CIPOLWG AR GOFIANNAU gyda Huw Walters

SYLWODD Mr Saunders Lewis pan draddododd ei ddarlith ar 'Y Cofiant Cymraeg' gerbron Anrhydeddus Gymdeithas y Cymmrodorion ym 1935 mai ychydig iawn o sylw a roddwyd i’r ffurf arbennig hon ar lenyddiaeth Gymraeg gan ein beirniaid llen­yddol a'n haneswyr llên. Eto i gyd mae'n debyg mai'r ffurf hon ar lenyddiaeth yw'r fwyaf poblogaidd ymhlith y Cymry, ac y mae hyn yn arbennig o wir am y ganrif ddiwethaf.

Nid tan ddiwedd y ddeunawfed ganrif yr ymddangosodd y cofiant Cymraeg mewn ffurf sy'n gyfarwydd i ni heddiw, ac mae'n arwyddocaol iawn taw cyfieithiad­au yw'r rhai cyntaf oll, megis cyfieithiad D. Rhisiart o Hanes Bywyd a Marwolaeth y Parchedig Mr Fafasor Powell, (Caerfyrddin, 1772) a Hanes Fer o Fywyd Howell Harris, (Trefeca, 1792). Yn ôl Mr Saunders Lewis mae i'r gyfrol gyntaf hon bwysigrwydd nid bychan, ac ymddengys iddi fod yn batrwm i gofianwyr Cymraeg hanner cyntaf y bedwaredd ganrif ar bymtheg.

Mae'r cofiannau cynnar hyn yn ymwneud, bron yn ddieithriad â gyrfaoedd y rheini a fu'n amlwg yn hanes crefyddol Cymru; yn ddiwygwyr fel Vavasor Powell a Howell Harris, ac yn bregethwyr fel John Thomas o Raeadr Gwy a Thomas Jones o Ddinbych.

Ond nid fel cronicl hanesyddol yn unig y bwriedid i'r cofiant fod, eithr yn llawlyfr yn ogystal, y gallai darllenwyr droi ato a chymryd bywyd y gwrthrych (gair mawr cofiannau'r cyfnod) yn esiampl ac yn batrwm i’w bywydau hwy eu hunain. Meddai John Thomas, Lerpwl, yn ei gofiant i'r Parch. Thomas Rees, Abertawe:

"...Hyderaf y bydd darllen hanes un weithiodd ei ffordd o'r fath ddinodedd trwy anawsterau fyrdd, i'r fath safle o anrhydedd a dylanwad, yn symbyliad i ddynion ieuainc i ddilyn ei ffydd ac ystyried diwedd ei ymarweddiad..."

Awgrymodd Mr Saunders Lewis fod Helaethrwydd o Ras i'r Gwaelaf o Bechaduriaid, neu Hanes gywir a ffyddlon o Fywyd a Marwolaeth John Bunyan, (1737) wedi dylanwadu'n drwm ar y cofiant Cymraeg cynnar, ac un o'i nodweddion amlycaf, ond odid, yw hanes y profiadau crefyddol hynny a ddaeth i ran y gwrthrych. Darlunir ei ieuenctid yn amlach na pheidio mewn lliwiau tywyll, llawn llygredd, megis y gwnaeth Thomas Jones o Ddinbych yn ei Hunangofiant, (1820), ac y mae geiriau John Hughes, Pontrobert: "... Lled wyllt ac ysgafn ydoedd ei hieuenctid..." yn Cofiant Ann Griffiths, (1854), yn ddigon cyfarwydd.

Dangosodd y Parch. Gomer M. Roberts yntau, yn ei bortread o’r diwygiwr Howell Harris fel y gôr­liwiai Harris ei bechodau ieuenctid yn ei ddyddiaduron.

***

MAE'R cofiannau neu'r 'buch­draethau' bychain, cloriau papur yn nodweddiadol o'r cyfnod cyn 1830/35, a nifer sylweddol ohonynt wedi ymddangos yn wreiddiol yn rhai o'r cyfnodolion enwadol megis Yr Efangylydd a'r Drysorfa. Dyna Hanes Bywyd y Parch. John Griffiths o Landŵr, ynghyd ag eiddo y Parch. W. Griffiths, ei fab o'r un lle, (Caer­fyrddin, 1826), er enghraifft, y bûm mor ffodus i sicrhau copi ohono yng Nghaerfyrddin rai blynyddoedd yn ôl.

Yn ei astudiaeth fanwl Hanes Eglwys Cwmllynfell, wrth ymdrin â gweinidogaeth John Rowlands (1771-1835), dywaid Dyfnallt na welodd yr un gyfrol o'i eiddo, er iddo gyfrannu'n gyson i’r cyfnod­olion enwadol. Hawdd oedd i Ddyfnallt fethu â sylwi ar lyfryn bychan John Rowlands, - Cofiant y Diweddar Barchedig David Davis, Abertawy, (Abertawe, 1828), sy'n cynnwys ychydig dros ddeugain o dudalennau. Ni sylwodd y diweddar R.T. Jenkins arno chwaith pan luniodd ei ysgrif ar David Davies i'r Bywgraffiadur.

Cofiant bychan, prin a hollol nodweddiadol o gofiannau'r cyfnod yw hwn, a daeth fy nghopi i o lyfrgell Rhys J. Huws a fu'n weinidog yma yng Nghwmaman. Ar ferso wyneb ddalen y llyfryn ceir 'Anerchiad Plant Amddifad y Gwrthrddrych at y Cymry Caredig', sy'n lled awgrymu mai er eu budd hwy y cyhoeddwyd y gwaith, ac sy'n ategu'r farn gyffredin mai achos economaidd oedd yn gyfrifol am nifer o'r cofiannau byrion hyn. Mae'n ddiddorol sylwi hefyd fod dylanwad Helaethrwydd o Ras... Bunyan, yn drwm ar y gwaith. Meddai John Rowlands mewn troed nodyn o'i eiddo ar dudalen 11:

"...Nid Mr Davis yn unig a fu mewn tywydd fel hyn, ond mae'r holl saint i raddau mwy neu lai yn ei brofi. Gwel hanes bywyd yr enwog John Bunyan...."

Ond erbyn tua chanol y ganrif ddiwethaf ychydig o olion dylan­wadau allanol a welir ar y cofiannau Cymraeg, a datblygodd y ffurf yn beth cwbl unigryw Gymreig, gan ddilyn patrwm arbennig. Fel arfer daw hanes bywyd y gwrthrych yn gyntaf, yna cyfres o benodau amdano fel dyn, gweinidog, bugail, pregethwr, ac ambell dro fel llenor neu fardd. I gloi atodir rhai o'i bregethau ac ambell farwnad neu 'gwyn coll.'

***

MAE'N debyg i R.T. Jenkins ddweud unwaith mai'r ffordd orau i ddysgu hanes yw trwy ddarllen cofiannau, ac ni ellir gwadu eu gwerth fel dogfennau hanesyddol. Dangosodd y diweddar Ddr. Glyn Penrhyn Jones mor werthfawr yw Hunangofiant Thomas Jones o Ddinbych i'r hanesydd meddygol, a phan luniodd y Parch. E.E. Davies ei gyfrol Religion in the Industrial Revolution of South Wales, pwysodd yn drwm ar dystiolaeth cofiannau'r ganrif ddiwethaf.

Ym 1850 yr ymddangosodd Hanes Bywyd Siencyn Penrhydd, ac ym 1867 - George Heycock a'i Amserau, y ddau yn waith Edward Matthews o'r Ewenni. Ond nid yw'r rhain yn dilyn patrwm y cofiannau traddodiadol Cymraeg, a phrin y bwriadodd yr awdur i neb efelychu'r ddau wrthrych! Darlunia Matthews nifer o arferion Bro Morgannwg, a thafodiaith bersain yr ardal honno yw iaith y 'cymeriadau'.

Manyla ar gampau bechgyn Cwmafan yn chwarae bando ar draethau Margam cyn bod sôn am waith dur na'r ffwrneisi a geir yno heddiw.

OND COFIANT y byddaf yn troi ato'n aml heb flino dim arno yw eiddo John Thomas, Lerpwl, i Thomas Rees, Abertawe, (1888). Ceir rhai cyffyrddiadau annisgwyl a chyffrous iawn yn y gwaith hwn, megis carchariad Thomas Rees pan fethodd ei fusnes ym Mhontaberbargoed. Ceir darlun diddorol o arferion ac ofergoelion bro mebyd Thomas Rees yng Nghapel Isaac ger Llandeilo, ei brofiadau yng nglofeydd Cwm Dâr, a disgrifiadau byw o helyntion y Siartiaid ym Mlaenau Gwent. Ac mae'r penodau ar y daith a gymerodd Thomas Rees a John Thomas i'r Taleithiau Unedig ym 1876 er casglu enwau tanysgrifwyr i'w Hanes Eglwysi Annibynnol Cymru yn saga hynod ddiddorol.

***

BRAWD I awdur y cofiant hwn oedd Owen Thomas, awdur Cofiant John Jones, Talysarn, (1874). Coron (25c heddiw) a delais am fy nghopïau o'r ddwy gyfrol hon i Ralph ym 1969. Nid cofiant yn unig mo'r gwaith hwn ond ceir ynddo hefyd benodau meithion ar ddadleuon diwin­yddol y cyfnod, sy'n dangos fod yr awdur yn ddiwinydd yn ogystal â chofiannydd. Cydnabyddir yn gyffredin mai'r gwaith hwn yw pinacl llenyddiaeth y cofiant yng Nghymru'r ganrif ddiwethaf, ac i'r ffurf ddirywio i raddau wedi 1874.

Aeth y ffasiwn ymhlith cofianwyr i atodi pennod neu ddwy ar 'ffraethebion' a gwrthrych, ac mae nifer sylweddol o gofiannau'r nawdegau yn dilyn y patrwm hwn. Cofiant felly yw eiddo James Morris, Llansteffan, Cofiant Dafi Dafis, Rhydcymerau, (Dolgellau, 1898). Ganwyd Dafi Dafis ym 1814 a bu'n dilyn ei grefft fel turniwr nes ei ordeinio'n weinidog ym 1880, ac yntau'n chwe mlwydd a thrigain! 'Doedd dim yn neilltuol yn hanes ei fywyd, ar gorn ei atebion parod y cafodd gofiant, ac ymddengys mai ar gorn ei gofiant y cafodd fynediad i’r Bywgraffiadur.

'Does ryfedd yn y byd fod Mr D. Myrddin Lloyd yn ŵr mor ffraeth ei dafod o gofio ei fod yn ŵyr i Ddafi Dafis, Rhydcymerau. Pwy ddwedodd mai pethau sych a diflas yw cofiannau'r ganrif ddiwethaf?