ANFETHODISTAIDD? ~ Derec Llwyd Morgan a dau lyfr
Y MAE tuedd ym mhobl pob oes, wrth edrych yn ôl ar oesoedd a fu, i gyffredinoli yn eu cylch, a gweld unffurfiaeth lle 'roedd - mewn gwirionedd - gymhlethdod. Dyna'r Methodistiaid cynnar: dynion a menywod ar dân dros gadwraeth enaid, yn ymhyfrydu yn yr agosatrwydd serchog a oedd rhyngddynt a'u Crist croeshoeliedig, ac yn edrych ymlaen yn anad dim at adael yr anialwch hwn o fyd ac esgyn i nef y nefoedd fry!
Ydyw, y mae'r darlun unffurf hwn ohonynt yn gyffredinol wir. Ac eto, darlun a dynnwyd o bell ydyw. O fynd yn nes, fe welir fod ambell efengylwr yn awr ac yn y man yn gorfod gohirio taith genhadu oherwydd bod ei wraig yn rhy sâl i ofalu am ei dyddyn; fe welir un arall yn cywilyddio rhag bod yn or hy ar Grist; a cheir rhai pobl a fyn wneud eu gorau glas i estyn eu dyddiau.
Y mae un o'r llyfrau yr hoffwn dynnu sylw ato yn trafod agwedd ar yr olaf o'r tri phwnc hynny. Gellid yn hawdd faddau i unrhyw un am feddwl mai llyfr am yr Iawn yw Y Prif Feddiginiaeth gan John Evans y Bala, 1759; ond, nage, llyfr am Physgywriaeth yr Oesoedd Gynt ydyw, neu Ffordd hawdd a naturiol i Iachau y rhan fwyaf o Glefydau.
'Doedd y Methodist mwyaf ymroddgar ddim yn llai gofidus ynghylch ei iechyd na'r Anglican mwyaf di-hid. Ac at hyn, noder fod John Evans, y mwyaf hirben a deallus o'r cynghorwyr cynnar, yn fawr ei sêl dros hen feddyginaethau’r tadau, ac yn pleidio dull y doctor dail yn hytrach na dull y gwŷr 'o duedd philosophaidd' o wella clefydau.
***
LLYFR John Wesley oedd Y Prif Feddiginiaeth yn wreiddiol. Ei gyfieithu a ddarfu John Evans, "o'r purred Argraphiad yn Saesoneg, er lles i'r Cymru". Fel y disgwylir, y mae yma drafod rhai pethau a oedd o bwys mawr i'r Methodist, fel i bob Cristion erioed: pechod, er enghraifft. Cyn iddo bechu, nid adwaenai Adda boen. 'Ond er pan wrthryfelodd Dŷn yn erbyn Arglwydd Nêf a Daiar, pa mor hollawl y mae Pêth wedi ei newid?' Bellach, 'Yr Haul a'r Lleuad sy'n tywallt Dylanwadau afiach oddiuchod; Y Ddaiar sy'n bwrw i fynnu Leithder gwennwŷnol oddi isod'. Y mae'r greadigaeth oll 'mewn Cyflwr o elynaeth', ac y mae'r awyr ei hun yn ‘gyflawn o Saethau Angau'.
Onid oes dim i leddfu'r boen hon? Tri pheth: gwaith, cymedroldeb, a meddyginiaethau. Ac wrth eu cyflwyno nhw - y meddyginiaethau, sef corff y llyfr, - y rhefra Wesley (a John Evans ar ei ôl) yn erbyn y gwyddonwyr diweddar a adeiladodd physigwriaeth 'ar Egwyddorion gosodedig' 'hyd oni ddaeth... o'r diwedd yn Gelfyddyd, gwbl allan o gyrhaedd Dynnion cyffredin.'
Gwell gan Wesley a John Evans adfer y physigwriaeth a seiliwyd, chwedl nhwythau, ar brawf.
Byddai'n ddiddorol odiaeth cael ymateb Williams Pantycelyn i'r llyfr. Bu ganddo ef ddiddordeb mewn meddygaeth ar hyd ei oes. Ym mhennod olaf Theomemphus ysgrifennodd y peth tebycaf a gafwyd yn Gymraeg i grynodeb cynamserol o Black's Medical Dictionary,- ac yn ei farwnad i'r meddyg a'r apothecari, William Read o Bont-y-moel, mae'n dangos ei ochr yn ddigon amlwg, - 'Cedwaist ddrugs newyddion rhyfedd,' ebe fe wrth yr ymadawedig, 'Nid bastarddaidd rai dirinwedd.' Cyffuriau'r gwŷr philosophaidd oedd drugs rhyfedd yn ddiau, ar ffurf pits, mewn potelau, ys dywedir yn nes ymlaen yn y farwnad.
Mae'r Prif Feddiginiaeth yn fwynglawdd cyfoethog i'r neb a fynn ymgydnabod â doctoriaeth ddail y ddeunawfed ganrif, ac yn wir i'r neb a ddeil nad yw synnwyr cyffredin yn newid fawr ddim o un oes i'r llall. 'I Ddynnion a fo'n astudio,' meddir yn Rheol 17, 'o ddeutu wyth wns o Gig-fwyd, a deuddeg o Lysieufwyd yn y pedair awr a rhugain, sy ddigonol.'
***
YR OEDD Howel Harris yn dioddef yn enbyd o'r piles neu glwy'r marchogion. Tybed a ddilynodd ef reol 158, lle nodir y meddyginiaethau canlynol i'r clefyd enbyd hwnnw:
Rhoddwch wrth y Llê Driagl twymyn :
Neu, Ddalen Dobacco wedi ei mwydo mewn Dwfr, bedair awr ar hugain.,
Neu, Bwltis o Greulys y Dwfr. Anfynych y maen methu:
Neu, Ben Wynwyn wedi ei flingo a’i Sigo, a'i rostio mewn Lludw.
Y maen hollol iachau'r Piles Sych:
Neu, Gennyn wedi eu ffrio mewn Menyn:
Neu, Varnish. Y mae’n hollol iachau'r Piles dall a'r Piles gwaedlyd.
Varnish, wir! Mynn yr awdur ei fod yn gwbl anffaeledig. Ydi, mwn, chwedl merched Môn.
***
YR AIL lyfr y dymunaf son amdano, a llyfr arall sydd i'n tyb cyffredin ni efallai yn anfethodistaidd, yw A Relation of Apparitions of Spririts, in the Principality of Wales gan Edmund Jones, Pontypwl. Fe'i cyhoeddwŷd yn 1780.
Wrth gwrs, Annibynnwr oedd Edmund Jones, and Annibynnwr a oedd yn efengylwr yr un mor selog ag arweinwyr Anglicanaidd y Diwygiad Mawr.
Yr wyf yn enwi'r llyfr hwn am ysbrydion ochr yn ochr â chyfieithiad 'meddygol' John Evans er mwyn pwysleisio mai gwerinwyr agos i'r pridd, a hwnnw'n bridd anwyddonol ac iasol, oedd y rhelyw mawr o'r dychweledigion y tueddwn ni i feddwl amdanynt fel crefyddwyr gwlithog. Mor hawdd yw synied amdanynt fel mynychwyr sasiwn llwydwedd; ac mai'r unig wahaniaeth rhyngddynt hwy a chenhedlaeth Mamgu yw nad oedd ganddynt foeleri yn y festri iddynt gael te.
Na, yr oeddynt yn gynwyddonol, - yn hygoelus, yr oedd yr arallfyd yn fyw iawn iddynt. Er i Charles Edwards, ganrif cyn cyhoeddi'r Relation of Apparitions, ddweud fod y 'cythreuliaid yn y coedydd wedi distewi', choelia'i fawr.
Dwy o'r brawddegau mwyaf arwyddocaol yn erthygl faith leuan Gwynedd ar Edmund Jones yw'r rhain: 'Yr oedd yn blentyn craffus o'i febyd. Pan oedd yn ieuanc iawn efe a welodd y Tylwyth Teg,...' Y mae elfen mewn Piwritaniaeth a fynn wadu bwganiaeth, ac fe'i cryfhawyd gan Resymoliaeth yr oes ddilynol. Eithr damnia Edmund Jones hi: 'the denial of the being of Spirits... hath a tendency to irreligion and Atheism.'
Yn ei lyfr dyry straeon am ysbrydion &c. a welwyd ac a brofwyd ym mhob un o siroedd Cymru. Mae'n barod i dderbyn stori am ysbryd gwraig yn cario dyn ifanc o Ystradgynlais i Philadelphia ac yn ôl mewn tridiau a theirnos.
***
STORI ARALL o Ystradgynlais yw honno am ddwy wraig, Methodistiaid ill dwy, tua 1753, yn mynd tua Thŷ Gwyn ym mhlwyf Llangadog, ac yn clywed llais gŵr ifanc duwiol o'r enw John Williams yn canu Salm CV. Fel y nesaent ato gwaniai'r llais, ac fel y cilient cryfhâi. Y Saboth canlynol clywsant John Williams yn rhoi'r Salm honno allan i ganu. Ond ymhen pum Saboth wedyn yr oedd John Williams yn ei fedd. 'Here', ebe Edmund Jones, is another notable instance both of the being, and fore- knowledge of Spirits.'
Mae'n rhaid mai'r ddwy wreigan a ddywedodd y stori wrtho, yn uniongyrchol neu'n anuniongyrchol, dwy fel efe na fynnai godi rhagfur rhwng duwioldeb ac ysbrydegaeth. Er hyn, gwragedd, meddai ef, oedd fwyaf yn erbyn adrodd am ysbrydion, gwragedd a byddigions, a'u gwrthwynebiad yn tarddu o'u 'proud fineness, excessive delicacy, and a superfine disposition.'
Ond am y rhelyw mawr o bobl gyffredin, yn ddychweledigion ac yn bechaduriaid, 'doedden nhw ddim yn or-ddelicét. Pa ŵr delicét fyddai'n barod hyd yn oed i ystyried rhoi farnish ar ei beils?