HEN GYFROLAU DIARFFORDD gan D.Tecwyn Lloyd

GAN MLYNEDD yn ôl a mwy yr oedd llawer yn ymfudo o'r ardaloedd gwledig i chwilio am waith yn y cymoedd glo a'r gweithiau haearn a dur. Cymry uniaith oedd llawer ohonynt a hwy oedd yn prynu llyfrau a chylchgronau a phapurau Cymraeg o bob math o tua 1860 ymlaen. Darllenent lyfrau crefyddol, llyfrau hanes ac, ar dro, gweithiau mawr fel Y Gwyddon­iadur Cymreig, ond nid mor hysbys, efallai, yw'r ffaith eu bod hefyd yn mynnu cael gweithiau a llawlyfrau Cymraeg ar bynciau technegol a gwyddonol. Cyfieith­iadau o'r Saesneg yw llawer o'r gweithiau hyn er y ceir ambell un gwreiddiol Gymraeg. Dyma rai enghreifftiau:

Hyd y gellir dweud, yn Gymraeg y sgrifennwyd y llyfr i ddechrau. Pwy, tybed, oedd yr awdur? Nid oes gair amdano yn y Bywgraff­iadur Cymreig nac yn Eminent Welshmen (Asaph). Math o wers­lyfr ar bynciau gwyddonol ydyw megis "Fferylliaeth y Ddaear', 'Yr Awyr', 'Y Deyrnas Lysieuol', 'Yr Haul', 'Goleuni', 'Gwres', 'Y Corff Dynol', ac ati.

Mae'n llyfr corffol o 234 tudalen (crown 8vo). Yn yr adran sy'n trafod cemeg dangosir sut i wneud rhai arbrofion mewn labordy. Ceir tabl o'r elfennau ynghyd â'u 'pwysiant cyfunol' er bod yma rai elfennau na chlywais amdanynt yn unman arall megis Ilimenium, Norium a Pelopium, - dichon eu bod wedi newid enwau erbyn heddiw.

Yn sicr, dyma lyfr a ddylai fod ar silff pob gwyddonydd o Gymro sy'n ymddiddori yn hanes ei faes. Hoffaf ei air 'creidd-ffoawl' am 'centrifugal'.

***

GWAITH MWY cyfyng a manwl dechnegol yw:

Dengys y manylion uchod beth yw pwrpas y llyfr. Trwy astudio'r deunydd hwn, gallai Cymro uniaith fynd trwy arholiadau'r M.E., yn ei iaith ei hun ac mae'n amlwg fod llawer yn gwneud a bod mynd ar y llyfr. Pwy tybed oedd y Parch. W. Hughes, F.R.G.S.? Nid yw'r Bywgraffiadur nac Asaph yn son amdano. Tebyg ei fod yn weinidog neu offeiriad yn un o ardaloedd y glo.

Ymddengys bod y fersiwn Saesneg gwreiddiol yn dra phoblogaidd canys o'r nawfed argraffiad y cyfieithwyd ef i Gymraeg. Yr hyn sy'n ddiddorol i ni heddiw ydyw gweld mai o reidrwydd economaidd, fel petai, ac nid oherwydd polisi diwyd­iannol ynglŷn â dwyieithedd y cyhoeddid llyfrau fel hwn ar ddiwedd y ganrif ddiwethaf.

***

NID GWAITH mor hawdd yw disgrifio cyfieithiad Jenkin Evans, Blaenllecha', Rhondda: sef,

Ffrenolegydd, - dyn darllen pennau, - oedd George Combe (1788-1858) a mab i fragwr o Gaeredin. Ymddengys iddo sgrifennu llawer ar ffrenoleg ac ef a sefydlodd y Phrenological Society ym 1820 a'r Phrenological Journal ym 1823. Teitl gwreiddiol y cyfieithiad uchod oedd 'Essay on the Constitution of Man' (1828) ac erbyn 1883 cafwyd naw argraffiad ohono. Traethawd hirfaith ydyw ar egwyddorion sylfaenol y pwnc.

O ddiwedd y ganrif ddiwethaf hyd tua 1920 bu cryn fynd ar ddarllen pennau yng Nghymru, yn arbennig yn yr ardaloedd diwydiannol, poblog. Mewn hen hysbysebion gwelir enwau'r rhai oedd wrthi, pobl hynod urddasol yn arddel y teitl 'Prof.' o flaen eu henwau a rhes o ddiplomau anarferol yn dilyn eu henwau. Ystyrrid yr holl bwnc yn 'wydd­oniaeth' ac y mae hanes gweddol faith iddo.

Erbyn heddiw, darfu pob son amdano, ond mewn cofiannau enwogion tua dechrau'r ganrif hon (e.e. Cofiant a Barddoniaeth Ben Bowen) yr oedd rhai cofianwyr yn gofalu cynnwys darlleniad ffrenolegol o 'ermigau'r' gwrthrych!

***

LLYFRYN DIGON prin, mae'n siŵr, yw un a gefais yn Abertawe ryw flwyddyn yn ôl am ugain ceiniog: hwn,

Pwy feddyliai! Nid oes dim dyddiad ar y llyfr ond a barnu oddi wrth ei 'bryd a'i wedd' dyfalaf mai rywdro rhwng 1900 a 1920 y cyhoeddwyd ef. Yr argraffwyr oedd 'Burt a'i Feibion', Argraffwyr Cymreig, 58 Porchester Road, Bayswater, W. A phwy, tybed, oeddyn' nhw? A John Ashton? Cyhoeddiad preifat ydoedd, mae'n amlwg.

Fel cyfieithiad, rhaid addef ei fod yn ddigon i beri i ddyn droi at y stori fel ag y ceir hi yn Y Saesneg 'anghyfieith'. Pethau fel' '... ond sylwodd gyda rhyfeddod ar fawredd yr esmwythâd a ymddangosai ar wyneb y trulliad, a chyda dim llai efallai, fod y gwin eto heb ei brofi pan y dododd ef i lawr i ddilyn.' Hm, ie, ... wel... Eto i gyd, chwedl Bob Owen, 'prin!'