HEN GEINDER MEWN COCH, GLAS A MELYN ~
Arolwg gan E.D.Jones
SONIAI Syr Owen M. Edwards lawer am gynhyrchu llyfrau cain, ac yn ddiamau gwnaeth lawer i wella chwaeth mewn cyhoeddi llyfrau Cymraeg. Nodwedd arbennig ei gyfraniad ef oedd cynnwys darluniau a threfnu cael rhwymiad syml a destlus i'w lyfrau. Nid oes arwydd ei fod yn poeni llawer am y papur a ddefnyddid. Ei brif amcan ef oedd cynhyrchu llyfrau i symbylu darllen eang. Nid oedd ganddo ddiddordeb mewn argraffu preifat cyfyngedig ar linellau gweisg enwog Lloegr yn ei ddydd.
Yn gymharol ddiweddar y cymerodd pobl Cymru ddiddordeb mewn argraffu cain ar bapur gwaith llaw. Gwasg Gregynog a ddug yr elfen hon i ymwybyddiaeth artistig Cymru. Hawdd yw cymryd yn ganiataol na fu dim tebyg tan y cyfnod rhwng y ddau Ryfel.
Ond fe fu Cymdeithas ddethol yn cyhoeddi'n breifat yng Nghymru rhwng 1900 a 1915. Fe ddechreuodd mewn sgwrs rhwng John Ballinger, prif lyfrgellydd Dinas Caerdydd ar y pryd, a'r Llyfrgell Genedlaethol wedyn, a John Humphreys Davies, Cwrt Mawr. Yr oedd yn ofid i John Ballinger nad oedd llyfrau tlws a chain yn cael eu cynhyrchu yn y Gymraeg. Yr oedd gan J.H. Davies ddiddordeb mewn llawysgrifau a hen lyfrau. Addawodd John Ballinger fynd yn gyfrifol am drefnu argraffu a chyhoeddi ond i J.H. Davies gymryd y cyfrifoldeb am ddethol a golygu testunau addas.
Cafwyd addewid am gefnogaeth ariannol gan Syr John Williams, yr Athro Edward Anwyl, Dr. J. Gwenogfryn Evans, a oedd ei hun yn cyhoeddi hen lawysgrifau Cymraeg mewn diwyg urddasol, a T.J. Evans, golygydd Celt Llundain. Y chwe gŵr hyn oedd aelodau Cymdeithas Llên Cymru, fel y gelwid hi, a'r bwriad oedd rhannu'r llyfrau arfaethedig rhyngddynt, ond daeth eraill i wybod am y cynllun a chynnig prynu copïau. Felly argraffwyd mwy nag a fwriadwyd yn wreiddiol.
Gan mai yng Nghaerdydd yr oedd John Ballinger nid yw'n ddim syndod mai William Lewis, Heol y Duc, yn y ddinas honno, a ddewiswyd i argraffu llyfrau'r Gymdeithas. Papur J. Whatmore a ddewiswyd, a'i blygu'n bedwarplyg heb docio'r ymylon. Y mae'r llyfrau mewn amlen bapur ychydig yn lletach na chorff y llyfrau.
Ceir tair cyfres yn gwahaniaethu yn lliw'r amlenni. Gellir cyfeirio'n hwylus atynt fel cyfres las, melyn, a choch. Argreffir manylion am nifer a dyddiad argraffu ar gefn dalen deitl pob cyfrol. Y ffurf yn Gymraeg yw 'Argraffwyd yn gyfrinachol dros Gymdeithas Llên Cymru...'
Dyma restr o'r llyfrau yn y tair cyfres. Rhoir y nifer a argraffwyd mewn cromfachau.
- Y Gyfres Las
I. Carolau: gan Richard Hughes. A godwyd o hen lawysgrif, ac a argreffir yn awr am y waith gyntaf. Awst 1900 (45). 31 tt. II. Hen Gerddi Gwleidyddol: 1588-1660. A godwyd o hen lawysgrifau, ac a argreffir yn awr am y waith gyntaf. Ebrill 1901 (120). 45. tt. III. Casgliad o hen ganiadau serch: yn cynnwys rhai o briodoliryn gyffredin i Rys Goch ap Rhiccert ab Einion ab Collwyn. Gorffennaf 1902. (200). 51 tt. IV. Casgliad o Hanes-gerddi Cymraeg. Mawrth 1903. (150). 49 tt. V-VI. Caniadau yn y mesurau rhyddion, gyda Rhagymadrodd ar godiad a datblygiad barddoniaeth rydd yn y Gymraeg. Tachwedd 1905. (125). 74 tt.
Y gyfrol ddwbl hon oedd cyfrol olaf y gyfres a chymerwyd y cyfle i argraffu rhestr o dderbynwyr y cyfrolau yn ychwanegol at y chwech aelod.
Mae hon yn rhestr ddiddorol am ei bod yn dangos pwy a pha ddosbarthiadau o bobl a oedd yn barod i noddi argraffu cain. Ymhlith y deg sefydliad a dderbyniai gopïau yr oedd y Tredegar Workmen's Institute. Pa siawns fyddai gan lyfrau cyffelyb i gael lle heddiw mewn sefydliad o'r fath? A pha beth fu tynged y llyfrau a dderbyniwyd yno gynt? Tri llyfrwerthwr sydd ar y rhestr: Charles Joyce, Casnewydd, y Brodyr Maggs yn Llundain, a W.H. Roberts, Cecil Court.
Ymhlith yr unigolion (87 ohonynt) yr oedd tri Almaenwr, Kuno Meyer, L.C. Stern, a Heinrich Zimmer. Dyma ddetholiad o'r enwau: Daniel Davies, Ton, J. Glyn Davies, Ellis Edwards, C.M. Edwards, A.W. Wade-Evans, E. Vincent Evans, D.G. Goodwin, Gwili, L. Lloyd John, Corwen, M.O. Jones, Treherbert, T. Gwyn Jones, Caernarfon, Elfed, J.E. Lloyd, Thomas Matthews, John Morris, Llansannan, A.N. Palmer, Morris Parry, Elis o'r Nant, Ernest Rhys, John Rhys, W.Ll. Roberts, Pen-y-bont Fawr, R. Peris Williams, Richard Williams, Celynog , W. Llewelyn Williams.
Llyfrau Saesneg sydd yn yr ail gyfres, ond y maent yn ymwneud a hanes Cymru. J.H. Davies yn sicr a ddewisodd y llyfrau ac ef a ysgrifennodd y rhagymadroddion fel ag i'r gyfres las. Perthyn i'r ail ganrif ar bymtheg y mae'r llyfrau a atgynhyrchwyd.
- Y Gyfres Goch.
I.The Parliament explained to Wales by John Lewis, of Glasgrug, Llanbadarn Fawr. Awst 1907. (125). 35 tt. Teitl y gwreiddiol oedd Contemplations upon these times, or, the Parliament explained to Wales...by a gentleman, a cordial well-wisher of his countries happinesse... 1646. II. An Act for the Propagation of the Gospel in Wales. 1649 III. Strena Vavasoriensis. A New Medi 1908. (125) 32 tt. IV. Strena Vavasoriensis. A New Years Gift for the Welsh Itinerants or a hue and cry after Mr. Vavasor Powell by Alexander Griffiths (1654). Mawrth 1915. (200). 36 tt.
- Y Gyfres Felen.
Un gyfrol yn unig a ymddangosodd yn y gyfres hon, sef
- Emynau I. Gwaith Morgan Rhys: o dan olygiaeth y Parch.
H. Elvet Lewis... Rhan I: Golwg o Ben Nebo (Yn ôl Argraffiad 1775) Awst 1910
(150) 128 tt.
Hon oedd cyfrol fwyaf trwchus y Gymdeithas, ac y mae'n amlwg y bwriedid iddi fod yn ddechrau cyfres o adargraffiadau o lyfrau emynau.
***
FEL Y gwelir, argraffiadau cyfyngedig oedd y rhain i gyd, eto mae'n ymddangos fod mwy o gopïau wedi eu hargraffu nag a oedd o brynwyr iddynt. Rai blynyddoedd yn ôl fe'u gwelid yn ddigon aml mewn siopau llyfrau ail-law a chredaf i Galloway yn Aberystwyth sicrhau nifer o gopïau. Beth bynnag, gan eu bod yn llyfrau a drysorid, yr oedd y rhai ail-law mor berffaith a rhai newydd. Gellid eu prynu'n rhad, o hanner coron i dri swllt yr un am y gyfres las, ond mwy fel pymtheg swllt am y gyfres goch. Nid ydynt i'w gweld mor gyffredin heddiw. Mae'r cyfresi yn llawn deilyngu sylw casglwyr.
Yr oedd Thomas Shankland yn un o dderbynwyr y llyfrau, a chystal cyfeirio yma at ddwy gyfrol unffurf a'r gyfres goch, a olygodd ef ar ran Cymdeithas Hanes Bedyddwyr Cymru, y byddai'n werth eu casglu gyda llyfrau Cymdeithas Llên Cymru.
- I. An Antidote against the infection of the times (1656) 1904 56 tt.
II. Llythyrau oddiwrth y Gymanfa at yr eglwysi (1760‑1790). Rhan 1. ?
1910 (ar bapur Whatman 1909). 45 tt.
Ni roddir manylion am y nifer a argraffwyd o'r ddau lyfr hyn, ond y mae'n rhesymol dadlau fod ychydig dros ben aelodaeth Cymdeithas Hanes y Bedyddwyr ar y pryd wedi eu hargraffu.