Y CASGLWR O FÔN gan Dafydd Wyn William

 

DWY HEN ferch oedd Mary Jones (1807-90) a'i chwaer Ann (1809-96). Hwy, ill dwy, oedd perchnogion ffarm Tŷ Hen Isaf ym mhlwyf Coedana nid nepell oddi wrth bentref Llannerch-y-medd. Hwy hefyd oedd yn amaethu tiroedd y fferm. I'w cynorthwyo i wneud hynny fe gyflog­wŷd Richard Hughes (1837-­1930) yn was pan oedd yn bur ifanc, ac yn Nhŷ Hen Isaf y bu yn gwasanaethu'n dra ffyddlon dros ysbaid gweddill oes y ddwy hen ferch. Yno y bu hyd ddiwedd ei oes faith ef ei hun. Erbyn hynny ef oedd perchen y fferm. Fe'i cafodd yn rhodd.

Caeodd Mary Jones ei llygaid am y tro olaf ar 9 Medi 1890. I ganlyn ei harwyl ym mynwent Eglwys blwyf Coedana y mae'n bur debygol fod rhai o'r teulu wedi crynhoi ynghyd i ffermdy Tŷ Hen Isaf i wrando darllen ewyllys yr ymadawedig.

Ym mrawddeg gyntaf y ddogfen fe hysbysid mai Richard Hughes y gwas oedd yr ysgutor. Clywyd ymhellach pwy oedd i etifeddu cyfran Mary Jones yn Rhiwmoel Bach a Thŷ Pridd yn Amlwch. Yna caed brawddeg a barodd fod­lonrwydd mawr i'r gwas:

Wedi chwys a llafur blynydd­oedd wele'r gwas a'i wraig (yr oedd wedi priodi erbyn hyn) yn berchen hanner fferm. Eithr ceid atodiad i'r ewyllys yn datgan nad oeddid i weithredu'r cymyn­roddion uchod nes marw Ann Jones yr ail hen ferch. Brysiodd hithau i lunio ei hewyllys olaf ar 29 Mawrth 1892. Ni wyddys a oedd cynnwys y ddogfen yn hysbys i'w gwas.

***

FODD BYNNAG fe glywsai ef, bid siŵr, am aml un yn newid ei ewyllys ar yr unfed awr ar ddeg; rhaid oedd llwybro yn ofalus rhag colli ffafr ei feistres. Llwyddodd i wneud hynny. Ar 10 Gorffennaf 1896 fe aeth Ann Jones 'i Iaith' chwedl y Morrisiaid a hithau yn 87 oed. Wedi'r hir ddisgwyl wele Richard Hughes wedi ei ddyrchafu o fod yn was i fod yn feistr. Ef oedd perchen Tŷ Hen Isaf - fferm dros 50 erw.

Ysywaeth yr oedd bron yn drigain oed. Pam na chawsai'r fferm ynghynt? Diau fod pobl y fro yn ei ystyried yn ddyn lwcus and yn cyfrif yr un pryd ei fod yn llwyr haeddu'r cyfoeth a'r tir a ddaeth i'w ran. Bu clod yn feistr Yn drobwynt yn hanes Richard Hughes. Ac yntau wedi byes am flynyddoedd yng nghwmni dwy hen ferch gynnil, gynnil, fe ymroes i fyw yn afrad, afrad. Ie, i rai, afradlonedd yw casglu llyfrau.

***

DEUDDYN o blwyf Llangefni oedd ei rieni - John Hughes (1809-84) a Margaret Jones (1812-55). Richard oedd yr hynaf o wyth o blant a aned iddynt, ac fe'i bedyddiwyd yn Eglwys blwyf Llangefni ar 29 lonawr 1837. Crydd oedd y tad wrth ei alwedigaeth a phreswyliai ef a'i deulu yn Clifton House, Heol yr Eglwys. Medrai sgrifennu a darllen. Gwyddys hyn oherwydd fe etifeddodd Richard rai llaw­ysgrifau a nifer o lyfrau ar ei ôl.

Bu rhai o'r plant, onid y cyfan, mewn rhyw ysgol neu'i gilydd yn Llangefni, a diau fod Richard wedi cael peth addysg. Medrai sgrifennu'n weddol dwt, eithr trwsgl iawn oedd ei sillafu yn Gymraeg a Saesneg. Ni bu'n hir iawn wrth ei wersi yn yr ysgol a cheir hanes amdano yn un ymhlith chwech o weision ar fferm Dyffryn-gwyn - fferm 200 erw - pan oedd yn ddeuddeg oed.

Amaethid y lle hwn gan y Parchedig John Prydderch (1774­1864). Gwybu Richard Hughes ifanc farw ei fam ar 1 Mehefin 1855. Yn fuan wedi hynny ail­briododd ei dad, â Catherine, gwraig weddw a mam i o leiaf ddau o blant. Credaf fod un plentyn, Ann, wedi ei geni o'r ail­briodas yn 1859. Erbyn y flwydd­yn honno yr oedd Richard Hughes yn gertmon yn Nhŷ Hen Isaf.

Ar feysydd y lle hwnnw, yn trin y tir, y treuliodd flynyddoedd gorau ei fywyd. Ceir cipolwg ar ei fywyd beunyddiol mewn dydd­iadur a gadwodd dros y blynydd­oedd 1874/5. Wele gofnod cyntaf y dyddiadur:

Diau fod y gwas wedi ymuno â'r hen ferched yn y defosiwn boreol a thrwy hynny ymgydnabod â'r Ysgrythurau. Edrydd hefyd am y troeon yr âi'r merched i'r capel. Ymaelododd ef ei hunan gyda'r Methodistiaid Calfinaidd yn Llannerch-y-medd, - a gwyddys iddo fod yn ffyddlon a dyfal yn Ysgol Sul Peniel gerllaw Tŷ Hen Isaf - Ysgoldy'r Annibynwyr. Yn niwedd ei oes fe'i hanrhydedd­wŷd â Medal Gee. Anturiai rigymu ar dro ac fel hyn y canodd pan fu farw Bwsan y gath:

***

YMHEN yrhawg daeth merch ifanc i weini i Blas Medd gerllaw Tŷ Hen Isaf. Yr oedd hi yn wnïad­wraig fedrus. Margaret (1863-1935) oedd ei henw a hi oedd merch hynaf y Capten John Williams o Lanfairpwll. Er ei bod hi chwarter canrif yn ieuengach na gwas Tŷ Hen Isaf fe ymserchodd y naill yn y llall a phriodi. Ym­gartrefodd gyda'i gŵr a'r ddwy hen ferch.

***

AR MAWRTH 11 1919 fe luniodd ei ewyllys olaf. Rhoddes £100 at Genhadaeth Dramor y Methodist­iaid Calfinaidd, ac wele ei drefniant ynglŷn â'i lyfrau:

Bu fyw y casglwr llyfrau ugain mlynedd ar ôl rhoi y pender­fyniad uchod ar glawr. Nid oes wadu mai Thomas Shankland (1858-1927), Llyfrgellydd Coleg Bangor er 1904, a ddylanwadodd ar Richard Hughes i weithredu fel hyn. Daethant yn bennaf ffrindiau a byddent yn cyniwair arwethian­nau llyfrau gyda'i gilydd.

Galwai Shankland yn aml yn Nhŷ Hen Isaf. Mewn llythyr o gydymdeimlad, dyddiedig 2 Tachwedd 1930, fe ysgrifenna Mrs. M.S. Shankland, gweddw'r llyfrgellydd, at weddw Richard Hughes:

Bu ymgais aflwyddiannus i gael gan Richard Hughes i drosglwyddo'i lyfrau i'r Llyfrgell Genedlaethol. Fel hyn yr ysgrifen­na J.E. Lloyd (1861-1947) at Shankland i'w rybuddio, 31 Awst 1907:

Tebyg fod J.E. Lloyd wedi cam­ddeall Richard Hughes i ryw fesur oherwydd nid oedd y casglwr llyfrau wedi rhoi ei ewyllys ar glawr y pryd hynny.

Diau i Shankland ddal ar rybudd J.E. Lloyd a chael gair pellach â Richard Hughes i'w gymell i drefnu bod ei lyfrau yn mynd i Fangor yn ddi-ffael. Cytunodd i wneud hynny. Bu Shankland farw o flaen Richard Hughes, a'i olyn­ydd Thomas Richards a gafodd y fraint o dderbyn llyfrgell Tŷ Hen Isaf i Fangor.

***

BU RICHARD Hughes yn orweddiog am chwe blynedd olaf ei oes. Fe hunodd ar 29 Hydref 1930 yn 93 oed. Dymunasai gael angladd preifat, a phrynhawn Sadwrn, 1 Tachwedd, fe'i hebryngwyd i feddrod ei rieni yn Llangefni, a hynny ar ysgwyddau aelodau ei ddosbarth Ysgol Sul ym Mheniel. Profwyd ei ewyllys ar 7 lonawr 1931.

Caniataodd ei weddw i'w lyfrau fynd i Fangor yn fuan wedi hynny. Dygwyd tua deg tunnell ohonynt i orsaf Llannerch-y-medd ac oddi yno fe'u cludwyd ar y trên i Fangor ar 11 Mawrth. Clod i Thomas Richards am ysgrifennu dwy erthygl, y naill i'r North Wales Chronicle, a'r llall i'r Genedl Cymreig i ddwyn sylw at rodd werthfawr y gwerinwr o gasglwr llyfrau. Ei obaith yn sicr oedd denu eraill i ddilyn esiampl y rhoddwr.

Gadawyd rhai cylchgronau yn Nhŷ Hen Isaf a chadwodd y teulu bentwr o lyfrau Saesneg. Am y gweddill, dros dair mil o lyfrau a llawysgrifau, y maent yn ddiogel yn Llyfrgell Coleg Prifysgol Gogledd Cymru. Fodd bynnag, y mae yn fy meddiant i un llaw­ysgrif bwysig a ddylai fod yno - catalog Richard Hughes o gynnwys ei lyfrgell. Gyda chymorth hwnnw rhoddaf yn yr ysgrif nesaf frasolwg ar rai o'i lyfrau.