TYWYDD MAWR - OND WELE HELFA FRAS
gyda W.J.Edwards
AR NOSON arw o aeaf ddwy flynedd yn ôl galwodd perthynas fi ar y ffôn gan ofyn a garwn fynd gydag ef i olwg "hen lyfrau" yn llofft tŷ perthynas iddo ef (ond nid i mi) yn Aberdyfi. 'Roedd y perthynas hwn wedi marw ers mwy nag ugain mlynedd ac yr oedd ei weddw a'i ferch ar fin symud o’r tŷ trillawr i fynglo. Ond cyn mynd 'roedd eisiau clirio a llosgi a bu ond y dim i’r cyfrolau fynd yn ebyrth i’r fflamau.
Atig y tŷ oedd y trydydd llawr a thrwy esgyn ysgol i fynd drwy'r ceuddrws bychan yn y nenfwd yr oedd cyrraedd yno. Yn ôl yr olwg ar yr oruwch-ystafell lychlyd ni fu neb ar ei chyfyl ers blynyddoedd: er marw gŵr y tŷ efallai.
Ond ynghanol y llwch a'r baw ac yng ngolau lampau a chanhwyllau bu Gwilym a minnau yn byseddu llyfrau a chylchgronau am oriau. Wedi llanw bocseidiau a chlymu bwndeli a rhannu'r ysbail rhyngom dyma gyrraedd Llanuwchllyn a phan ddaeth hamdden bwrw iddi i archwilio'r helfa.
'Roedd gen i sawl cyfrol o Amryw eisoes ond dyma ffeindio fy mod wedi cael hanner dwsin arall. Gŵyr y cyfarwydd mai casgliad o lyfrynnau wedi'u rhwymo'n un gyfrol helaeth yw cynnwys Amryw ac yn y rhai a ddaeth o Aberdyfi y mae cryn swm o bregethau a thraethodau diwinyddol, esboniadau a barddoniaeth.
Yn un ohonynt ceir Gramadeg Cymreig, Caledfryn, mewn un arall Esboniad Byr o'r Deg Gorchymyn, Griffith Jones, Llanddowror, ac eto Dwy Araeth Dros Y Beibl Gymdeithas o dridegau'r ganrif ddiwethaf. 'Rwy'n falch o'r gyfrol lle ceir Hanes Byr o Fywyd Howell Harris (gyda darlun) gan Nathan Hughes a Marwnad enwog Pantycelyn iddo sy'n dilyn.
O gofio fod y cymeriad diddorol hwnnw Azariah Shadrach yn cael ei ddisgrifio ar ei garreg fedd ym mynwent Aberystwyth (ger y castell) fel "Bunyan Cymru" mae'n dda gen i fod mwy nag un o'i bamffledi ef yn y casgliadau.
***
CYNRYCHIOLIR argraffwyr a chyhoeddwyr llawer lle yng Nghymru yng nghyfrolau Amryw, rhai adnabyddus iawn megis E. Williams, Heol y Bont, Aberystwyth; John Jones, Llanrwst; John Jones, Llanidloes; R. Hughes & Son, Wrecsam; Thomas Price, Merthyr; J. & J. Parry, Caerlleon; L.E. Jones, Caernarfon a Robert Saunderson, y Bala. Mewn cyfrol fach arall, Gwirionedd y Grefydd Gristionogol o waith Hugo Grotius a gyfieithwyd gan Edward Samuel ceir Crybwyllion am yr Awdur ar Cyfieithydd gan D. Silvan Evans. Y mae'r gyfrol a argraffwyd gan William Spurrell, Caerfyrddin, MDCCCLIV, yn fwy gwerthfawr am fod y geiriau yma y tu mewn i'r clawr; "The gift of D. Silvan Evans to Gwen Edwards, Minffordd".
Yn rhifyn Mawrth 1978 o'r Casglwr y mae Melfyn R. Williams yn trafod Yr Hen Gyfrolau Meddyginiaethol, ac yn nodi Llysielyfr Teuluaidd D.T. Jones, Llanllyfni. Yn argraffiad Humphreys, Caernarfon fe ychwanegwyd Llysieuaeth Feddygol gan Thomas Parry, Glan y Gors, Tre'rgarth ac mi 'roedd honno yn y llwch yn Aberdyfi.
Trysoraf yn ogystal yr un cyfrol ar bymtheg o'r Traethodydd mewn rhwymiad cain yn cychwyn gyda'r gyntaf i'w chyhoeddi ym 1845. Un o wŷr mwyaf amlwg y ganrif ddiwethaf oedd Ieuan Glan Geirionydd a phan oedd yng Nghaer yn cynorthwyo John Parry ymgymerodd â golygu'r Gwladgarwr ym 1833. Mae'r tair cyfrol a olygwyd ganddo a'r ddwy a'u dilynodd ar fy silffoedd ar ôl y cyrch ar yr atig.
***
CYN TERFYNU carwn sôn am y tair cyfrol hynaf y deuthum o hyd iddynt, tair cyfrol Saesneg ond bod un ohonynt â chysylltiad agos â Chymru. The British History, Sieffre o Fynwy yw honno ac argraffiad 1718 sydd gennyf mewn cyfrol ragorol. Yn Llundain yr argraffwyd hi; "... for J. Bowyer at the Rofe in Ludgate Street. H. Clements at the Half-Moon, and W. and J. Innys at the Princess Arms in St. Paul's Church-Yard". Y mae un William Primrose wedi torri ei enw droeon ar ddalennau gwahanol ac ar dudalen ola'r gyfrol ceir yr arysgrif yma: "William Primrose his book giveing him by the Right. Honble. Mrs. Ursula Windsor at Stratford 1730". Byddai'n dda gwybod pwy oedd y ddau.
Argraffwyd yr ail gyfrol ym 1799 ym Manceinion, "... at the office of W. Shelmerdine & Co. No. 3 bottom of Deansgate." Dyma sydd ar y dudalen deitl: "The Genuine Epistles of the Apostolical Fathers, St. Barnabas, St. Ignatius, St. Clement, St. Polycarp, of the Shepherd of Hermas, and the Martyrdoms of St. Ignatius and St. Ploycarp". Mae'r 253 tudalen yn gwbl lan.
***
GADEWAIS y gyfrol hynaf hyd yn olaf ac y mae hon yn 374 oed. 'Does dim enw argraffydd arni dim ond: "Imprinted with licence, Anno Domini 1604." Dyma sydd ar y dudalen deitl: "The Third Part of a Treatise, Intituled: of three Conuerfions of England; conteyninge. An examen of the Calendar or Catalogue of Protesfant Saints, Martyrs and Confeffors, diuifed by John Fox". Y mae mynegai helaeth wedi'i ychwanegu at y 530 tudalen. Yn dilyn ceir: "A Relation of the Triall Made Before the King of France, upon the yeare 1600, betvveene the Bishop of Eureux, and the L. Pleffis Mornay" sy'n 237 o dudalennau. Y mae'r gyfrol wedi'i hargraffu'n hynod gain ac y mae un Robert Davies wedi torri'i enw mewn dau le arni.
'Rwy'n falch o'r alwad ffôn a'm dygodd i'r llofft lychlyd yn Aberdyfi a phwy a ŵyr na ddaw galwad debyg eto. Gan fy mod yn ysgrifennu yn y gwanwyn pan mae'r chwiw lanhau yn gafael megis twymyn mewn rhai gwragedd byddwn yn barod i ddeddfu y dylid carcharu pawb sy'n taflu a llosgi hen bapurau a llyfrau a chylchgronau!
O son am losgi mae gen i gasgliad o hen ddyddiaduron saer maen a thorrwr beddau Eglwys Llanuwchllyn o'r ganrif ddiwethaf a achubwyd gan saer presennol y pentref pan oedd un o deulu'r hen saer maen yn cynnau coelcerth yn yr ardd rai blynyddoedd yn ôl. Mae penodau difyr o hanes Llanuwchllyn ym mhlygion yr hen ddyddiaduron.