YR HEN FEUDWY A'I HEN LYFRAU gan W.D.Williams

YMHLITH offeiriaid llengar Sir Drefaldwyn yr oedd rhai o feibion Thomas Richards, Darowen. Pan drowyd Thomas Charles, y Bala wedyn, o'i eglwys a'i ysgol yn Llanymawddwy cyn diwedd y ddeunawfed ganrif, y Thomas Richards hwn, mab yr Hirnant, ffarm rhwng Ponterwyd a Nant­-y-moch, a benodwyd yn ei le. Ganed iddo ef a'i wraig, merch y Cymerau, wyth o blant, pum mab a thair merch. Bu'r meibion oll yn eu tro yn offeiriaid plwyfi - y rhan fwyaf yn Sir Drefaldwyn. Yr olaf i fod â gofal plwyf arno oedd Lewis Richards, y mab ieuengaf, person Llanerfyl ar ddiwedd ei oes. Ar farwolaeth eu tad a'u mam aethai'r tair merch, Mary, Jane ac Elizabeth, i fyw ato ef ym Mryntanat, tŷ helaeth ar gwr y pentref.

A chofio diddordeb yr hen deulu mewn llenyddiaeth a llen­ydda, nid rhyfedd iddynt gasglu llyfrgell nodedig o helaeth a gwerthfawr. Fel yr ymadawai pob un â'r fuchedd hon, gellir dych­mygu Mary, y ferch hynaf, yn cywain i'w hysgubor bethau newydd a hen. Nid am ddim y cafodd yr anrhydedd o'i derbyn yn aelod anrhydeddus o Gym­deithas y Cymmrodorion yn 1821. Yn ôl a glywais, hi oedd y gyntaf i'w hanrhydeddu felly.

Oherwydd perthynas deuluol agos aeth Mary, chwaer hynaf fy nhad, merch Llwynithel yng nghyswllt Penllyn ac Edeirnion, i weini ar y tair chwaer ym Mryn­tanat, Llanerfyl. (Mab yr Hirnant o genhedlaeth ddiweddarach oedd fy nhaid, Richard Williams, Llwynithel). Er bod mynydd y Berwyn ar ei letaf rhyngddynt, yr oedd Bryntanat a Llwynithel yn bur agos at ei gilydd.

***

HEBLAW'R llyfrgell helaeth oedd yno, yr oedd un peth arall i'w goledd ym Mryntanat, sef meudwy o'r enw Hugh William Kyffin, a aned (yn ôl ei garreg fedd) yn 1843. Mae mwy nag un farn ar berthynas hwn â theulu Richards. "Ward in Chancery", meddai un. Plentyn i un o'r teulu, meddai arall. Yr oedd yn hanu o deulu Kyffiniaid Maenan, Dyffryn Conwy, ac felly'n ŵr o foddion. Clywais ddweud fod ganddo stad fechan. Canlyniad hynny oedd na ofynnwyd iddo wneud dim ar hyd ei oes, dim ond talu biliau ei deulu mabwys. Ei brif hynodrwydd oedd na ddeuai byth i olwg pobl, ac ni wyddai ond ychydig iawn am ei fodolaeth.

Gyda marwolaeth Mary Richards, yr olaf o deulu Darowen yn 1877, daeth terfyn ar fyw ym Mryntanat, a symudwyd y cwbl - y llyfrgell a'r meudwy - dros Ferwyn i'r Bala. Y rheswm oedd fod fy Modryb Mary yn y cyf­amser wedi priodi John Cadwaladr Evans, brodor o Lanegryn, gŵr gradd o Rydychen, ac un a fu'n athro ar John Morris-Jones yn Aberhonddu ac yn brifathro arnaf finnau yn Ysgol Ramadeg y Bala! Am ragor o hanes y gŵr hwn gweler hunangofiant R. T. Jenkins Edrych yn ôl, 78-81, lle ceir teyrnged uchel iawn iddo fel athro'r Clasuron.

***

LLEOLWYD y llyfrau ar eu dyfodiad i'r Bala mewn ystafell helaeth yn Nhŷ'r Ysgol, Tan­domen (a rhoi'r enw lleol ar yr hen Ysgol Ramadeg). Credaf mai'r unig un a wyddai am y llyfrau heblaw teulu Tŷ'r Ysgol oedd fy nhad. Dyn llyfr oedd ef, darllenwr diarbed ar lenyddiaeth o bob math. Unwaith bob blwyddyn byddai'n mynd i'r Bala gyda'r esgus o fynychu'r Cyfarfod Misol a gynhelid (ac a gynhelir) yno bob mis lonawr.

Ond y gwir amdani oedd mai prowla yn y llyfrgell a sgwrsio am yr hen deulu efo Kyffin a wnâi drwy'r dydd bron, a gofalu mynd i festri Capel Tegid am ei ginio a'i de. Pan ddeuai adref, am ryfeddodau Tŷ'r Ysgol y byddai ei sgwrs. Yr unig gownt o'r Cyfarfod Misol fyddai geiriau ffraeth John Edwards, y Felin, Llanuwchllyn (perthynas agos i O.M.Edwards) wrth ddiolch am y bwyd.

Dylwn ddweud fod ei chwaer, fy Modryb Mary, wedi marw yn 1899, a bod J.C.Evans wedi ail­briodi a chael merch o'r enw Margaret. Prin fod y croeso mor gynnes i 'nhad erbyn hyn, ond teimlai fod ganddo ryw hawl foesol i ymweld â'r lle unwaith y flwyddyn, fel petai i gadw llygad ar yr eiddo.

***

BU J. C. Evans farw yn 1915, a symudodd y tri oedd ar ôl i fyw i dŷ preifat yn Heol Ffrydan, gan adael Tŷ'r Ysgol i'r Prifathro newydd a'i deulu. Ond beth a ddaeth o'r llyfrgell? Yr oedd yn rhy fawr o lawer i unrhyw dŷ preifat ei chynnwys. Gadawaf i J.H.Lloyd (Peryddon) yr hanesydd lleol ddweud yr hanes mewn rhifyn o'r Cyfnod:

Bu John Davies o'r Llyfrgell Genedlaethol wrthi am rai wyth­nosau yn rhestru'r llyfrau, eitem wrth eitem, a chyhoeddwyd llyfryn ohonynt. Bu copi o hwnnw yn fy meddiant ar un adeg, a chofiaf mai Kynniver Llith a Bann (argraffiad cyntaf) oedd ar flaen y rhestr, a bod "J.H.D. £100" ar ymyl y ddalen gyferbyn. Yn ôl a glywais, bu ymgiprys ffyrnig rhwng Thomas Shankland a J.H.Davies. Yr oedd y rhestr a'r enwau ar ochrau'r dalennau yn ddrych o'r frwydr.

***

YN RHYFEDD iawn, er fy mod i'n ddisgybl yn yr ysgol ar y pryd, nid oes gennyf ddim cof am yr arwerthiant. Ond ymhen hanner can mlynedd mwy neu lai, ar farwolaeth Margaret (Mrs. Norris) cefais afael, yn ei thŷ yn Heol Ffrydan, ar ddau o lyfrau Mary Richards, a oedd, mae'n amlwg, wedi ymguddio yn ystod yr arwerthiant. Dyma nhw: The Practice of Piety Thomas Huet, copi cynnar iawn, a Book of Common Prayer, a'r geiriau hyn ar ei ddalen flaen fewnol: "Rhodd Modlen Siôn Prys i'w merch fedydd, Mary Richards, Bryn, Llanymawddwy, 1799." Mae telyn deires y teulu, honno yr oedd Mary Richards yn gymaint o feistres arni, ym meddiant teulu'r ddiweddar Delynores Dwyryd.

Neithiwr bûm yn chwilio mynwent Llanycil am feddrod y teulu, a deuthum o hyd iddo wrth fôn ywen, a'r geiriau hyn arno:

    IN LOVING MEMORY
    MARY
    the beloved wife of J. C. Evans
    Headmaster of the Grammar School
    who died April 26, 1899
    aged 44.

    Also of the above
    J.C.Evans
    11.2.1853 — 24.1.1915.

    Also
    MARGARET OSWALD EVANS
    Widow of J. C. Evans
    Died July 24, 1940. Aged 69.

    HUGH WILLIAM KYFFIN
    late of Llanerfyl
    D. June 13, 1920. Aged 77.