AP L HEN LESTRI CYMREIG ABERTAWE A NANTGARW
gan Peter Hughes

Y MAE llestri Cymreig (porcelain) i ddiolch am eu bodolaeth i antur un gŵr, William Billingsley, a fu'n un o'r prif beintwyr blodau yng ngwaith llestri Derby ac a fu'n gwneud ei arbrofion ei hun er mwyn ceisio cystadlu ‚'r llestri soft-paste a ddaeth o Sevres yn y ddeunawfed ganrif.

Daeth Billingsley aíi fab-yng-≠nghyfraith Samuel Walker i Nant≠garw, saith milltir i'r gogledd o Gaerdydd, ym mis Tachwedd 1813. Erbyn haf 1814 llwyddodd y ddau i gynhyrchu llestri soft-paste o ansawdd a thryloywder nodedig.

Pan ddaethant i waelod eu pwrs methasant ‚ chael help gan y Llywodraeth, ond anogodd Syr Joseph Banks, a oedd yn aelod o Bwyllgor y Llywodraeth, ei gyfaill L. W. Dillwyn, perchennog Crochendy Abertawe, i ymweld ‚ Nantgarw. Gwnaeth y samplau a welodd yno argraff ddofn arno ac erbyn diwedd Medi 1814 trefnodd i Billingsley a Walker symud i Abertawe.

Felly, o'r arbrofi yn Nantgarw y datblygodd llestri Abertawe, a daeth y cynnyrch o Abertawe rhwng dau gyfnod o gynhyrchu yn Nantgarw, gan i L.W.Dillwyn ym Medi 1817 osod crochendy Abertawe ar les i'w bartneriaid T. a J. Bevington, gyda Billingsley a Walker, yn dychwelyd i Nant≠garw. Yma, diolch i gyfalaf newydd o £2,100 y cynhyrchwyd y rhan helaethaf o lestri Nantgarw yn 1818 a 1819.

***

MAE CASGLIAD cynhwysfawr o lestri Nantgarw ac Abertawe yn Amgueddfa Genedlaethol Cymru.

Cynllun Billingsley oedd canol≠bwyntio ar gynhyrchu llestri yn Nantgarw a'u hanfon i Lundain i gael eu haddurno - ceir enghreifftiau ag enw'r paentiwr ar gefn y llestr.

Pan adawodd Billingsley a Walker waith Nantgarw yn 1820, gadawyd y crochendy i W. W. Young a fu'n bennaf cyfrifol am ddarparu'r cyfalaf ar ei gyfer. I gael cyfran o'r arian yn Űl cyf≠logodd Thomas Pardoe, a oedd erbyn hyn yn addurnwr llestri ar ei gownt ei hun, a daeth ef i Nantgarw i addurno'r gweddill o'r llestri oedd yn y stoc.

Addurnodd Pardoe lestri, hyd ei far≠wolaeth ar Orffennaf 22, 1823 pan ddaeth oes fer llestri Nant≠garw i ben.

***

DAETH sylwedd llestri Abertawe i fod yn 1815 a 1817. Ychydig iawn o lestri a gynhyrchwyd wedi i L. W. Dillwyn adael y busnes ym mis Medi 1817. Canol≠bwyntiodd ei bartneriaid ar addurno hynny oedd ar Űl o'r llestri gwyn, ac felly mae'n rhaid bod llawer o'r addurno lleol wedi ei wneud rhwng Medi 1817 a dyddiad yr arwerthiant terfynol yn Ionawr 1826.

Er i Billingsley adael Abertawe ym Medi 1817 parh‚i ei ddyl≠anwad ar y peintio blodau a wnaed yn lleol gan mai ef oedd yn gofalu am y peintio yn y dechrau. Y mae yna enghreifftiau o lestri y dechreuwyd eu haddurno gan Billingsley ond a adawyd heb eu llwyr gwblhau.

***

CYFNOD digon byr fu yna i'r llestri yn Ne Cymru. Daeth crochendy Abertawe yn eiddo i L. W. Dillwyn unwaith eto yn 1824 a pharhaodd hyd 1870, ond heb ei waith llestri (porcelain), a ffynnodd crochendai eraill ar Űl hynny. Ond llestri Abertawe a Nantgarw oedd y rhai gorau a mwyaf chwaethus a ddaeth o Gymru.

PRISIAU'R FARCHNAD

DAETH un o'r cyflenwadau mwyaf o lestri Abertawe a Nantgarw - un set ar hugain - ar werth mewn arwerthiant gan Christie's yn Llundain ddydd Llun, Tachwedd 27.

Yn y gorffennol, tueddai'r llestri Cymreig yma i gael eu prynu'n bennaf gan Gymry, ond erbyn hyn mae'n amlwg i'r gwerth a'r prinder ehangu'r farchnad.

Mae'r prisiau hefyd yn codi'n gyflym. Fel enghraifft yr - oedd pl‚t o Nantgarw a addurnwyd yn Llundain - wedi ei brisio rhywle rhwng £800 a £1,200 gan yr arwerthwyr - ond fe'i prynwyd am £2,000.

Ymddengys mai llestri Nantgarw a addurnwyd yn Llundain sy'n mynd am y prisiau uchaf - ond mae unrhyw lestr o Nantgarw neu Abertawe yn werthfawr iawn. Defnyddir y gair 'llestri' yn y rhifyn hwn o ran hwylustod. Yn fanwl, llestri porslen ('porcelain') yw'r rhain.