HEL BRIWSION YR OESOEDD CANOL gan Daniel Huws

YN 1961 prynais gan Eric Jones, Caernarfon, gopi o Welsh Botan­ology Hugh Davies, am bunt a choron - neu am bunt. Hon mae'n debyg oedd y fargen y bu Dafydd Wyn Wiliam yn holi yn ei chylch yn Y Casglwr. Ond rhaid imi gyfaddef mai prynu oherwydd diddordeb mewn plan­higion a'u henwau oedd hyn. Nid wy'n wir gasglwr: rhyw biwritan o gasglwr efallai. P’un bynnag, son y byddaf am gasglu platonaidd, nid casglu cnawdol.

Llawysgrifau yw ein llyfrau cyn­haraf. Mae yn y Llyfrgell Gen­edlaethol ryw ddau gant a hanner o lawysgrifau a sgrifennwyd cyn y flwyddyn 1500. Rhai yn enwog, y rhan fwyaf yn hysbys i ysgolheigion, rhyw draean ohonynt yn Gymraeg. Er cymaint eu diddordeb, prin y gallant fodloni'r ysfa (ysfa casglwr) am ddarganfod rhywbeth annisgwyl newydd o hyd.

Ond yn y Llyfrgell Genedlaethol fe geir hefyd agos i ddau gant o lawysgrifau canoloesol na ŵyr bron neb am eu bodolaeth nhw, ac ychwaneg yn sicr na wn i ddim eto amdanynt. Drylliau ydynt, gweddillion, yn amrywio o ran maint o ddeg dalen i ddernyn yn cynnwys hanner llinell o sgrifen. Dalen neu ddwy ydyw'r rhan fwyaf.

Dail sydd wedi'u cadw nid oherwydd unrhyw sgrifen na dim oedd arnynt and oherwydd eu bod ar femrwn a'r memrwn wedi'i ail-ddefnyddio mewn rhwymiadau ac yn gloriau i lyfrau (a llawysgrifau) diweddarach. Casglu'r drylliau hyn ynghyd - ar bapur - a darganfod beth ydynt yw'r casglu y byddaf yn son amdano.

***

NI WELID llyfrau papur yn Ewrop cyn y 13g. Prin y gwelid un ym Mhrydain cyn y 15g. llyfrau memrwn oeddent. Mae memrwn yn gryfach ac yn wytnach deunydd na phapur; na lledr hefyd. Bu'n hoff ddeunydd gan rwymwyr, ac ym mhob cyfnod yn un drud. Pan fyddai llyfrau memrwn wedi colli'u gwerth fel deunydd darllen mi fyddai rhwymwyr yn falch o’u cael (ac yn gorfod cystadlu am­danynt gyda siopwyr a theilwyr ac eraill).

Byddai rhwymwyr yn defnyddio'r memrwn yn bennaf ar gyfer leinio tu mewn y byrddau prep (neu bastbord o'r 16g. ymlaen) ac atgyfnerthu colyn y bwrdd a'r llyfr, gan bastio'r memrwn tu mewn y bwrdd (dyna'r enw pastedowns arnynt yn Saesneg). Fe'u defnyddid weithiau ar gyfer y dail rhydd rhwng y bwrdd a'r llyfr (flyleaves). Weithiau hefyd yn stribynnau ar draws meingefn cyfrol o dan y clawr lledr, ac felly o'r golwg nes torri'r rhwymiad. Ac weithiau yn lle lledr yn glawr dros y byrddau.

Hyd yn oed yn yr Oesoedd Canol gwelid defnyddio dail hen lyfrau a dogfennau gan rwymwyr. Ai llyfrau allan o iws neu o'r ffasiwn. Ond gyda chwyldro Gutenberg aeth gwaredu'r hen lawysgrifau'n ddylif. Daeth testunau cywirach a safonol i'r farchnad. Ac yn raddol, gyda'r Dadeni daeth cefnu ar lawer o'r ddysg a gynrychiolid gan y llawysgrifau (a'r un pryd daeth eginiad gwerthfawrogi gan ysgol­heigion ar y gwahaniaeth rhwng yr hen a'r gwirioneddol hen).

Llawer mwy sydyn ac amlwg ei effaith yng Nghymru a Lloegr oedd diddymiad y mynachlogydd a'r Diwygiad Protestanaidd, Trwy'r cyntaf fe chwalwyd llyfr­gelloedd mwyaf y deyrnas. Yn sgil yr ail daeth pob hen lyfr gwas­anaeth dan ddedfryd marwolaeth, a phob llyfr 'mynachaidd' dan ddrwgdybiaeth. O rwymiadau a chloriau'r unfed ganrif ar bymtheg y daw'r mwyafrif llethol o'r drylliau llawysgrifol yn y Llyfrgell Genedlaethol.

I Gymry'r cyfnod hwn Llundain a threfi'r ddwy brifysgol oedd y canolfannau llyfrau. Yno y ffynnai'r fasnach. Yno yr oedd y rhwymwyr. Prin y mae lle felly i ddisgwyl drylliau llawysgrifau Cymreig mewn rhwymiadau llyfrau print. Llawysgrifau o lyfr­gelloedd ac eglwysi Llundain, Rhydychen a Chaergrawnt a'u cyffiniau a aeth i wneuthuriad y rhwymiadau hyn.

***

GWAHANOL OEDD hanes rhwymo a chlorio llawysgrifau ac archifau Cymru yn yr un cyfnod. Yng Nghymru y sgrifennwyd y rhain a chan amlaf yng Nghymru y rhoddid rhwymiadau neu gloriau arnynt. Gwaith amaturaidd, gwaith cartref, ydyw llawer ohono - adlewyrchiad o ddiffyg rhwymwyr proffesiynol. Gwaith cymharol gymhleth ydyw rhwymo llyfr ond gwaith y gallai unrhyw ddyn ei wneud oedd pwytho llyfr o fewn math o siaced femrwn. Hyn a welir yn aml iawn. Neu, a bod yn gywir, hyn a welid, oherwydd bu ail-rwymo ar y rhan fwyaf o’r enghreifftiau a gyr­haeddodd y Llyfrgell Gened­laethol, ond bod llawer o'r siacedi hyn wedi'u cadw.

Felly, y mae dau brif ddosbarth o ddrylliau llawysgrifol a achubwyd o'r chwalfa fawr. Yn gyntaf, y rhai sydd mewn rhwym­iadau proffesiynol, llyfrau print yn bennaf, neu sydd wedi dod o’r rhwymiadau hyn; a'r rhain yn tarddu fel arfer o Lundain, Rhyd­ychen a Chaergrawnt, neu o'r Cyfandir. Os gellir adnabod y rhwymwr wrth yr addurn ar ei waith, dyna wrth gwrs leoliad mwy manwl i gartref y dryll llaw­ysgrif. Parodd yr arferiad o ddefnyddio memrwn tan tua 1620 gan rwymwyr Rhydychen, ryw hanner canrif yn hwy nag yn Llundain a Chaergrawnt.

Yn yr ail ddosbarth ceir y gwaith amaturaidd, ar lawysgrifau yn bennaf, a lle i feddwl fod cartrefi olaf y rhan fwyaf o'r drylliau pan oeddent yn llyfrau cyfan heb fod ymhell o gartrefi y llawysgrifau y daethant yn gloriau iddynt. Yn y dosbarth hwn y gellir disgwyl gweddillion llaw­ysgrifau Cymreig yr Oesoedd Canol. Enghraifft ddiweddar o'r ail ddosbarth oedd clorio cofrestr plwyf Trefeglwys am 1695-1722 mewn darn o hen lawysgrif fedd­ygyniaethol.

Rhywbeth tebyg o ran nifer ydyw'r ddau ddosbarth yn y Llyfrgell Genedlaethol. Mae un gwahaniaeth, sef bod y dosbarth cyntaf yn dal i brifio'n gyson. Bob tro y byddaf yn cwrdd â Llinos Davies y mae gobaith clywed am rywbeth newydd ymhlith y llyfrau print cynnar y mae hi'n eu hail-gatalogio.

Mae yna hefyd drydydd dosbarth o ddrylliau, heb fod lawer iawn llai na'r ddau arall. Cynnwys hwn y drylliau nad oes unrhyw gofnod bellach o ble y daethant. Fel arfer mae modd gweld p'un ai darn o rwymiad ynteu hen glawr ydyw'r dryll. Weithiau y bydd teitl llyfr neu berchennog arno. Yn aml nid oes dim i awgrymu beth yw ei hanes.

***

UN PLESER ydyw darganfod dryll newydd o lawysgrif. Y pleser arall ydyw llwyddo i ddarganfod beth yw'r testun. Oherwydd bod cyfartaledd uchel o'r testunau yn perthyn i ychydig fathau nid yw darganfod beth ydynt gymaint o orchest ag y gellid tybio, hyd yn oed lle na fo ond ychydig o linellau i'w gweld.

Gyda rhyw ddwsin o gyfrolau wrth law, mynegair ysgrythurol yn gyntaf yn eu plith, mae modd olrhain dros hanner y testunau'n weddol ddidrafferth. Gyda'r lleill, rhaid wrth beth amynedd neu lwc. Gyda rhai, ofer yw pob amynedd: nid yw pob testun canoloesol sydd mewn print ar gael yn y Llyfrgell Genedlaethol ac yn fwy na hynny mae ambell un heb ei argraffu erioed.

Bychan iawn fydd gwerth testunol y mwyafrif mawr o'r drylliau. Testunau cyffredin fyddant. O'r rheini yn y Llyfr­gell Genedlaethol y mae misalau a llyfrau gwasanaeth eraill yn cyfrif am dros y chwarter; o'r rhai y mae lle i feddwl y gallent fod yn Gymreig eu tarddiad y mae cyfar­taled y llyfrau gwasanaeth dros yr hanner. Blaenaf ymhlith y dosbarthiadau sylweddol eraill ydyw llyfrau'r Beibl, ac esboniadau arnynt, yna pregethau, y gyfraith sifil a'r gyfraith eglwysig.

Heb fod mor gyffredin yw pynciau'r prifysgolion heblaw diwinyddiaeth a'r ddwy gyfraith; ychydig enghreifftiau sydd o law­ysgrifau ar resymeg, gramadeg, mathemateg a cherddoriaeth. Eithriad, wrth gwrs, ydyw cael darn o lawysgrif mewn unrhyw iaith heblaw Lladin. Hyd yn hyn ni ddaeth yr un dryll o lawysgrif Gymreig i'r golwg. Ceir tri o ddrylliau Ffrangeg (un ohonynt yn hanu o Gymru), chwech yn Saesneg (tri ohonynt o dras Cymreig), un yn Fflemeg ac un yn Isalmaeneg.

***

YMYSG y drylliau sy'n destunol bwysig y mae tair dalen yn cynnwys yr unig destun ar glawr o ddarn o gerdd Ffrangeg Birinus, o'r 13g. Daethant o rwymiad llsgr. Peniarth 7, casgliad o chwedlau Cymraeg o'r 14g. Yn an­ffodus, ni chofnodwyd dim am yr hen rwymiad cyn ei ddadwneud ac nid oes modd bellach cael gwybod pa bryd nac ymhle y'i gwnaethpwyd.

Mae un llawysgrif y gellir bod yn llawer mwy pendant ynghylch amgylchiadau ac adeg ei rhwymo. O gwmpas y flwyddyn 1473 copïwyd dwy (neu ragor) o law­ysgrifau i Syr Nicholas St. Lo, gŵr o Wlad yr Haf.

Ar gyfer eu rhwymo cymerwyd dail o lawysgrif oedd yn cynnwys rhamant Syr Gai o Warwig yn Saesneg. Crwydrodd un o law­ysgrifau Syr Nicholas i Gymru yn ystod y 16g. ac erbyn heddiw y mae hi yn Aberystwyth (N.L.W. 572). Mae un arall yn y Llyfrgell Brydeinig. O'r darnau llawysgrif a ddefnyddiwyd at eu rhwymo fe ddiogelwyd tua chwarter y testun cynharaf ar glawr o'r gerdd Saesneg. Diddorol ydyw sylwi fod rhamant Syr Gai yn amlwg wedi colli bri erbyn 1473 (y gwir ryfeddod ydyw fod bri iddi erioed).

Diddorol hefyd ymhlith y drylliau Saesneg ydyw darn sy'n ymddangos yn rhan o un o weithiau coll yr Esgob Reginald Peacock (gw. Y Bywgraffiadur), awdur enwog yn ei ddydd y mae llawysgrifau o'i weithiau yn brin iawn oherwydd ei gondemnio am heresi a gorchymyn llosgi pob llyfr o'i waith. Ceir hefyd ddarn o'r geiriadur Lladin-Saesneg cynharaf.

***

O BLITH yr awduron Lladin nid oes eto'r un awdur clasurol (heb gyfrif cyfieithiadau o waith Aristotlys). Ceir nifer o'r Tadau eglwysig. Cynrychiolir awduron yr Oesoedd Canol gan enwau megis Haimo o Auxerre, Adda'r Sgotyn a Hugo o St. Victor. Un bardd sydd, Bernard o Morval, gyda darn o'i ddychan De comtemptu mundi. Enwau. Enwau. Megis Mauritius i'r casglwr stampiau.

Heblaw y diddordeb testunol ambell dro, pa werth sydd i’r drylliau hyn? Yn fras, hwyrach fod gwerth mewn dau gyfeiriad. Yn gyntaf, gallant ychwanegu ychydig, heb i’r ychydig fod yn annisgwyl iawn, at ein gwybod­aeth am y llyfrau a oedd ar gael yn yr Oesoedd Canol. Mae hyn yn arbennig o berthnasol am y drylliau sy'n debyg o fod o dras Cymreig gan mor llwyr y dif­lannodd y llyfrgelloedd canol­oesol yng Nghymru a mor brin ydyw'r dystiolaeth amdanynt.

Yn ail, gan ystyried sut y mae pob llawysgrif yn wahanol i'w gilydd, geill fod rhyw hynod­rwydd yn perthyn i lawysgrifen neu addurn neu nodiant cerddorol neu atalnodi unrhyw ddryll a ddaw i’r wyneb.

0'r drylliau yn y Llyfrgell Genedlaethol byddai'n bosibl llunio arddangosfa yn dangos datblygiad llawysgrifen yn Ewrop o'r 11g. hyd y 16g., arddangosfa a fyddai'n rhagori mewn ambell faes ar y detholiad y gellid ei wneud o lawysgrifau cyfan y Llyfrgell. Mae rhai llyfrgelloedd prifysgolion, yn enwedig yn yr Unol Daleithiau, yn mynd ati i gasglu drylliau llawysgrifol yn unswydd er mwyn gallu cynnig detholiad eang o lawysgrifen gwahanol gyfnodau a gwledydd. Nid yw drylliau'n brin yn y fasnach lyfrau, nac yn ofnadwy o ddrud.

Ond i gasglwyr nid oes angen cyfiawnhau mynd ar ôl y briwsion hyn yn nhermau gwerth y cyfraniad i wybodaeth. Fel pob casglu, mae'n fath o chwarae, a'r hwyl yn yr helfa. I gloi, os digwydd i unrhyw ddarllenydd Y Casglwr fod â hen ddryll o law­ysgrif yn ei feddiant ac eisiau gwybod mwy amdano, byddwn yn falch o gael cyfle i gynnig barn.