A FU GOLLEDIG AC A GAFWYD ~
Y gantores a Huw Williams
'DOEDD neb yn teimlo'n fwy balch na mi ar ôl darllen yn Adroddiad Blynyddol y Llyfrgell Genedlaethol am 1975-76 (t.54) bod llawysgrif (476 tt) yn cynnwys hanes bywyd Megan Watts Hughes, cantores, gwyddonydd, a dyngarwr, a ysgrifenwyd gan John Watts, Frinton-onSea, Swydd Essex, wedi cyrraedd i ddiogelwch y Llyfrgell Genedlaethol. A chan y bu gennyf fi a golygydd Y Casglwr law yn y gwaith o ddarganfod y llawysgrif hon, nid anniddorol efallai fyddai adrodd yr hanes, ac fel y bu i gofiant na chlywyd yr un gair o sôn amdano yng Nghymru am dros hanner canrif ddod i'r golwg yn bur ddamweiniol a disymwth rhyw ddwy flynedd a hanner yn ôl.
Fe gychwynnodd fy niddordeb yn Megan Watts Hughes pan oeddwn yn fachgen ysgol, a hynny ar ôl imi ddarllen peth o hanes ei harbrofion gyda seiniau cerddorol, yn ogystal â'i gwaith gyda phlant amddifad yn Llundain, mewn rhifyn o Trysorfa'r Plant. Ond po fwyaf o ddiddordeb a gymerwn yng ngyrfa'r wraig ryfeddol hon o Ddowlais, mwyaf yn y byd y gresynwn bod cyn lleied o'i hanes wedi ei ddiogelu mewn llyfr a chylchgrawn.
A phan gyhoeddwyd Y Bywgraffiadur Cymreig mi gefais fy siomi'n ddirfawr pan welais bod ynddo ysgrif na wnaethai gyfiawndêr o gwbl â chymwynasau dyngarol Megan Watts Hughes, heb son am fanylu ar ei harbrofion gyda seiniau a 'ffurfiau' cerddorol.
***
RAI blynyddoedd cyn cyhoeddi'r Bywgraffiadur, a minnau wrthi'n casglu defnyddiau ar donau a chyfansoddwyr tonau, gwelais nodyn yn rhifyn Mehefin 1919 o Y Cerddor i'r perwyl bod John Watts yn bwriadu cyhoeddi cofiant i'w chwaer, Megan Watts Hughes ("un o'r gwragedd mwyaf athrylithgar a berthyn i'n cenedl") a bod rhannau helaeth o'r gwaith hwnnw "a fydd o ddiddordeb i gerddorion, gwyddonwyr a chrefyddwyr yn gyffredinol eisoes wedi eu hysgrifennu."
Tybed a oedd gan John Watts blant, ac os felly a ddiogelwyd y cofiant ar ôl cyfnod o dros hanner canrif? 'Roedd yn rhaid gwneud ymholiadau ar unwaith, a'r cam cyntaf oedd anfon i Lyfrgell yr Amgueddfa Brydeinig i weld os oedd y gwaith wedi ei gyhoeddi. Na, 'wyddai'r awdurdodau yn Llundain ddim o'i hanes, ac nid oedd y llawysgrif ychwaith wedi gweld ei ffordd i'r Llyfrgell Genedlaethol yn Aberystwyth!
Treuliwyd rhai blynyddoedd yn ceisio dod o hyd i ddisgynnydd i Megan Watts Hughes, ond yn gwbl ofer. Anfonwyd hysbysebion a llythyrau i lu o bapurau newydd yng Nghymru a Lloegr, a gohebwyd â rhai ugeiniau o gerddorion amlwg, ond ni wyddai neb am ddisgynnydd i Megan Watts Hughes, heb son am fedru taflu goleuni ar hynt y cofiant y cyfeiriwyd ato ar dudalennau Y Cerddor ym 1919.
Yna, un nos Sul ym mis Ebrill 1975, yn y rhaglen 'Rhwng Gŵyl a Gwaith' ar radio sain, fe ddarlledwyd sgwrs gan Mrs. Enid Parry, Bangor, yn rhoi cipdrem ar weithgarwch rhai o Gymry Llundain yn y ganrif o'r blaen, ac yn ystod y sgwrs honno fe gyfeiriwyd at Megan Watts Hughes. Y bore Iau canlynol, toc wedi naw o'r gloch, dyna'r ffôn yn canu. Mr. John Roberts Williams (cynhyrchydd 'Rhwng Gŵyl a Gwaith' ar y pryd) oedd yn galw. "Meddwl y buasech chi’n lecio gwybod fy mod i wedi cael llythyr y bore yma oddi wrth Miss Eva Watts, sef nith i Megan Watts Hughes sy'n byw yn y Fenni", meddai. 'Roedd Miss Watts, sy'n ddi-Gymraeg, wedi clywed Mrs. Enid Parry yn cyfeirio at ei modryb ar y radio, ac wedi anfon gair at y BBC ym Mangor i gyflwyno ei hun!
***
TREFNAIS daith unswydd i'r Fenni, a threulio prynhawn difyr iawn yng nghwmni Miss Watts. 'Roedd ganddi gryn dipyn o wybodaeth am ei modryb, ond yn anffodus ni chlywodd erioed sôn am neb yn llunio cofiant iddi. Ond cyn ffarwelio â Miss Watts cefais ganddi enwau a chyfeiriadau rhai o aelodau'r teulu, yn eu plith Mrs. Megan Wheelock o Brentwood yn Swydd Essex, a oedd yn ferch i John Watts o'i ail briodas.
O fewn ychydig ddyddiau ar ôl imi anfon at Mrs. Wheelock daeth gair i law i ddweud bod cofiant John Watts i'w chwaer Megan Watts Hughes wedi ei ddiogelu, ac mai'r cofiant hwnnw oedd yr unig beth yn dal perthynas â'i wraig athrylithgar o Ddowlais a gadwyd yn ddiogel ganddi dros gyfnod o hanner canrif a rhagor. Ac yn goron ar y cyfan, 'roedd Mrs. Wheelock yn falch o feddwl bod yna rywun yng Nghymru yn dal i ymddiddori yn y cofiant, a byddai'n bleser ganddi ei gyflwyno i'w gadw yn y Llyfrgell Genedlaethol!
Mae'r cofiant, a drosglwyddwyd i ofal y Llyfrgell Genedlaethol ym Mehefin 1975, wedi ei ysgrifennu yn Saesneg, a'i seilio ar dyddiaduron a gadwodd Megan Watts Hughes rhwng 1869 a'i marw ym 1907. Yn anffodus cafodd y dyddiaduron eu dinistrio ers tro byd, ond mae lle i ddiolch bod John Watts wedi sugno'n helaeth ohonynt wrth lunio'r cofiant, a'i ddosbarthu'n bedair ar bymtheg o benodau hwylus yn ôl trefn amser.
***
PRIODOL fyddai ychwanegu bod Megan Watts Hughes yn un o saith o blant, ac mai John Watts, a anwyd yn Nowlais, Awst 24 1859 oedd yr ieuengaf o'r teulu. Ar ôl i'r chwaer briodi ym 1871, cofiodd am ei brawd ieuengaf yn Nowlais, ac fe'i perswadiodd i fynd ati i Lundain, lle y gofalodd ei fod yn cael addysg dda, yn gyntaf mewn ysgol breswyl yn Ealing, ac yna yn y North Collegiate School i fechgyn.
Gan fod ei chwaer rhyw ddwy flynedd ar bymtheg yn hŷn nag ef, ac iddi hithau, fwy neu lai, ei fabwysiadu, penderfynodd John Watts na fyddai'n dychwelyd i Gymru, a threuliodd gyfnod maith mewn swyddfa yn Llundain yng ngwasanaeth cwmni o fewn forwyr. Trigai yn Bowes Park yng ngogledd Llundain hyd at 1910, ac yn ei gartref yno y bu farw ei chwaer, Megan Watts Hughes ym 1907. Ym 1910 symudodd i fyw i Frinton-on-Sea, lle y bu farw Rhagfyr 27, 1927, a'i gladdu ym mynwent Frinton-on-Sea, Kirkby Cross, Swydd Essex.
'Roedd John Watts yn edmygwr mawr o'i chwaer, yn bennaf oherwydd ei charedigrwydd diarhebol tuag ato, a hynny a'i symbylodd i ddechrau ar y gwaith o ysgrifennu cofiant iddi cyn Rhyfel 1914-18, a'i gwblhau'n fuan ar ôl terfyn y Rhyfel hwnnw.
Ceisiodd gael gan amryw o gwmnïau i gyhoeddi'r cofiant, yn eu plith Morgan & Scott; Hazel, Watson & Viney; a'r hen Educational Publishing Company yng Nghaerdydd, ond bu'n aflwyddiannus am ei fod ar y pryd yn bur dlawd, ac yn methu â chyfarfod â gofynion ariannol y cwmnïau cyhoeddi hynny.
Er ei fod wedi ei ysgrifennu mewn arddull sydd braidd yn henffasiwn mae'r cofiant hwn yn un manwl a hynod o ddarllenadwy. Ond yn bwysicach na hynny y mae'n sylfaen ddibynadwy ar gyfer astudiaeth bellach o fywyd a gyrfa Megan Watts Hughes, sy'n un o wragedd hynotaf y genedl.