YR ARLUNYDD STORMUS A BORTREADODD GYMRU ~
Huw Edwards yn darlunio'i gefndir
GANWYD Hugh Hughes ym Mhwll-y-Gwichiad, Llandudno yn 1790. Pwll-y-Gwichiad oedd y ffermdy mwyaf yn y plwyf. Safai yn agos i'r hyn sydd yn awr yn ganol tref Llandudno (yn agos i'r fan lle saif Banc y National Westminster yn awr, yn ôl Myrddin Fardd!) Gan nad oedd ysgol yn Llandudno yn y cyfnod hwn, danfonwyd y bachgen i'r ysgol yn Llansantffraid, Glan Conwy, a gedwid gan ei daid, Hugh Williams o'r Meddiant. Dywedir bod John Gibson y cerflunydd yn mynychu'r un ysgol yn yr un cyfnod â Hugh Hughes.
Collodd ei fam pan oedd yn fachgen deuddeg oed a symudodd ei dad i Lerpwl ond bu yntau farw'n fuan ar ôl hynny. Pan oedd yn byw yn Lerpwl dysgodd Hugh y grefft o gerfio neu ysgythru ar bren. Wedyn aeth i Lundain i gael rhagor o hyfforddiant ac i ddysgu arlunio. Datblygodd yn arlunydd penigamp a chymharwyd ei waith droeon a gwaith yr arlunydd enwog Thomas Berwick.
Ei waith mwyaf adnabyddus - ac ar y gwaith hwn y mae ei enwogrwydd fel arlunydd yn seiliedig - yw ei "Beauties of Cambria": consisting of Sixty Views in North and South Wales, each view accompanied by a page of letter-press. Y mae'r gwaith wedi ei ddyddio ym "Meddiant, Glan Conwy, Mehefin 1af 1823."
Darluniau o gestyll Cymru (24 ohonynt), eglwysi ac abatai yw'r mwyafrif, ond hefyd ceir golygfeydd naturiol megis rhaeadrau enwog ac ambell adeilad anghyffredin, yn cynnwys dau oleudy. Dywedir yn y rhagymadrodd iddo seilio 58 o'r darluniau ar ddyluniau a wnaethpwyd ganddo ef yn y fan a'r lle ac yn unswydd ar gyfer y llyfr ac iddo gymryd pedair blynedd i gwblhau'r gwaith. Mae'r ddau engrafiad arall yn seiliedig ar luniau o waith rhywun arall.
Yn ôl arferiad y cyfnod, cyhoeddwyd y gwaith mewn chwe rhan a llwyddodd yr awdur i gasglu nifer helaeth o danysgrifwyr (rhyw 650 ohonynt). Mae'r rhestr yn cynnwys llawer o dirfeddianwyr a boneddigion Cymru yn y cyfnod ynghyd â rhai o'r ‘hen bersoniaid llengar' fel Walter Davies (Gwallter Mechain) a John Jenkins (Ifor Ceri). Yno hefyd gwelir enw Taliesin Williams, Merthyr, sef mab Iolo Morganwg, wrth gwrs.
***
FEL Y dywedwyd, cymerodd y gwaith hwn bedair blynedd i'w gwblhau a theithiai Hugh Hughes o le i le ar draws Cymru ar gefn ei ferlyn du. Cadwodd ddyddiadur yn ystod ei deithiau a chyhoeddodd O.M. Edwards ran Gymraeg y dyddiadur yn Cymru yn 1895 a'r rhan Saesneg yn Wales yn 1896.
Dyma ran o'r dyddiadur sy'n sôn am ei ymweliad â Chilgerran ac Aberystwyth (Awst 1820): "Iau - ... wrth deithio 'rwyf yn cael cyfleustra a manteision i weled y diffyg hynod ar yr haul. Dychwelyd oddeutu tri y prydnawn i Gastell Newydd. Yn y nos yn colli'r ffordd, ond drwy fawr drafferth a phoen yn cyrraedd Cilgerran. Gwener - Codi chwech. Darlunio'r castell a cherdded gyda glan yr afon, &c. Wedi brecwast yn cael rhyw lanc gymeryd ei fasged ar ei gefn a mynd gyda mi at yr afon. Mynd ym masged, neu fel y gelwir ef, corwgl y llanc, dros yr afon Teifi.
"Galw gyda gŵr bonheddig a darlunio'r castell, a dychwelyd yn y fasged. Cyrraedd Aberteifi yn gynnar, cerdded i weld y mynachlog St. Dogmael. Ciniawa yn Aberteifi a chychwyn o gwmpas pedwar y prydnawn, a chyrraedd Aberaeron fel arferol, wedi teithio wyth neu ddeng milltir yn y tywyllwch.
"Sadwrn - Brecwasta saith a chychwyn, cael taith gysurus hyd Aberystwyth. Yma yn prysuro i edrych y castell, ac wedi cerdded llawer o'i gylch gyda Mr. Cox yn ei ddarlunio o’r tu ddwyreiniol".
***
YN YSTOD ei deithiau cyfarfu â David Charles, Caerfyrddin, a'i deulu. Yr oedd David Charles, wrth gwrs, yn frawd i Thomas Charles o'r Bala, yn emynydd (awdur 'Rhagluniaeth fawr y nef) ac yn un o’r pregethwyr a gafodd eu hordeinio yn ordeiniad cyntaf y Methodistiaid yn Llandeilo Fawr yn 1811. Yr oedd yn berchen ar ffatri gwneud rhaffau yng Nghaerfyrddin. Priododd Hugh Hughes, Sarah, merch hynaf David Charles, ar yr 20fed o Chwefror, 1827, yn eglwys Sant Pedr, Caerfyrddin. Yn ystod ei gyfnod yng Nghaerfyrddin bu'n cyhoeddi llyfrau a chylchgronau.
Yn 1823-24 cyhoeddwyd, yn wyth rhan, 6c yr un, o swyddfa John Evans, Caerfyrddin, gyfrol yn dwyn y teitl: "Yr Hynafon Cymreig: neu Hanes am draddodiadau, defodau, ac ofergoelion, yr Hen Gymry; wedi eu hegluro â darluniau heirdd, gan Mr. H Hughes, awdur y "Beauties of Cambria."
Er bod y gwaith hwn yn seiliedig ar lyfr Peter Roberts "The Cambrian Popular Antiquities" (Llundain, 1815), y mae'n cynnwys llawer mwy na chyfieithiad syml o waith Roberts. Ceir ychwanegiadau helaeth o waith Hughes ei hun e.e. ceir disgrifiadau helaeth o 'Defodau Priodasawl y Cymry' a'r ‘Drychiolaethau Cymreig'. Dyma ddyfyniad o'r adran ar 'Canwyll y Corff’ i roi blas y llyfr:
"Clywais unwaith am berson a ddygwyddodd weled cannwyll gorff, a chan nad oedd yn credu y fath ffolineb, efe a benderfynodd i fynnu gwybod beth oedd yno. Yn ganlynawl, efe a aeth yn ei herbyn, a phan ddaeth i fynu ati, efe a'i tarawodd â'i ffon nes oedd yn wreichion mân yn un a'r ddaear. Er mor nerthol oedd yr ergyd hwn, ni ddarfu iddo wangaloni y gannwyll, eithr hi a ymgasglodd eilwaith yn un corff fel yr oedd o'r blaen, ac a aeth ymaith i'w ffordd; a phan welodd yr anghredadyn hynny, efe a frawychwyd yn fawr, ac a gwympodd mewn llewyg.
"Gwedi iddo ddyfod ato ei hun, efe a gyfododd ac a aeth tuag adref; ond efe a syrthiodd yn glaf, a bu farw ym mhen ychydig ddyddiau. Gan fod yr angladd yn myned ar hyd y ffordd y gwelsai ef y gannwyll yn myned o'r blaen, pan ddaeth y corff i'r fan lle y tarawsai efe hi â'i ffon, yr elor a dorrodd yn ddarnau, heb unrhyw achos yn y byd, a chwympodd y cwbl i’r llawr!"
***
YN 1823, cawn H. Hughes a David Charles (Ieuengaf) yn cydweithredu i gyhoeddi cylchgrawn misol i blant yr Ysgolion Sul - "Yr Addysgydd." Ceid darlun bychan ym mhob rhifyn ag hefyd erthygl gan (mae'n debyg) David Charles yr hynaf. Ceiniog oedd pris pob rhifyn ond braidd yn drymaidd oedd y cynnwys a daeth y fenter i ben ar ôl i dri rhifyn ar ddeg ymddangos.
Yn y cylchgrawn hwn yr ymddangosodd emynau David Charles (Ieuengaf) am y tro cyntaf ac hefyd emyn Hugh Hughes, "Galarus yw'm holl daith".
Yn 1824, wedyn, cyhoeddwyd "Brut y Cymry, yn cynnwys Hanes Darluniadol o'r Dywysogaeth, gan Hugh Hughes." Bwriedid cyhoeddi ugain rhan, yn cynnwys cant o ddarluniau, ond un rhifyn yn unig a ddaeth allan.
***
AR ÔL iddo briodi, symudodd Hugh Hughes a'i wraig i Green St., Soho, Llundain. Cyn bo hir tynnodd nyth cacwn yn ei ben yno. Yn fuan ar ôl iddo ymaelodi yn eglwys Jewin Crescent cafwyd dadl boliticaidd, yn 1828, ynghylch rhyddfreinio'r Pabyddion. Anfonwyd deisebau lawer i'r Senedd gan y cyrff crefyddol yn protestio yn erbyn bwriad y llywodraeth, a'r Methodistiaid yn eu plith. Ond barnai rhai radicaliaid yn eglwys Jewin yn wahanol, ac fel gwrthdystiad i farn y corff fe anfonwyd deiseb ganddynt o blaid rhyddfreinio'r Pabyddion i'r senedd.
Er mai Thomas Edwards (Caerfallwch) y Geiriadurwr oedd awdur y ddeiseb (yn ôl arddull ryfedd y ddogfen honno, beth bynnag), yr oedd Hugh Hughes yn un o'r arweinyddion - yn wir fe honnai wedyn mai ef a ddechreuodd y cyfan. Cyffrowyd aelodau Jewin Crescent yn aruthr gan y weithred hon. Dywedwyd pethau hallt iawn am y deisebwyr y Sul canlynol.
Yn ôl un blaenor yr oedd Hughes a'r Ileill yn "gelwyddwyr, yn forgers, yn rhai dichellgar, yn fradychwyr bwriadol, yn Judasau, yn rhai a diafol yn eu llenwi, yn elynion pob daioni," &c. Ac yn ôl y Parch. James Hughes yr oeddynt yn "ddynion annuwiol, dynion wedi caledu i'r eithaf, dynion ym meddiant Satan, a wnaent yr hyn a allent hwy i agor y llifddorau i’r gelyn dinistriol ddyfod i mewn," (y gelyn, wrth gwrs, oedd Pabyddiaeth).
Anfonwyd at John Elias, gan ofyn ei gyfarwyddyd. Gorchmynnodd yntau iddynt ddiarddel y rhai oedd yn gyfrifol am y "fath weithred anonest a thwyllodrus... oedd tueddu i aflonyddu a therfysgu yr Eglwys". Cadarnhawyd hyn gan Sasiynau'r Gogledd a'r Deheudir (yr oedd David Charles yn rhy sâl i fedru mynd yno i amddiffyn ei fab yng nghyfraith) ac fe'i diarddelwyd hwy yn ddi-oed.
Wedyn aeth y frwydr ymlaen am fisoedd yng ngholofnau Seren Gomer a chyhoeddodd Hughes lyfryn ar yr helynt o dan y teitl, "Trefnyddion ar Pabyddion: Rhyddid Gwladol ac Eglwysig; cyfeiriedig at y Cymry, y Trefnyddion Calfinaidd, a John Elias", Ile mae'n ymosod yn ffyrnig ar awdurdodau'r Methodistiaid Calfinaidd.
Dywed Myrddin Fardd, "diau mai hwn yw un o'r dynoethiadau mwyaf cignoeth a fedd yr iaith." Ymhen amser dychwelodd rhai o’r deisebwyr i Jewin ond ni ddychwelodd H. Hughes na Chaerfallwch byth (ceir y stori'n llawn, gyda llaw, yng nghyfrol Gomer G. Roberts, 'Y Ddinas Gadarn': Hanes Eglwys Jewin, Llundain.'
***
CEFNODD Hughes ar yr enwad, ymunodd â'r Annibynwyr (trodd at Frodyr Plymouth yn ddiweddarach) ac fe ddatblygodd yn radical fflamboeth. Aeth yn elyn i Dorïaeth ac i bob math o unbennaeth arglwyddiaethol ynglŷn â chrefydd. Treuliodd lawer o amser ac o ynni o hyn allan yn ymosod ac yn dinoethi'r awdurdodau eglwysig.
Bu dadlau brwd rhyngddo a Ieuan Glan Geirionydd yng ngholofnau Seren Cymru rhwng 1830-32 (ysgrifennai o dan y ffugenw ‘Cristion') ynghylch materion megis y Degwm, y Dreth Eglwys, yr Eglwys Wladol etc. Dengys syniadau rhyddfrydig iawn a oedd ymhell o flaen syniadau ei oes.
***
DALIODD i fyw yn Llundain am dipyn ond erbyn 1835 yr oedd yn byw yng Nghaernarfon ac yn cynorthwyo William Williams (Caledfryn) a Josiah Thomas Jones (Aberdâr wedyn, awdur y Geiriadur Bywgraffiadol) gyda'r Seren Ogleddol - cylchgrawn y Gymdeithas er taenu gwybodaeth eglwysig. Deuai allan yn fisol ond daeth i ben ar ôl deunaw mis (19 rhifyn i gyd).
Wedyn, yn 1836, cychwynnodd bapur newydd Cymraeg cyntaf tref Caernarfon - y 'Papyr Newydd Cymraeg' ac ysgrifennai Hughes ei hun lawer iawn o gynnwys y papur. Er mwyn osgoi'r dreth newyddiadurol, ni chyhoeddid ef ond unwaith y mis, ond daeth yntau i ben ar ôl pymtheg rhifyn. Yn ôl Myrddin Fardd, "nid oedd hinsawdd Cymru eto yn ddigon rhyddfrydig i’r egwyddorion a bleidid yn y papurau uchod ffynnu ynddi."
Yn ôl y Bywgraffiadur, bu'n byw wedyn yng Nghaerlleon (1839), y Bermo (1841), Aberystwyth a Malvern, lle y bu farw ar 11 Mawrth 1863. Yn ystod ei flynyddoedd olaf cyhoeddodd gasgliad o bregethau ei dad-yng-nghyfraith, gyda byr-gofiant ('Sermons of David Charles with a Memoir; by H. Hughes', Llundain 1846. Cyhoeddwyd yn 1860). Dywedir iddo hefyd gynhyrchu toreth o luniau a digrifluniau (yn enwedig ar bwnc 'Brad y Llyfrau Gleision').
CREDAF fod y braslun uchod yn ddigon i ddangos fod Hugh Hughes yn haeddu lle anrhydeddus fel arloeswr bywiog a diddorol, nid yn unig fel arlunydd ond hefyd fel Radical blaengar, effro a mentrus a gafodd dipyn o ddylanwad ar ei oes ei hun ond a esgeuluswyd ac a anghofiwyd ar ôl hynny.
FFYNONELLAU
1) Edwards, O.M., (gol.) Cymru, viii (1895), tud. 21-24
2) Edwards, O.M., Wales, iii (1896), tud. 316-319 a tud. 353 358.
3) Hughes, Hugh, The Beauties of Cambria, Llundain, 1823.
4) Hughes, Hugh, Yr Hynafion Cymreig, Caerfyrddin, 1823.
5) Hughes, Hugh, Sermons of David Charles, with a Memoir, Llundain, 1846.
6) Jones, John, (Myrddin Fardd), Enwogion Sir Gaernarfon, 1929.
7) Jones, T.M., Llenyddiaeth fy Ngwlad, Treffynnon, 1893.
8) Roberts, Gomer M., Y Ddinas Gadarn: Hanes Eglwys Jewin, Llundain. Llundain, 1974.
9) Roberts, Peter, The Cambrian Popular Antiquities, Llundain, 1815.