CEFNDIR LLYFRGELL Y BRIFDDINAS gan Brynmor Jones

CAERDYDD oedd y dref gyntaf yng Nghymru i fabwysiadu Deddf Llyfrgelloedd Cyhoeddus 1850 - digwyddodd hynny ym mis Medi 1862. Dyna'r pryd y penderfynodd Cyngor y Dref fynd yn gyfrifol am y llyfrgell wirfoddol a oedd wedi ei sefydlu ym mis Hydref 1860. Yn y ddau gartre cyntaf 'roedd y llyfrgell yn rhannu'r adeilad gydag Amgueddfa'r Dref ac Ysgol

Wyddoniaeth a Chelfyddyd. Symudodd y tri sefydliad gyda'i gilydd ym 1882 i'r adeilad presennol a buont yn rhannu'r adeilad hwnnw hyd ganol ugeiniau'r ganrif hon.

Ym 1890 symudodd yr Ysgol Wyddoniaeth a Chelfyddyd i'w chartre' ei hun - hi oedd rhag­flaenydd yr Athrofa Dechnegol sydd erbyn heddiw yn rhan o Brifysgol Cymru. Yn 1905 sefydlwyd Amgueddfa Genedlaethol Cymru a rhwng hynny a thua 1923 fe drosglwydd­wŷd casgliadau Amgueddfa Caerdydd i'w cartre' newydd ym Mharc Cathays.

Bu raid ehangu'r adeilad cyn hynny, fodd bynnag, a dechreu­wŷd ar y gwaith yn 1893 a'i agor ar y 27ain o Fehefin 1896 gan Dywysog Cymru (Iorwerth VII wedi hynny). Yr adeilad hwn heddiw yw pencadlys Llyfrgell Sir De Morgannwg. Ynddo mae yna Adran Fenthyca (sy'n benthyca recordiau gramoffon a chasetiau yn ogystal â llyfrau), Llyfrgell Gyfeiriadol (rhan o hon yw'r Llyfrgell Gymraeg, ac mae hefyd yn cynnwys adran arbennig i ateb cwestiynau byd masnach a diwydiant), adran rwymo ac at­gyweirio llyfrau a llawysgrifau, adran brynu a pharatoi'r llyfrau, ystafell ymchwil lle gellir darllen llawysgrifau a dogfennau, yn ogystal â swyddfeydd gwein­yddol Llyfrgell y Sir.

***

WRTH SON am y llyfrgell gyfeiriadol 'rydy'n ni'n sôn am un o gasgliadau mwyaf pwysig Prydain. Drwy'r cyfnod o hanner canrif neu ychydig llai hyd at 1900 'roedd pwyllgor y llyfrgell wedi sicrhau bod casgliadau cyffredinol y llyfrgell gyfeiriadol yn un o'r rhai gorau ym Mhrydain.

Ond 'roedd hi hefyd yn bolisi pwrpasol gan y pwyllgor o'r dechrau i sefydlu Llyfrgell Gymraeg a fyddai'n cynnwys llyfrau, llawysgrifau, mapiau, darluniau ac yn y blaen, yn adlewyrchu pob agwedd o fywyd Cymru. Yn 1909 y sefydlwyd Llyfrgell Genedlaethol Cymru ond 'rwy'n credu y gellir dadlau bod Caerdydd hyd yr amser hwnnw wedi cynnal gwasanaeth teilwng i lenwi'r bwlch.

Cyn troi i sôn am rai o'r casgliadau arbennig, dyma restr o'r cyfnodolion Cymraeg oedd yn cael eu derbyn yn y dyddiau cynnar:

Baner Cymru, Seren Cymru, Y Diwygiwr, Yr Haul, Y Brython, a'r Gwyddoniadur. Y llyfr cyntaf y mae cofnod o'i dderbyn yn rhodd yw Ceinion Essyllt gan Dewi Wyn o Essyllt a gyhoeddwyd yn 1874.

***

MAE HANES trwy'r blynyddoedd am lawer o gasgliadau gwerthfawr yn dod i'r llyfrgell yn rhoddion. Un o'r rhai cyntaf oedd un o 210 o gyfrolau ar amaethyddiaeth drwy law C.W. David yn 1875, rhai ohonynt yn weithiau cynnar iawn ar ffermio. Yna ym 1882 fe ddaeth casgliad o tua 2,000 o gyfrolau drwy haelioni'r Barnwr Thomas Falconer o Frynbuga. Nid derbyn rhoddion yn unig a wneid, - 'roedd gwŷr goleuedig iawn ar bwyllgorau cynnar y llyfr­gell a thro ar ôl tro fe'u cawn yn prynu casgliadau a llyfrgelloedd cyfan i'w diogelu.

Ym 1891 y prynwyd y casgliad 'mawr' cyntaf, pan ddaeth tua 7,000 o gyfrolau printiedig a thua 100 o lawysgrifau o lyfrgell y Tonn, Llanymddyfri, casgliad a grynhowyd gan deulu enwog Rees, argraffwyr y "Mabinogion", Liber Llandavensis a gweithiau eraill. Fe godwyd £350 drwy dan­ysgrifiadau tuag at brynu’r casgliad.

Erbyn 1895 'roedd y casgliad Cymraeg yn un go helaeth a'r flwyddyn honno fe benderfynwyd paratoi catalog printiedig ohono. Fe benodwyd Ifano Jones o Aber­dâr yn 1896 i ymgymryd â'r gwaith ac fe gyhoeddwyd y catalog ym 1898.

***

YM 1901 fe gyflwynodd William Scott, gŵr a fu'n aelod o bwyllgor y llyfrgell am flynyddoedd, gasgliad gwerthfawr iawn o lyfrau a llawysgrifau i'r llyfrgell. 'Roedd Scott wedi bod yn casglu am flynyddoedd, gan ganobwyntio ar brynu eitemau nad oeddynt eisoes yn y llyfrgell.

'Roedd 'na dros 2,000 o eitemau yn y casgliad, gan gynnwys 13 argraffiadau gwahanol o Daith y Pererin, a 10 o Gannwyll y Cymry, tua 50 o lawysgrifau a nifer o almanaciau a baledi. Fe ddaeth nifer o almanaciau, baledi a marwnadau i'r llyfrgell yn y flwyddyn ganlynol hefyd, pan brynodd y llyfrgell gasgliad Wooding.

Cadw siop y pentre yn y Beulah, Sir Frycheiniog, oedd bywoliaeth David Lewis Wooding. Bu e yn casglu Ilyfrau er pan oedd yn ifanc iawn, ac mae'n debyg y medrech chi gyfnewid llyfrau yn y siop am arian neu am nwyddau.

Ym 1903 daeth copi o'r Testament Cymraeg cyntaf (1567) i law drwy ewyllys Deon Tŷ Ddewi, y Gwir Barchedig David Howell. 'Roedd Dafydd Morganwg hefyd yn dipyn o gasglwr, ac ym 1905 fe brynodd Arglwydd Merthyr (Syr William Thomas Lewis) ei bapurau a'i lyfrau a'u cyflwyno i'r llyfrgell. 'Roedd tua 2,000 o eitemau yn y casgliad, rhai ohonynt yn gyfrolau prin iawn o farddoniaeth ac emynau Cymraeg.

Daeth llawysgrifau'r Hafod i'n meddiant drwy garedigrwydd Mr Edgar Edwards, - mae tair o'r llawysgrifau ymhlith y cynharaf o lawysgrifau Cymraeg.

***

OND WRTH gwrs y llawysgrif bwysicaf yn ein meddiant yw llawysgrif Llyfr Aneirin. Fe brynwyd hon gyda'r llawysgrifau Cymraeg eraill o gasgliad Syr Thomas Phillipps, Middle Hill. 'Roedd Syr Thomas yn ŵr arbennig mewn llawer ystyr – yn hynafiaethydd, yn brynwr casgliadau niferus, gwerthfawr ac amrywiol, ac argraffydd hefyd.

Bedair blynedd ar ddeg wedi ei farw ym 1872, fe ddechreuwyd gwerthu'r casgliad, a phan glywyd son ym 1895 bod y llawysgrifau Cymraeg a Chymreig i gael eu gwerthu, fe benodwyd y llyfr­gellydd Ballinger a'r Athro Thomas Powel (Athro Celteg Coleg y Brifysgol Caerdydd ac aelod gwerthfawr o bwyllgor y llyfrgell am lawer blwyddyn) i fynd i archwilio'r casgliad.

Penderfynwyd ei brynu a chodwyd yr arian drwy dan­ysgrifiadau'r cyhoedd a thrwy roddion (fe roddodd Ardalydd Bute, er enghraifft, £1,000). Fe gostiodd y cyfan £3,500, a phan gofiwn ni mai tua £650 y flwyddyn oedd yn cael ei wario ar lyfrau yr adeg honno mae'n rhaid canmol y pwyllgor am ei weledigaeth.

Gem y casgliad wrth gwrs yw Llyfr Aneirin, un o lawysgrifau llenyddol cynharaf Cymru. Onibai iddi grwydro o lyfrgell Hengwrt (lle'r oedd hi ar un adeg ym meddiant Robert Vaughan), a mynd drwy sawl par o ddwylo cyn i Phillipps ei phrynu oddi wrth Thomas Price 'Carnhuanawc,' mwy na thebyg mai yn Aber­ystwyth y byddai Llyfr Aneirin heddiw.

NODYN: Crynodeb bach yw'r uchod o'r ddarlith a draddodwyd i Gymdeithas Bob Owen yn y Brifwyl yng Nghaerdydd. Fel cyhoeddir yn llawn erbyn y Brif­wyl yng Nghaernarfon mewn cyfrol a fydd yn cynnwys hefyd ddarlith Maldwyn Thomas ar Argraffu a chyhoeddi yng Nghaernarfon a draddodir i'r Gymdeithas yn y Brifwyl honno.