BONWS ~ Gair o brofiad T.J. Morgan
MAE'N DRUENI mawr nad oes modd cael hanes y ffordd y casglodd Griffith John Williams y llyfrau prin a gwerthfawr a oedd ganddo, a'r modd y llwyddodd weithiau i gael trysor o lyfr cynnar a phrin am y nesaf peth i ddim. Ni fûm i'n gasglwr brwd ar unrhyw adeg, ond fe ddaeth ambell beth gwerthfawr i'm rhan, o dro i dro, a'r hanes am y modd y daethant yn haeddu ei gofnodi.
Yn ôl yn y tridegau, yr oedd arian yn brin: £300 y flwyddyn oedd fy nghyflog i pan benodwyd fi yn ddarlithydd yng Nghaerdydd yn 1930, ac nid oedd fawr o gyfle y blynyddoedd hynny i ennill llawer drosben hynny, ond yr oedd y tâl arholi i'r hen CWB ac ambell gwrs darlithio allanol fel Klondyke.
Am fod arian yn brin, brin, 'doedd dim ysfa i wario arian ac i feddiannu pethau fel sydd yn awr, a 'doedd mo'r cystadlu fel sydd heddiw mewn arwerthiant, nes bod modd i ddyn cyffredin ei enillion godi pethau a fyddai heddiw yn mynd yn gannoedd ar gannoedd, gan faint y cystadlu a phoethed yr enynfa.
Dechreuais ddarlithio i ddosbarth allanol ym Mhen-y-graig yn y Rhondda yn Hydref 1931, a chan aelod yn y dosbarth y clywais fod modd prynu copi o Feibl 1620. Pen hanesydd y Methodistiaid y pryd hynny oedd J.O. Evans, Trehill, ym Mro Morgannwg: a hyd y cofiaf, yr oedd J.O. Evans wedi digwydd sôn wrth aelod o'm dosbarth i ei fod am werthu copi o Feibl 1620 dros rywun.
Trefnwyd drwy lythyrau imi fynd i Sain Nicolas i weld Mr. Evans: ni bu ymdaeru nac ymdaro: y pris oedd pedair punt. Gwerthu yr oedd Mr. Evans dros ddwy ferch amddifad, a'i ddyletswydd felly oedd gwneud yr hyn a allai dros y rhain. Telais y pedair punt heb ddadlau na grwgnach.
'Fe ddaw hyn yn bob-o gôt fawr i'r ddwy groten', ebe Mr. Evans, Nid yw'n gopi da, gan fod darnau yn eisiau, ar ddechrau'r Hen Destament ac ar ddiwedd y Testament Newydd; ond fe fu rhywun rywbryd yn ei wneud yn gyfan drwy roi'r penodau coll yn ôl mewn llawysgrifen sy'n dynwared print.
***
FE FYDDWN i a'm darpar wraig yr adeg honno yn mynd i ambell arwerthiant ac yn prynu ambell gelficyn; ac yr wyf am sôn am yr arwerthiant ym mhlas Llanofer, nid er mwyn ymffrostio fod gennym beth o ddodrefn Llanofer ond i esbonio sut y cefais fy nghopi o Lyfr yr Homiliau 1606.
Ni allaf benderfynu erbyn hyn pa arwerthiant oedd gyntaf, ai'r llyfrau yn Llundain neu ynteu'r dodrefn yn Llanofer ei hun. Fe gaem wybod bob hyn a hyn drwy is-lyfrgellydd y Coleg fod arwerthiant yn Llundain, ac fe fyddai Griffith John a minnau, ac eraill o ran hynny, yn anfon ein 'cynigion' ynghyd â rhai'r Coleg i 'gynrychiolydd' yn Llundain, neb llai na Maggs, y sawl a brynodd y Codex Sinaiticus.
Wel, fe lwyddais i brynu nifer go dda o bethau o lyfrgell Llanofer, er enghraifft, 'Dafydd ap Gwilym' 1789. Pan welodd Griffith John y llyfr, fe wancodd gymaint nes fy mherswadio i ffeirio ag ef, am gopi arall o 'Ddafydd ap Gwilym' 1789 ynghyd â nifer o lyfrau eraill dros ben. Yr oedd rhyw rin arbennig i gopi Llanofer o 'Ddafydd ap Gwilym' 1789.
Yn yr arwerthiant hwn hefyd y cefais fy nghopïau o Hopkiniaid Morganwg ac o'r Hen Gwndidau. Yn anffodus, rhois fenthyg fy Hen Gwndidau, ac aeth ar goll, rywle yng Ngholeg Gaerdydd. Os daw i glawr, a hawdd fydd ei adnabod gan fod tystiolaeth iddo fod yn llyfrgell Llanofer, cofier mai myfi biau'r llyfr. Cefais gyfle ymhen blynyddoedd i brynu copi Henry Lewis o'r Hen Gwndidau, ond nid yw mor hardd â chopi Llanofer, ac y mae hiraeth arnaf o hyd am y llyfr coll.
Parhaodd yr arwerthiant yn Llanofer bedwar diwrnod, y dodrefn mewn pabell y tri diwrnod cyntaf, a'r aur a'r arian a'r llestri yn y plas ar y dydd Gwener, a chredwch neu beidio, fe lwyddais i brynu mân-bethau ar y dydd Gwener.
Nid oedd gennyf gar y pryd hynny, a chyda'r trên y teithiwn i fyny o Gaerdydd ar y pedwar diwrnod, ac un peth arbennig iawn sy'n aros ar fy nghof yw gweld y caeau llafur o'r trên, yn ardal Penpergwm a Llanofer, a thrwch mawr o flodau'r papi coch yn gymysg â'r llafur.
***
YNO Y gwelais Oliver Bown gyntaf. Saer oedd Oliver Bown o Bontypridd, ac yr oedd newydd agor siop ail-law, ac fe ddaeth yn dipyn o gymeriad yn yr arwerthiant hwn. Cynnig am bopeth ac yn llwyddo i gael rhai pethau. Cwmni Bruton a Knowles o Gaerloyw oedd yr arwerthwyr, a Bruton ei hun oedd yn gwerthu, ac fe ddaeth enw Bown mor adnabyddus iddo nes ei fod yn dweud, pan na fyddai neb yn cynnig. 'Oh, give it to Bown!'
Yno y deuthum i i adnabod Bown, a bûm yn ei siop ar ôl hynny, a phrynu rhai pethau. Fe gymerodd siop wag am gyfnod byr yn Working Street yng Nghaerdydd, heb fwriad i fod yno ond am gyfnod byr. Fe wnaeth beth tebyg yn haf 1934 yng Nghastell-nedd a dyma fi'n cyrraedd y denouement.
Yn Eisteddfod Castell-nedd fe enillais dair cystadleuaeth, a chefais bwl halfawr ag arian y tair gwobr yn fy mhoced. Galw gyda Bown a gweld fod ganddo gopi o Lyfr yr Homiliau 1606, a phriodol iawn fod y llyfr yno, gan fod Edward James (y cyfieithydd) yn offeiriad yn Llangatwg ar ochr dde afon Nedd, a bod y rhan o'r Glais lle ganed fi o fewn hen ffiniau plwyf Llangatwg.
'Ble cawsoch chi hwn?' myntwn i wrth Bown (yn Saesneg).
'Yn Llanofer', mynte Bown. 'Naddo', myntwn i, gan esbonio gydag awdurdod nad oedd son am y llyfr yng nghatalog yr arwerthiant, ac nad yn Llanofer ond yn Llundain y gwerthwyd llyfrau Llanofer.
A dyma Bown yn egluro. Ymhlith dodrefn a brynodd yn Llanofer yr oedd bureau hynafol, ond heb allweddi i agor cloeon rhai o'r drorau; ac yr oedd rhai o'r drorau yn dynn ar glo. Er mai saer oedd Bown wrth ei alwedigaeth, ni bu'n waith hawdd iddo ddatgloi'r drorau, ond o'r diwedd, fe'u cafodd i gyd ar agor, ac yn un ohonynt yr oedd yr Homiliau - bonws i Bown!
Ni allaf fod yn gwbwl bendant, ond 'rwy'n meddwl mai pumpunt a delais i.