AMRYW GYFROLAU o lyfrgell Mary Ellis

MAE GENNYF gyfrol Amryw a fu'n perthyn i Mair Richards, Darowen, yn cynnwys saith o lyfrynnau o garolau, hymnau, englynion a cherddi marwnad. Argraffwyd a chyhoeddwyd chwech ohonynt yn sir Dre­faldwyn, a'r llall ym Merthyr Tudful. Mae'n debyg mai yn 1849 y rhwymwyd y gyfrol, gan mai dyna'r dyddiad a sgrifennodd Mair o dan ei henw oddi mewn i'r clawr.

Yr oedd hi'n adnabod pob un o'r awduron yn bersonol, Evan Breece, leuan Cadfan o Lan­gadfan; Thomas Williams, Eos Gwynfa neu Eos y Mynydd o Lan­fihangel yng Nghwynfa; Thomas Cynfrig o Lansilin; Evan Pugh o'r Brithdir yng Nghydewain a John Brychan, John Davies o Dredegar. Nid oes deitl cyfansawdd i'r gyfrol, na dweud pwy a'i rhwym­odd. Ar y meingefn mewn llythrennau aur mae'r gair CANTOR, ond enw'r llyfryn cyntaf hwnnw, sef

Ar ddiwedd y Rhagymadrodd ceir y dyddiad Hydref 28, 1846. Rhwymwyd casgliad cynharach o'i eiddo yn y gyfrol, sef

Ysgolfeistr oedd Evan Breeze (mae'r sillafu'n amrywio ar y ddwy wyneb-ddalen), ac yn ŵyr i William Jones Llangadfan (1726- 95). Arferai bregethu'n gynorth­wyol gyda'r Wesleaid, ond myn­ychai'r Blygain yn yr eglwysi, a byddai'n copïo carolau o waith y beirdd gwlad a'u rhoi i Mair.

***

YR ARGRAFFYDD yn Llanfair Caereinion oedd Robert Jones, Bardd Mawddach. Ganed ef yn y Bermo yn 1801 a phrentisiwyd ef gyda Richard Jones, Dolgellau. Yn 1824 y daeth i Lanfair fel rheolwr-argraffydd i wasg y Wesleaid. Pan symudodd y wasg honno i Lanidloes yn 1827, sef­ydlodd Bardd Mawddach ei wasg ei hun, yr Albion Press.

Ond yn Llanidloes, fel y nodwyd uchod yr argraffwyd Y CANTOR yn 1846, gan J. Jones, Albion-Wasg. John Jones, Idrisyn oedd hwnnw, brodor o Ddol­gellau a chyd-weithiwr i Fardd Mawddach. Symudodd y ddau i Lanfair efo'i gilydd, ond aeth Idrisyn i Lanidloes i ganlyn gwasg y Wesleaid. Mabwysiadodd yntau'r enw Albion ar ei wasg, wedi iddo gychwyn ar ei liwt ei hun yno yn 1836.

***

Y MAE yma ddau gasgliad o eiddo Thomas Williams, Eos Gwynfa; YCHYDIG 0 GANIADAU BUDDIOL... Llanfair Caereinion Robert Jones 1824 a NEWYDD­ION GABRIEL NEU LYFR CAROLAU Llanfair Caereinion R. Jones 1825. Ar wyneb­ddalen y ddau mae'n ei arddel ei hun fel awdur TELYN DAFYDD; Salmau cân ar wahanol fesurau oedd yn hwnnw, a chafodd nawdd a chymorth Ifor Ceri i'w gyhoeddi yn y Bala yn 1820.

Mae Newyddion Gabriel yn 60 tudalen ac yn y Rhagymadrodd helaeth mae'r Eos yn amddiffyn yr arfer o gynnal gwasanaeth Plygain yn erbyn gwrthwynebiad gan "Broffeswyr Crefydd" a "Phregethwyr Efengyl". Gwehydd ydoedd Thomas Williams, a bu farw yn 1848.

Blodeugerdd sydd yma, yn cynnwys gwaith Brychan ei hun, Gwilym Morganwg, Ab Iolo a’u cymheiriaid. Un o sir Frycheiniog oedd John Davies, Brychan yn enedigol, eithr yn Nhredegar y treuliodd y rhan fwyaf o'i oes. Wedi bod yn forwr ac yn löwr, troes i fod yn llyfrwerthwr. Daeth i gysylltiad ag lolo Morganwg, a bu'r weithgar gydag eisteddfodau Gwent.

***

UN O'R un cwmni o feirdd oedd yr argraffydd, John Jenkins. Fel Siôn Siencyn y cyferchid ef gan ei gydnabod. Trigai ger Ystrad Mynach, a phenderfynodd ddysgu'r grefft o argraffu er mwyn medru argraffu ei esboniad ef ei hun ar bob adnod o'r Beibl.

Yn 1818 aeth i Gaerfyrddin i'w hyfforddi gan John Evans. Cododd adeilad bychan ar gyfer ei wasg ger ei gartref ym Mhant­saeson, a'i alw'n Argraffdy'r Beirdd, a chyfansoddodd lolo Morganwg englyn iddo. Symudodd i Ferthyr Tudful, lle bu Gwilym Morganwg yn gweithio iddo; glynwyd wrth yr enw Argraffdy'r Beirdd.

Mae hanes y nythaid beirdd ac eisteddfodwyr hyn yn haeddu llyfr iddynt eu hunain. Synhwyrwn fod yr un bwrlwm llenyddol yn y rhan hon o'r wlad ag oedd ym Maldwyn a'r canol­barth, lle 'roedd y beirdd gwlad yn cynhyrchu carolau a baledi ar alwad, a phawb yn adnabod ei gilydd.