GWERTHFAWR DRYSOR ~
gan Mairwen Gwynn Jones - sy'n wrth-gasglwr!
MAE GEN i gyffes. Mae fy ngŵr yn un ohonoch chi'r casglwyr: gafaelodd y chwiw ynddo ers tro byd, a bu ei glefyd yn dipyn o gocyn hitio yn y tŷ. Petai cries 'Julie' heddlu Dyfed-Powys yn barod i ystyried y farsiandïaeth mewn llyfrau ail-law yn bla yr un mor anghymdeithasol, anghyfrifol a chwbwl ddiegwyddor â ffeirio cyffuriau, fel allent fentro gwneud cyrch ar ambell siop a stondin yn ardal Caerfyrddin 'ma! Gallwn warantu y dalient y gwenyn i gyd wrth y pot jam, y 'junkies' oll, a 'Monica' Saunders Lewis (prin), 'History of Carmarthenshire' J.E. Lloyd (mynd yn brinnach) a 'Cymru'r Oesau Canol' Robert Richards (prin iawn) yn noeth yn eu dwylo. Gallent ymffrostio fel y teiliwr bach diniwed gynt 'Saith ar un ergyd'!
Ond mae'n ymddangos i mi mai un o nodweddion, neu yn wir hanfodion, chi'r giwed casglwyr yw eich bod yn gwbl groendew. Gwrthwynebed gwraig fel y myn afradlonedd ei gŵr yn gwario'i bres ar gynnyrch crinsych llên y gorffennol, mewn lledr llwyd, yn hytrach nag ar angenrheidiau bwyd-a-dillad y presennol, - 'does, dim yn tycio.
Yn ddiweddar bu cydnabod o'r un brîd yma ar dro siawns. A deunydd y sgwrs? Cyfnewid profiadau casglu, wrth gwrs. Ar orchymyn meddyg ni chaiff y cyfaill hwn ddringo rhagor i groglofft ei dŷ i guddio'i ysbail llyfryddol. Rhaid cadw'r celc yn yr ystafell fyw. A mawr oedd y miri ba noson wrth ddisgrifio'r drafferth o geisio sleifio â'r Fargen Fawr - Beibl Peter Williams, argraffiad cyntaf, mewn cyflwr gwych, ac ati, ac ati - trwy ddrws y ffrynt ac i gornel fach gel o'r ystafell honno yn ddiarwybod i'r wraig. Wedi'r cyfan, nid aelod o Gyfres y Fil, mewn maintioli, yw Beibl Peter Williams.
"Deunydd drama!" mynte fy ngŵr, gan siglo chwerthin.
"Digywilydd", meddwn i, mewn Llais Deifiol, gan olchi 'nwylo o’r ddau ac ymneilltuo'n feirniadol i'r gegin.
***
MAWR FY nghyfyng gyngor, felly, pan ofynnwyd i mi am gyfraniad i'r Casglwr. "Unrhywbeth ar lyfrau plant," oedd yr awgrym. Pur anaml yr agorir y drws i erthygl ar lên plant yng Nghymru, heb son am ei agor mor llydan agored! "Unrhywbeth!" - ond i'r Casglwr, y papur sy'n rhoi sêl bendith ar fisdimanyrs y penteulu! Beth oedd i'w wneud? Bradychu fy holl egwyddorion?
Hyd y gwelaf y mae hanes Cymru, o ddyddiau'r hen dywysogion ac Arglwyddi'r Mers hyd y dydd heddiw, yn frith o weithredoedd rhywrai yn troi eu cotiau er mwyn ymladd eu hachos yn gryfach. Felly ar ôl dwys ystyried, dyma finnau'n setlo ar ddefnyddio arf y gelyn am y tro, a hynny yn bennaf er mwyn gwneud apêl.
Er cael fy nhemtio yn y drws agored i sôn am lawer agwedd, ffyniannus a gresynus, ar sefyllfa llên plant yn y Gymru gyfoes, hawdd a mwy priodol efallai yw cyfyngu'r ychydig eiriau hyn i'r wedd "casglu" ar y maes. Tebyg bod llawer ohonom, ar awr wan, yn troi am ysbrydoliaeth at gyfrol Gwynfor Evans "Aros Mae", gan dynnu nerth hyd yn oed o gyflwyniad y gyfrol honno:
"Bu anwybodaeth am hanes Cymru yn rhan bwysig o'r esboniad ar ddiffyg hyder cenedlaethol y Cymry ac ar eu diffyg ewyllys i fyw fel cenedl. Gall trafod y gorffennol Cymreig roi nerth yn y penderfyniad i sicrhau dyfodol cenedlaethol."
Mae'r frawddeg olaf hon yn arbennig o wir parthed hanes llên plant yng Nghymru. Dyw gofod ddim yn caniatáu imi olrhain yr hanes yn y fan yma, dim ond cyfeirio at y wyrth fod y llenyddiaeth honno, o gloffni nodweddiadol-grefyddol ac egnïol yr ail ganrif ar bymtheg, trwy gyfnod blaguro Tomos Levi, O.M. Edwards ac awduron plant troad y ganrif (Tegla, Winnie Parry, Moelona, R. Lloyd Jones, Fanny Edwards, E. Morgan Humphreys, Meuryn - i enwi rhai), i fyny hyd at ein dyddiau ni, wedi dal i ymgryfhau a blodeuo, a hynny ar waethaf pob rhwystr addysgiadol, ieithyddol a diffyg cyfryngau‑torfol. Rhaid iddi barhau i flodeuo nes dod â phlant Cymru yn nes at gynhaeaf toreithiog.
Un ffactor bwysig a wnâi gyfrannu at y cynhaeaf fyddai i ni ddangos parch ymarferol tuag at orffennol ein llên plant. Ni fyddai unrhyw genedl wir yn ei iawn synnwyr yn gadael i'w threftadaeth lithro o'i dwylo i'r fath raddau fel na fyddai mwy o'i hôl nag ôl y neidr ar y ddôl'.
Fe ddylai fod yng Nghymru gofnod manwl a gweladwy o bob un enghraifft o lyfr i blentyn neu berson ifanc a gyhoeddwyd yn Gymraeg er y cychwyn cyntaf. Dyma, wedi'r cyfan, gynsail ein llen, y maeth y bu ein llenorion - yn wir, ein gwerin - yn tynnu nodd ohono ers dwy ganrif. Meiddiaf ddweud nad ar 'Monica' a J.E. Lloyd a 'Cymru'r Oesau Canol' y bu, nac y bydd, plant yn torri eu dannedd!
***
O'R CHWEDEGAU ymlaen, fe gynyddodd diddordeb mewn llen plant ledled Ewrob - ie, dim ond o'r 1960au, felly fe allwn ddal i fyny yn y ras! Bellach y mae nifer fawr o wledydd a'u canolfannau neu eu casgliadau cenedlaethol, a rhai ohonynt yn dod yn enwog iawn: Cyngor Llyfrau Plant a rhan o Lyfrgell Congress yn Efrog Newydd, casgliad Osborne yn Toronto; canolfan a sefydlwyd ym 1968 yn Stockholm; canolfan yr Hague; yr Internationale Jugendibibliothek ym Munich; adran sy'n arbenigo yn y maes ym Mhrifysgol Frankfurt; a'r International Institute for Children's Literature yn Vienna - i enwi ond ychydig.
Gellir dysgu am y gweithgarwch brwd yn y gwledydd hyn yn y cylchgrawn cydwladol Bookbird, a braf gweld bod yna gyfeiriad at ddigwyddiadau yng Nghymru erbyn hyn yn y cylchgrawn diddorol hwnnw. Y mae inni le cydwladol.
Ond beth am gasgliadau a sefydliadau ym Mhrydain? Mae yna gasgliad yn yr Amgueddfa Brydeinig yn Llundain, a chasgliad yn y Llyfrgell Genedlaethol yn Aberystwyth. Ond ni roddir amlygrwydd mawr i'r casgliadau hyn.
Cof gennyf garafanio un haf ym Mhenparcau, a llusgo'r plantos i fyny rhiw Penglais i weld eu llyfrgell genedlaethol. (Y mae i garafanio ei uchelfannau, ar waethaf sen a dychan ambell fardd!) Gwelwyd gogoniannau Hengwrt a Pheniarth a Gregynog a Llansteffan. Yr oeddynt yn iawn yn eu lle, ond "Ble mae'n llyfrau ni, mam?" oedd y cwestiwn cyson, a naturiol.
***
A DYMA ddod at ail bwynt yn sgîl yr adwaith ifanc yna. Fe ddylai Cymru fod â'i chasgliad cenedlaethol cyflawn ac amlwg - gwir. Ond fe ddylai hefyd fod yn mawrygu'r casgliad hwnnw nid fel ffosil marw ond fel cnewyllyn hollbwysig mewn canolfan fyw iawn. Canolfan lle y gall plant a phobl ifainc Cymru fynd i weld gwaith eu hawduron ddoe a heddiw, a chyfarfod â'r rhai cyfoes mewn gŵyl undydd neu benwythnos preswyl; lle y gallant weld oriel arlunwyr llyfrau plant (fe lenwai cyfraniad Mitford Davies oriel gyfan); lle bydd cyfle i fwynhau theatr blant yng nghwmni actorion a phypedwyr dawnus, ac ymgolli mewn ffilmiau perthnasol i'w llên.
Trwy ei ddyrchafu yn fwriadol fel hyn fe allwn gryfhau'r traddodiad Cymreig o lenydda i blant, a sicrhau y bydd yn draddodiad anrhydeddus i'r dyfodol ac i ffrwyth ein hysgolion Gymraeg cynyddol.
Wrth inni ysgrifennu'r geiriau hyn, y mae yna bosibilrwydd y sefydlir canolfan o'r fath yn y dyfodol. Pan ddaw'r dydd hwnnw, fe fydd apêl taer arnoch chi'r casglwyr oll am eich cymorth i atodi at gasgliad cenedlaethol o lyfrau plant. Byddwch yn barod - na losgwch ac na luchiwch ddim wrth glirio tŷ neu groglofft - a byddwch yn hael.
Wrth gau pen y mwdwl, dyfynnaf eto o Aros Mae:
"Er i'r Gymraeg gilio o lawer cylch y mae'n aros yn gwbl ddifesur ei phwysigrwydd ym mywyd Cymru, a phery i ddatblygu ac ymgyfoethogi. Hi yw calon ac enaid y traddodiad cenedlaethol; a hi yw'r elfen fwyaf creadigol a gobeithiol ym mywyd y genedl."
Os cytunwch bod hyn yn wir am yr iaith, pa faint mwy gwir ydyw'r gosodiad am yr hyn sy'n costrelu'r iaith i'n plant - eu llyfrau?
0.N. Fe wn am siop yng Nghaerfyrddin lle mae 'na gopi o "The Story of the Red Deer Fortescue (clasur!) mewn lledr ymyl-aur am 50c. a "Plant y Goedwig" Moelona am 10c. Ar egwyddor, ond nid fel casglwr, efallai y prynaf yr ail!