MANION gan Glyn Evans

MAE'N rhyfedd fel ag y mae'r pethau sy'n ein gwneud i chwerthin yn newid. Dyma, er enghraifft, jôc (neu 'Difyrion' fel y'u gelwid) a gyhoeddwyd yn hanner olaf y ganrif ddiwethaf:

Ni orfodir rhywun i chwerthin o'i hochr hi rywsut.

***

MAE PAWB o'r bron yn gwybod y dywediad, "Beibl i bawb o bobl y byd" a llawer ohonom wedi ei ddefnyddio heb feddwl eilwaith o ble daeth na phwy a'i lluniodd.

Ymddengys mai llinell o englyn yw'r dywediad a gyhoeddwyd yn y Drysorfa ym 1809. Yr awdur ydoedd Robert Williams, Pandy Isaf, Y Bala a gladdwyd ym mynwent Llanfor ym 1815 yn 71 oed.

Dyma'r englyn:

Yn ddiddorol dywedir bod yr un llinell i'w gweld yn awdl fudd­ugol Eisteddfod Wrecsam 1820, Sior y Trydydd, gan Fardd Nantglyn: