CAMPAU'R DIAFOL...PAN AETH I'R AFAEL Â'R GAIR ~
Gwilym H.Jones yn trafod llysenwau ar Feiblau

Y MAE Diafol y Wasg yn enwog am ei gastiau pryfoclyd; profiad blin yw agor llyfr newydd­anedig a gweld cam-brint yn serennu o'ch blaen a chwithau wedi treulio oriau ar oriau yn darllen ac yn ail-ddarllen y proflenni. Ond nid jôc mohoni pan mae'r Diafol yn ddigon beiddgar i ymyrryd â'r Beibl ei hun. Bu bron iawn iddo a’m harwain innau i wneud ffŵl cyhoeddus ohonof fy hun yn y Capel Mawr, Dinbych. Yr oeddwn yn mynd i bregethu ar hanes gardd Eden, a dyma ddarllen rhan o'r hanes ar ddechrau'r gwasanaeth; bu ond y dim i'm tafod lithro ac yngan yr hyn oedd yn y Beibl o’m blaen:

Bibl yr Addoliad Teuluaidd, wedi ei olygu gan Gweirydd ap Rhys, oedd o'm blaen, ac y mae Dr. R. Tudur Jones yn ddiweddar wedi cyfeirio at y gwahanol argraff­iadau ohono ac o Feiblau eraill yn perthyn i'r un cyfnod (gw. Efrydiau Beiblaidd Bangor 3, 1978). Awgryma Dr. Tudur Jones gyfeirio ato fel 'Beibl Dada'.

Hyd y gwn nid oes restr gyflawn nac ymdriniaeth sylweddol ar y gwahanol argraffiadau o’r Beibl Cymraeg; ac felly anodd cael gafael ar enwau neu lysenwau ar y Beiblau yn ôl y cam-brintiau sydd ynddynt. Y mae digonedd o gyfeiriadau ar gael at y cam­brintiau mewn argraffiadau o’r Beibl Saesneg; diamau ei bod yn haws llunio rhestr o'r rheini gan fod mwy o gyfieithiadau Saesneg wedi eu cyhoeddi, a'r maes felly'n wyn i Ddiafol y Wasg.

***

FY MWRIAD yn yr ysgrif hon yw galw sylw at rai o'r llysenwau a roddwyd ar wahanol argraffiadau o'r Beibl - nifer mawr ohonynt, er nad y cyfan o bell ffordd, oherwydd campau Diafol y Wasg. Yr enwocaf o'r llysenwau, mae'n sicr, yw'r Breeches Bible ('Beibl y Llodrau' neu 'Beibl y Clos’), a gyhoeddwyd ym 1560. Hanes gardd Eden fu achos y brofedig­aeth yn y fan hon, fel yn wir y bu yn hanes Gweirydd ap Rhys. Ond y cyfieithwyr, yn hytrach na Diafol y Wasg, oedd ar fai y tro hwn. Eu cyfieithiad hwy o Gen. 3.7 oedd:

'They sewed fig tree leaves together and made them­selves breeches.'

'Arffedogau' oedd gair William Morgan, ac aprons sydd yn y cyfieithiadau Awdurdodedig a Diwygiedig Saesneg, er iddo fynd yn loin-cloths yn y Beibl Saesneg Newydd. Cam, efallai, â’r Beibl hwn oedd ei lysenwi fel hyn, gan mai derbyn hen draddodiad a wnaeth y cyfieithwyr; yr oedd breeches eisoes wedi ymddangos mewn argraffiadau o Feibl Wycliff, yn Golden Legend Voragine ym 1483 ac mewn fersiwn o'r Pumllyfr a darddai o'r bedwaredd ganrif ar ddeg.

Er gwaethaf ei lysenw, nid Beibl i wamalu ynglŷn ag ef yw Beibl 1560. Enw mwy parchus arno yw Beibl Genefa, ac fe'i cyfieithwyd gan esgobion a chlerigwyr o Loegr oedd wedi ffoi i Genefa rhag llid y frenhines Mari; adeg ei gyhoeddi fe'i cyflwynwyd i'r frenhines Elisabeth. Dyma'r Beibl cyflawn cyntaf yn Saesneg i gynnwys y rhaniadau i adnodau; perthynai iddo hefyd nifer o nodweddion eraill a'i gwnâi'n atyniadol, megis ei argraffwaith Rhufeinig syml, ei faint (quarto) hwylus, ei nodiadau a'i gyfarwyddiadau ar gyfer y darllenwyr.

Dyma, gyda llaw, y Beibl cyntaf i’w gyhoeddi yn yr Alban, ac fe basiwyd yno Ddeddf Seneddol yn gorchymyn i rai dosbarthiadau o denantiaid tiroedd a thai gael y Beibl hwn yn y tŷ; yr oedd cosb o £10 am beidio a chael un, ac fe roddwyd hawl i 'archwilwyr' ymweld â'r tai. Er na lwyddodd Beibl Genefa i ddisodli'r Beibl Mawr o’r eglwysi, dyma'n ddiamau Feibl y Piwritaniaid a'r Beibl Teuluaidd yn Lloegr a'r Alban.

***

CAFODD ail argraffiad Beibl Genefa, a gyhoeddwyd yn 1561-2 heb enw argraffydd wrtho, lys­enw arall. Whig Bible (Beibl y Chwigiaid) y gelwir ef, ac y mae'n sicr mai cam-brint yn hytrach na gwaith bwriadol y cyfieithwyr sy'n gyfrifol am yr enw y tro hwn. Gyda'r seithfed gwynfyd - gwyn­fyd y 'tangnefeddwyr' y gwnaed y cawl - ac yn lle argraffu'r 'peace­makers' arferol, yr hyn a ymddangosodd oedd:

'Blessed are the place makers'.

A dyna'r Chwigiaid! Cyn troi cefn ar Feibl Genefa, y mae'n ddiddorol sylwi yr argraffwyd ym 1643 The Souldiers Pocket Bible. Edmund Calamy a luniodd y Beibl bychan hwn ar gyfer milwyr byddin Cromwell. 125 o adnodau a roddwyd ynddo, y cyfan ond 7 ohonynt o'r Hen Destament, a'r cyfan ond un o Feibl Genefa.

Fe'i cyhoeddwyd drachefn ym 1693, gan ychwanegu 30 o adnod­au a chan ddibynnu y tro hwn ar y Cyfieithiad Awdurdodedig Saesneg a rhoi iddo'r teitl The Christian Soldier's Penny Bible. Tybed a fu erioed gyhoeddiad tebyg yn Gymraeg?

***

BEIBL arall enwog yn yr un cyfnod i Beibl Genefa oedd Beibl yr Esgobion, 1569. Cyhoeddwyd rhai copïau o'r Beibl hwn gydag atodiad yn cynnwys y Salmau a ddefnyddid yn y Llyfr Gweddi, ac y mae'n amlwg i Ddiafol y Wasg fod yn hofran uwchben y Salmau. Dywaid Salm 37.29 yn fersiwn y Llyfr Gweddi:

The unrighteous shall be punished...'

Ond yn groes i hynny yr argraff­wŷd yr adnod - the righteous shall be punished...

Hyd y gwn, ni roddwyd llysenw ar y Beibl hwn.

***

YR YDYM yn fras yn yr un cyfnod, ond wedi symud eto o fyd y cambrintiau at y cyfieithwyr, gyda'r Beiblau a lys­enwyd yn 'Feibl Rosin' (Rosin Bible) ac yn 'Feiblau Triagl' (Tryacle Bibles). Y cyfieithiad o adnod adnabyddus yn llyfr Jeremia sydd y tu ôl i'r llysenwau hyn:

'Onid oes driagl yn Gilead?'

Fe gyhoeddodd y Pabyddion Feibl enwog Douai ym 1609-10, a'r hyn a geir yno yw:

'is there no rosin in Galaad?'

ac felly, dyna 'Feibl Rosin'.

Yr oedd Beibl yr Esgobion ac eraill yn cyfieithu

'is there no tryacle in Gilead?'

a dyna pam y gelwir hwy yn 'Feiblau Triagl'.

***

TROWN yn ôl eto at gam­gymeriadau mewn argraffu. Cafodd Diafol y Wasg gyfnod wrth ei fodd gyda'r gwahanol argraffiadau o’r Cyfieithiad Awdurdodedig Saesneg o 1611 ymlaen. Diamau nad ef oedd yn gyfrifol am y gwahaniaeth rhwng y tri argraffiad folio a gyhoeddwyd ym 1611 - sef y ddau a elwir yn `argraffiad HI' (the great SHE edition) a'r un a elwir yn `argraffiad EF' (the great HE edition).

Adnod yn llyfr Ruth sydd y tu ôl i'r gwahaniaeth hwn; ar ôl i Ruth dreulio noson wrth draed Boas a derbyn haidd ganddo, dywed y Beibl Cymraeg:

'a hi a aeth i'r ddinas'

A dyna sydd yn y ddau 'argraffiad HI'; ond yn yr ar­grafiad arall fe geir 'ac ef a aeth i'r ddinas'.

Cyhoeddir Diafol y Wasg yn ddieuog y tro hwn am fod dau draddodiad gwahanol yn y llaw­ysgrifau Hebraeg, ac felly yn ddiamau y cyfieithwyr sydd wedi methu a phenderfynu rhyngddynt.

Ond y mae'n sicr mai ef sy'n gyfrifol am yr enw a roddwyd ar argraffiad 1631 o'r Cyfieithiad Awdurdodedig Saesneg, sef 'Y Beibl Drwg' (The Wicked Bible). Gyda'r Deg Gorchymyn y bu'r amryfusedd, ac yn fwy penodol gyda'r seithfed gorchymyn ('Na wna odineb'); gadawyd y negyddyn oll-bwysig 'not' allan wrth argraffu'r Beibl hwn, ac fe fu'n rhaid i’r argraffwyr dalu dirwy o £300 am eu cam­gymeriad.

Nid oedd yr argraffu anghywir a ddigwyddodd yn hanes argraff­iad Rhydychen a'r Cyfieithiad Awdurdodedig Saesneg ym 1717 lawn mor ddifrifol. Gyda'r pennawd uwchben Luc 20 y bu'r llithriad y tro hwn, yn lle "The Parable of the Vineyard" yr hyn a gafwyd oedd "The Parable of the Vinegar". Ac fe lynodd yr enw 'Beibl y Finegr' (The Vinegar Bible) wrth yr argraffiad hwn.

Gwaethygodd pethau gydag argraffiad arall o Rydychen ym 1795, oherwydd 'Beibl y Llof­ruddion' (The Murderers' Bible) y gelwir yr argraffiad hwnnw. Yr ymadrodd caredig hwnnw gan yr Iesu am ddigoni'r plant yn gyntaf a pheidio a rhoi eu bara i'r cŵn oedd achos y tramgwydd. Fe gamargraffwyd 'filled', a'r hyn a ymddangosodd oedd:

'let the children first be killed'

A chafodd y Beibl hwnnw ei lys­enwi'n addas am y llithriad hwn o un llythyren.

***

I GLOI'R arolwg bras hwn y mae'n rhaid cyfeirio at hen ffefryn o Feibl ym mhulpudau Cymru, sef cyfieithiad Moffatt. Yr oedd Dr. Moffatt yn barod iawn i dderbyn awgrymiadau testunol er mwyn gwella ei gyfieithiad. Ond nid oedd ei awdurdod dros wneud hynny bob amser yn sicr. Diarddelodd adnod o 1 Timotheus a'i darostwng i droednodyn, a hynny gyda'r sylw ffug-awdurdodol mai nodyn ymyl y ddalen wedi ei gamleoli sydd yn yr adnod. A'r geiriau a ddiarddelwyd (yn ôl y Beibl Cymraeg) oedd:

'Nac yf ddwfr yn hwy; eithr arfer ychydig win er mwyn dy gylla a'th fynych wendid' (1 Tim. 5.23).;

Ond yr oedd cyfieithiad Moffatt ohoni yn y troednodyn yn nod­weddiadol liwgar - 'Give up being a total abstainer' Ni roddwyd llys-enw ar gyfieithiad Moffatt, ond oherwydd yr hyn a ddigwyddodd i’r adnod hon y mae'n haeddu ei alw'n Beibl y Llwyrymwrthodwr'.

Gyda chamleoli dwy lythyren mewn argraffiad Cymraeg y cychwynnais yr ysgrif hon. Cystal gorffen trwy ddweud fod gwaith i'w wneud ar yr argraffiadau o’r Beibl Cymraeg; dichon bod gemau ynghudd yn yr hen argraffiadau. Ond y mae angen dyfalbarhad am ddarn go dda o oes i fynd trwyddynt i gyd, a sylwi ar y llithriadau a champau pryfoclyd Diafol y Wasg.