CAMP Y SGWEIAR PAN OEDD YN HOGYN PEDAIR AR DDEG ~ Ond cwestiwn gan Ioan Mai Evans
LLYFR MAIN o ryw ugain dalen, hefo llun mewn llwch aur, o fraich merch yn hanner cau am gyff coeden. A'r llwch aur yn dal i ddisgleirio pan euthum â'r llyfryn allan i dynnu ei lun i haul tanbaid Mehefin eleni, gant a thair blynedd ar ddeg ar hugain er dydd ei gyhoeddi gan William Pritchard, yn y Stryd Fawr, yng Nghaernarfon.
Yr awdur, Syr Love Duncombe Jones Parry, y sgweiar o Fadrun, Llŷn, y dywed y bywgraffiadau amdano ei fod yn fwy amrywiol ei ddiddordebau na'r cyffredin o sgweiars.
Y cyntaf, mi gredaf, i sôn am y llyfr oedd Pedrog. Yn ei lyfr, 'Stori Mywyd', fe gyfeiria'n gartrefol ddigon ato'i hun yn cael golwg ar y llyfr yn slei bach 'hefo Griffith y garddwr, ar ôl i'r sgweiar a'i wraig fynd am dri mis o wyliau, a gadael yr agoriad yn nrws ei lyfrgell. O'r holl lyfrau oedd yno, cyfeiria Pedrog at y llyfr dan sylw fel hyn...
- "Un llyfryn nodedig y sylwasom arno ydoedd un yn dwyn enw Jones
Parry arno fel awdur, wedi ei ysgrifennu yn Saesneg, ei rwymo'n
brydferth, a deallem ddigon i weld ei fod yn cynnwys disgrifiadau o
blas a'i amgylchedd. Ni welswn gyfeiriad at y fath lyfr cyn hynny, hyd
oni ddarllenais yn ddiweddar yn Enwogion Sir Gaernarfon, gan Myrddin
Fardd sylwadau a barodd i mi gredu mai'r llyfr hwnnw oedd mewn
golwg ganddo, - The Legend of the Lady's Elbow.
By T.L.D.P. Jones Parry.
Caernarvon: William Pritchard, High Street,
1845."
***
AR YR olwg gyntaf meddyliwn fod yr awdur wedi sylfaenu ei thema ar y sbloets gostus honno a fu yn Nefyn yn 1284, pan gynhaliodd Iorwerth y Cyntaf dwrnamaint yno i ddathlu cwymp y Cymry. Ond na, yng nghastell Madrun y mae miri'r ddawns yn stori Syr Love, a Llywelyn ac Angharad yn dawnsio yno. Oherwydd diffyg yn y sgyffaldia ar Gae Ymryson yn Nefyn, disgyn wnaeth y merched drwy'r plancia, ond ym Madrun fe safodd yr holl ferched i ddawnsio am oriau hyd nes y daeth neges fod Iorwerth y Cyntaf a'i luoedd yn Llangadwaladr, ym Meirionnydd, ble bynnag 'roedd y fan honno.
A phan gofiwn ni fod Llywelyn wedi priodi Eleanor De Montfort chwe blynedd cyn y Concwest, a bod y briodas honno wedi ei gohirio am fod Eleanor yn garcharor yn Llundain, 'does fawr o gywirdeb hanesyddol i'r hanes. Ond nid dyna a fwriadwyd; alegori sydd yma yn ôl Myrddin Fardd. Os felly paham y cyfeddyf Myrddin fod cymysgu ffeithiau hanesyddol yn peri dryswch iddo? Pam mewn alegori fel hon, mwy nag yn Nhaith y Pererin, dyweder? Y pwynt sydd gan yr awdur yn 'The Legend of the Lady's Elbow', ydyw mai ym maglau brad a serch y collodd y Cymry eu hannibyniaeth.
Os mai prin oedd y llyfr yn nyddiau Pedrog pa mor brin ydi o erbyn hyn ys gwn i? Mae'r argraffwaith gelfydd, a'r ceinder yn cadw'n dda beth bynnag. Un rhyfeddod beth arall. O'i eni yn 1832, a oedd modd i Syr Love sgrifennu'r chwedl neu'r alegori am benelin merch yn bedair ar ddeg oed?