HEN DDIFYRRWCH GWŶR CAERNARFON - AC ERAILL ~
Gair ymylol gan Prys Morgan

BETH YW'R gair Cymraeg am Marginalia; a fyddai 'ymylebau' yn gneud y tro? Mae'r Saeson wedi llyncu'r gair yn gyfan oddi wrth y Lladin, ac fe allwn ni wneud yr un peth, mae'n debyg. Byddaf bob amser yn dwrdio aelodau eraill o'r teulu (yn enwedig un sydd a'i enw'n weddol gyfarwydd i'r darllenwyr) am sgriblan pob math o nodiadau ar ymyl tudalennau'r llyfrau yn gwbl ddigwilydd, nes anharddu'r papur cymen. 'Cymhennu' yw'n gair ni yn y De am ddweud y drefn, ac mae'n hollol addas yn y cyswllt yma.

Ond y mae'n ddigon posib fy mod ymhell o'm lle wrth ddwrdio. Wrth edrych dros yr hen gyfrolau a gasglwyd yma, mi welaf mai yn yr 'ymylebau' y mae llawer o ddiddordeb y llyfrau. Yn wir, mae ambell gyfrol y gellir dweud amdani mai ar yr ymylon yn unig y mae'n ddiddorol.

Nid bod hynny'n wir, cofiwch, am un o'm ffefryn-gyfrolau, sef Edward Jones 'Bardd y Brenin', Musical and Poetical Relicks of the Welsh Bards (Llundain, argraffiad cyntaf 1784). Bu hon lawer tro ar y piano yn y parlwr pan oeddwn yn blentyn, ac 'rwyf yn para i'w darllen gyda phleser. Ond am ei 'hymylebau' 'roeddwn i am sôn.

Bu'r gyfrol ym meddiant David Thomas, Dafydd Ddu Eryri, neu 'David Thomas Waun Fawr' fel y mae'n sgrifennu ei enw. 'Roedd yn gyfaill mawr i Edward Jones yn ôl cofiant Bardd y Brenin gan Mr. Tecwyn Ellis, ac 'roeddent yn gohebu'n gyson rhwng 1785 ac 1800, ac hyd yn oed wedi hynny 'roedd Dafydd Ddu yn casglu deunydd dros Fardd y Brenin at ryw gyfrol nas cyhoeddwyd mohoni ar lên-gwerin ac arferion gwlad.

Yn un o'r llythyrau mae Dafydd Ddu yn diolch yn fawr am gael copi cyfarchiol o'r Relicks (argraffiad 1784), a diau mai ein cyfrol ni yw honno.

***

BU DARLLEN manwl ar y gyfrol, a Dafydd Ddu yn croesi allan ambell beth, ac yn ychwanegu nodyn dro arall. Ambell dro mae'n ysgolheigaidd; er enghraifft lle mae'n cysylltu'r 'Aber Ciog' y mae'r Parch. R. S. Thomas wedi bod yn chwilio yn ofer amdano a Dôl Giog (Dôl Guog) ger Machynlleth.

Dro arall mae'r nodyn yn ebychiadol. Yn y penillion telyn 'roedd yn ddigon naturiol i ddyn o'r Bala fel Edward Jones sgrifennu "pyngcie" a "tanne" ond mae Dafydd Ddu, a oedd wedi'r cyfan yn ramadegwr ac athro, yn ei gywiro a'r geiriau "O Ffei!" Mae'n galw awdur gwrth-Gymraeg y Letters from Snowdon yn " chwiw Leidr lleuog" yma.

Fel y gwyddys, mae Edward Jones yn y Relicks yn ceisio cyfieithu hen benillion telyn i'r Saesneg. Mae Dafydd Ddu yn hon hefyd yn gneud ei gyfieithiadau ei hun. Dyma esiampl o'r math o beth sydd ganddo ar ymyl y ddalen:

***

ENW ARALL ar ymylon y tudalennau yw enw Robert Griffith Pen y Cefn. Ceir ei hanes yn y Bywgraffiadur. Un o Ben y Cefn Llanbeblig ydoedd ac yn cyd-oesi â Dafydd Ddu yn ail hanner y 18 ganrif a dechrau'r 19 ganrif. Dywed mai ei law ef sydd yma and mai i 'David Thomas y Bardd Mawr' y mae'r gyfrol yn perthyn.

Cantwr Salmau neu 'singing master' ydoedd ar hyd a lled Gwynedd, awdur nifer o donau emynau yn Brenhinol Ganiadau Seion, ac ef yw awdur y melodi 'Difyrrwch Gwŷr Caernarfon'. Gyda llaw, onid yw hi'n drueni na fyddai rhai o'n cerddorion ifainc ni yn mynd ati i berfformio peth o fiwsig y cerddorion Cymreig yma o'r ddeunawfed ganrif, fel Ioan Rhagfyr? Mae'r Saeson wedi atgyfodi digon o fân­gyfansoddwyr Lloegr o'r un cyfnod.

Beth bynnag, 'roedd Robert Griffith wedi darllen y gerdd­oriaeth yn y gyfrol hon yn ofalus, ac ef mae'n debyg sy wedi tynnu llun bychan o ferch yn chwarae'r delyn deires ar glawr cefn y llyfr.

Mae'n ein hatgoffa ni bod llawer iawn o fenthyg llyfrau yn y 18 ganrif, gan mor dlawd oedd y Cymry bryd hynny, ac felly nid yw'n syndod bod cymaint o rybuddion tu fewn i gloriau'r hen lyfrau yn erbyn y rheini sy'n anghofio rhoi llyfrau, yn ôl.

Wn i ddim yn union beth a ddigwyddodd i’r Relicks wedyn, ond mae'n debyg fod Edward Jones wedi anfon copi o'r ail argraffiad (1784) at Ddafydd Ddu, a chan fod cymaint rhagor o alawon yn yr ail argraffiad, mae'n fwy na thebyg fod Dafydd Ddu wedi ei werthu. Erbyn mis Mehefin 1798 'roedd y gyfrol ym meddiant John Blaquiere. Mab i fasnachwr o Lundain oedd John Blaquiere (1732-1812) a aeth allan i Iwerddon, a dal nifer o swyddi yno, yn dipyn o was­bach neu gynffonnwr i'r Saeson yno, ac yn un o'r aelodau Seneddol hynny a drefnodd basio'r Ddeddf Uno yn 1800.

Breib am basio'r Ddeddf Uno oedd ei deitl 'Lord de Blaquiere of Ardkill'. Daeth yn Gymrawd o'r Gymdeithas Frenhinol ac o Gymdeithas yr Hynafieithwyr. Mae'n amlwg ei fod yn teithio yn ôl a blaen o Lundain i Ddulyn yn bur aml, a digon tebyg iddo gael y gyfrol ar un o'r teithiau hyn trwy Wynedd ar ei ffordd i Ddulyn.

Ond mae De Blaquiere yn dod mewn i hanes Bardd y Brenin unwaith eto yn fwy uniongyrchol. Mae'n amlwg, er gwaetha ei waith bradwrus yn gwerthu Iwerddon yn 1800, ei fod yn ymddiddori mewn hynafiaethau ac mewn cerddoriaeth, ac yn enwedig yn y Delyn deires.

Mae Mr. Tecwyn Ellis yn argraffu llythyr at Fardd y Brenin yn 1801 oddi wrth ryw deulu o'r enw Bligh yn Llundain yn gofyn iddo ddod i gyfarfod â Lord a Lady De Blaquiere a oedd newydd ddod i fyny i Lundain o sir Ddinbych, ac am gael dysgu'r delyn Gymreig.

***

AR GLAWR cefn ein cyfrol ni mae darn, 'rwyf yn meddwl, yn sgrifen Lord De Blaquiere, cyfieithiad o ddarn o awdl Hywel ab Einion Lygliw i Fyfanwy Fychan. 'Upon Miss Myfanwy Vechan' sydd yma - 'rwyf yn hoffi'r Miss yn fawr iawn, gan ei fod yn llwyddo mor bert i dynnu Myfanwy o'i chastell mynyddig a'i gosod mor osgeiddig ar lawr parlwr neo-glasurol y cyfnod. Mae'r un peth yn wir am y cyfieithiad:

Ar ddiwedd y pennill mae'r llythrennau 'M J Th 0 L'. Nid yw'n amlwg i mi, ond efallai bod un o'r darllenwyr wedi dod ar draws y cyfieithiad yn rhywle. Byddwn yn ddiolchgar iawn o gael gwybod.