BARGEINION AR HAP gan I.B.Griffith

UN 0 fendithion ymddeol yw cael mwy o amser efo'r llyfrau: un o benydiau bywyd cyhoeddus yw gorfod eu gadael i fynd i bwyllgor neu gyngor.

Ac yn wir fe edrychant yn ddigon ffiaidd arnaf pan ddych­welaf. Bron na chlywaf hwy'n edliw mai yn ei dŷ efo'i lyfrau y dylai hynafgwr aros - o leiaf o Dachwedd i Ebrill. A phan ystyriaf fod llu o'r llyfrau wedi byw efo mi am hanner canrif mae ganddynt hawl i draethu barn.

'Does yna ddim byd gwerth­fawr oni bai i ryw Americanwr gymryd ffansi at gopi digon blêr o The Doctor and the Devils (1953), drama ar ffurf senario ffilm a ysgrifennwyd gan Dylan Thomas - a chopi Dylan ei hun, oedd hwn fel y tystia'r enw taclus 'Dylan Thomas 1953' ar ei glawr. Ond fel y dywedodd Syr John Morris-Jones am farddoniaeth Tudur Aled, "nid er gwobr nac unrhyw ged" y casglwyd y tipyn amrywiol lyfrau ar y silff. O ambell i sêl a llawer i stondin y daethant yn gynulleidfa gymysg a rydd bleser personol ddydd ar ôl dydd i'r sawl a'i casglodd. Llyfrau a gostiodd o geiniog i bunt yw'r mwyafrif ohonynt ac un anfantais fawr o roi gormod o addysg mewn coleg, ar deledu ac mewn cylchgrawn fel hwn yw creu gormod o wŷr-sy'n­-gwybod-am-lyfrau a chodi pris y farchnad.

Ni fu gen i erioed ddigon o arian i chwilio am lyfrau prin: yn wir pan gyhoeddwyd llyfrau Gregynog fedrwn i mo'u fforddio. Ond trwy lwc a damwain fe ddaeth ambell beth diddorol o'r domen chwecheiniog yn Charing Cross Road a lleoedd cyffelyb. Mae yma The Works of Talhaiarn in Welsh and English (sylwch ar y drefn) wedi ei gyhoeddi yn Llundain yn 1855. Oes, oes mae miloedd o'r rhain ar gael ond fe gofiwch fod Talhaiarn yn glerc gwaith i Syr Joseph Paxton a oedd ar y pryd yn adeiladu'r Crystal Palace yn Hyde Park yn Llundain ac ar glawr y copi sydd gen i mae Tal­haiarn wedi ysgrifennu: "To Annie Paxton with the Author's compliments."

***

GAN NA fedrwn fentro i'r farchnad lyfrau prin fe drois at farchnad arall, - chwilio am rif­ynnau cyntaf o gyfnodolion. Ac fe brofodd hynny yn ymchwil ddifyr dros ben. 'Roedd y rhifynnau rhyddion clawr papur wedi diflannu ond fe synnech fel y deuwn o bryd i'w gilydd ar draws y flwyddyn gyntaf o sawl cyfnod­olyn, wedi ei rhwymo'n daclus, ac yn bleser i'r llaw a'r llygad.

Dyma rai ohonynt:'Yr Eisteddfod,' Cyhoeddiad Chwarterol dan olygiaeth Creuddynfab, sef Will­iam Williams o'r Tŷ Du ger Llan­dudno. Methodd Creuddynfab ag ennill ei blwy yn y Bywgraffiadur. Fe sleifiodd i'r Atodiad ond yn od fawn 'does yr un gair yno amdano yn cychwyn ac yn golygu 'Yr Eisteddfod' o 1864 ymlaen. Os cewch afael ar y gyfrol fe gewch bleser am fisoedd a blynyddoedd. Esgob Tŷ Ddewi yn cynnig gwobr o dair gini yn Eisteddfod Caernarfon 1862 am draethawd ar The Best Mode of Teaching the English Language to Welsh Children in English Day Schools a Syr Hugh Owen yn rhoi'r wobr i Edward Hughes o'r Llechryd. Dyma ddywaid y beirniad "This writer insists on a thorough knowledge of Welsh as an indispensable qualification in a successful teacher of Welsh children."

Cyhoeddwyd y Frythones yn Llanelli o 1879 ymlaen gyda Cran­ogwen yn olygydd ac ar Ŵyl Dewi 1882 fe roddwyd y copi sydd gen i yn anrheg i K.E. Ellis, Cynlas. Mae ei henw ar y clawr. 'Roedd Catherine (Kate) ddwy flynedd yn iau na Tom Ellis. "Dear Kate", medda fo mewn llythyr o'r cyfan­dir i D.R. Daniel yn 1888 wedi marwolaeth ei chwaer.

Ymysg y cyfrolau eraill mae'r Genhinen gynta' (1883) - Cenhinen Eifionydd a oedd yn byw yn stryd ni - stryd Dinorwig - a'r ail Genhinen 1950 - Cenhinen Meuryn a S.B. Jones. Hefyd y Welsh Outlook (1914) a'r Welsh Review (1939).

Efallai mai'r prinnaf a'r gwerth­fawrocaf o'r cyfrolau yw Trysorfa Gwybodaeth neu Eurgrawn Cymraeg dan olygiaeth Dafydd Ddu Eryri ac a "argraphwyd ac ar werth gan T. Roberts 1809, Caernarvon". Dau rifyn yn unig a gyhoeddwyd - 1807 a 1808.

Ond y gyfrol anwylaf un yw cyfrol gyntaf Cymru'r Plant dan olygiaeth O.M.Edwards, 1892. A gofiwch chwi frawddeg gynta'r rhifyn cyntaf un? Dyma hi at blant Cymru: "Yr wyf yn hoff ohonoch ac wedi pryderu llawer yn eich cylch."