau fel Geiriadur Beiblaidd, ac i'r golygyddion ledu ei orwelion wrth fynd ymlaen, trwy gynnwys ynddo erthyglau ar bynciau 'seciwlar'.

Bwriwyd ymlaen i'r gwaith yn weddol ddianaf. Daethpwyd i ben a'r wythfed erbyn dechrau 1877. Dechreuwyd gweithio ar y ddegfed gyfrol, y gyfrol olaf, yn lled gynnar yn 1877 a phender­fynwyd cynnwys atodiad yn y gyfrol hon "yn cynnwys amryw erthyglau nas gallesid ar y pryd eu cyhoeddi yn eu lleoedd priodol."

Daethpwyd â'r rhifyn olaf i ben tua mis Mawrth 1879 a chynhwysai'r rhifyn hwnnw yr Atodiad a hefyd Ragymadrodd cynhwysfawr gan y Parch. Owen Thomas. Yn wir yr oedd yn draethawd maith a gynhwysai ychydig o hanes cyfeirlyfrau ac encyclopaedias drwy'r byd, braslun o hanes cyhoeddi'r Gwyddoniadur Cymreig, ynghyd ag erthyglau bywgraffyddol ar Dr. John Parry.

***

AR ÔL cyfnod o lafur a ymestyn­nai dros chwarter canrif cwblhawyd y Gwyddoniadur yn ddeg cyfrol a gynhwysai dros saith mil a hanner o dudalennau o brint man (Brevier). Cyfrannwyd erthyglau iddo gan fwy na chant a hanner o Gymry blaenllaw y cyfnod a honnir i'r argraffiad cyntaf hwn gostio bron £18,000.

Cyfeiriwyd eisoes at rai o'r awduron, ond o blith yr enwogion nas enwyd gellir nodi William Ambrose (Emrys), y Parch. D. Charles Davies, Lewis Edwards, Roger Edwards, Cynddelw, I.D. Ffraid, Ieuan Glan Geirionydd, y Parch. J. Harris Jones Trefeca, Kilsby, Vulcan, Llew Llwyfo, y Parch. John Owen, Trussington, y Parch. Henry Rees Lerpwl, Syr John Rhys, Ieuan Gwyllt, Iorwerth Glan Aled, Creuddyn­fab a Chaledfryn.

Wrth i ni anwylo'r cyfrolau hardd a ddaw i'n dwylo heddiw ac wrth i ni ymfalchïo yng nghynnyrch ein gweisg fe dal i ni oedi ac ystyried gymaint mwy oedd gorchest cyhoeddwyr Gee yn ystod oes aur cyhoeddi yng Nghymru yn ail hanner y ganrif ddiwethaf.