LLYTHYRAU BOB - A'R ARWERTHIANT

OS BYW ac iach cawn gyfarfod yng Nghaerdydd yn y Brifwyl. Cofiwch am y cwrdd blynyddol a'r ddarlith, a bydd croeso i chi yng nghornel Gwasg Gwynedd ar y maes. Dyma gyfle i sicrhau aelodau newydd - a bydd ychydig gopïau o ôl-rifynnau Y Casglwr ar gael yn y babell.

Hyderwn y manteisiwch ar y cyfle i hysbysu eich anghenion llyfryddol - yn eisiau neu ar werth - am ddim yn Y Casglwr. Ac y mae'r apêl am gyfraniadau yn parhau. Ceisio gofalu nad yw'r cylchgrawn yn llai nag un ar bymtheg o dudalennau, a golyga hynny gryn ysgrifennu ar ran rhywrai.

Ar y tudalennau canol mae awgrym gan Robin Gwyndaf - beth am gasglu a chyhoeddi llythyrau Bob Owen? Nid tasg fechan a fyddai honno, ond cryn help fuasai cael gair gan y darllenwyr sydd â llythyrau yn eu meddiant, neu sy'n gwybod ble mae rhai. Yna, gallesid archwilio'r posibiliadau.

Ar y teledu gwnaed awgrym diddorol gan y Llyfrgellydd Cen­edlaethol - sef y dylasai Cym­deithas Bob Owen ystyried trefnu arwerthiant mawr ar gyfrolau Cymraeg a Chymreig yn ystod wythnos y Brifwyl bob blwyddyn. Arwerthiant cyhoeddus (fel yn Sotheby) a olygai. Pe gallesid ei threfnu buasai'r fenter yn help aruthrol i bennu prisiau cyfrolau ail-law - sydd ar y funud yn anwadal, a dweud y lleiaf. Beth ddywedwch chi?

Y BRIFWYL

BYDD STONDIN gan Gymdeithas Bob Owen dan nawdd Gwasg Gwynedd ar Faes y Brifwyl. Galwch yno i dalu eich dyledion, a dowch â thanysgrifwyr newydd yno.

Y DDARLITH

TRAETHIR y ddarlith eleni gan J. Brynmor Jones. Ei destun 'Llyfrau Cymraeg Llyfrgell Rydd Caerdydd.' Yr amser a'r lle - DYDD IAU am 10 o'r gloch ym Mhabell y Cymdeithasau. Hwn fydd cyfarfod blynyddol y Gymdeithas, ond bydd croeso i bawb.