YR HEN GYFROLAU MEDDYGINIAETHOL
Arolwg Melfyn R.Williams
ER YN FORE iawn, mae'r Cymry wedi ymddiddori mewn planhigion meddyginiaethol. Priodolir hyn, fe dybir, i ddylanwad y Derwyddon arnynt. Hwy, yn ôl pob hanes, oedd y meddygon y dibynnai'r Hen Gymry cyn gymaint arnynt. Ymddengys i'r Derwyddon fod yn bobl alluog iawn ac yn astudio pob cangen o wyddoniaeth. Dywedir y meddent ar wybodaeth eang o lysiau a'r defnydd meddygol a berthyn iddynt. Yr enwocaf o'r llysiau gwerthfawr yn eu golwg hwy oedd yr uchelwydd a gyfenwir ganddynt yn 'holliach'. Credent y gallai'r planhigyn hwn wella diffrwythdra a gwendid.
Ceir tystiolaeth (yn chwedl Taliesin) fod i ymwybyddiaeth o lysiau rhinweddol ran bwysig ym mywydau'r Cymry. Casglodd Ceridwen y wrach lond pair o lysiau arbennig er mwyn eu berwi am flwyddyn a diwrnod i grynhoi'r rhinwedd a gynhwysent i dri diferyn bendigaid.
Yn ystod y ddegfed ganrif croniclodd Hywel Dda gyfreithiau Cymru. Rhannodd weithgareddau'r llys rhwng pedwar swyddog ar hugain ac yn eu mysg 'roedd y meddyg a ofalai am iechyd y trigolion.
Erbyn y drydedd ganrif ar ddeg daeth bri ar y meddygon o Fyddfai. Buont yn gwasanaethu yn llys Rhys Grug, un o dywysogion Cymru. Argraffwyd yn gyntaf gynghorion y meddygon hyn gan loan Ross, Caerfyrddin, dros Dafydd Efan o Ffynnon-nedd ym 1765 dan y teitl Drych i Ddwfr y Cleifion, gyda 31 tudalen. Oddeutu 1841 ymddangosodd argraffiad arall ohono gan John Jones, Llanrwst dros rhyw J.M.
Ond bu'n rhaid aros hyd 1861 i gael cyfrol ddwyieithog o gyfarwyddiadau'r meddygon, a honno yn cynnwys 470 o dudalennau, wedi'i golygu gan John Williams, ab Ithel, a'i chyfieithu gan John Pughe. Fe'i cyhoeddwyd dan nawdd Cymdeithas y Llawysgrifau Cymraeg, Llanymddyfri. Ceir yna gyfarwyddiadau hynod o ddiddorol at wneud trwythau o wahanol blanhigion er mwyn gwella afiechydon.
***
LLAWYSGRIF arall o'r unfed ganrif ar bymtheg, ac a gyhoeddwyd yn 1916 gan Hugh Evans, Lerpwl o dan y teitl Llysieulyfr Meddyginiaethol oedd un a briodolir i William Salesbury. Fe gynnwys 275 tudalen, sy'n rhoddi manylion ynglŷn ag enwau gwyddonol y planhigion ynghyd â'u rhinweddau meddyginiaethol. I esmwythau’r boen o bigiad gwenynen neu gacynen mae'n argymell berwi hedyn Hocys y Gors (marsh marigold) mewn dŵr, finegr neu wîn.
Mae'r llyfr The Welsh Leech Book a briodolir i gyfnod 1550-1620 yn gasgliad o gyfarwyddiadau o amryw ffynonellau. Golygwyd y llawysgrif, sy'n perthyn i’r unfed ganrif ar bymtheg, sydd yn Amgueddfa Wellcome, Llundain, gan Timothy Lewis ym 1914 ac fe'i cyhoeddwyd gan D. Salesbury Hughes Lerpwl. Dyma gyfarwyddyd rhag meddwi:
“Yfed saffrwm mewn dwfr ac ef a sobria ac a ostwng y medd-dod.”
***
Y LLYSIEULYFR cyntaf i'w gyhoeddi yn y Gymraeg ac a argraffwyd yn yr Amwythig gan Thomas Durston yn 1750 oedd Llyfr Meddyginiaeth a Physygwriaeth i'r Anafus ar Clwyfus. Llyfryn yn cynnwys 48 tudalen ydyw, eto mae'n rhaid ei fod yn boblogaidd gan iddo gael ei ailargraffu yn Wrecsam ym 1774.
Ym 1759 ymddangosodd cyfieithiad o 5ed argraffiad John Wesley o'r Wesley's Primative Physick yn dwyn yr enw Y Prif Feddyginiaeth. Y cyfieithydd oedd John Evans o'r Bala a'r cyhoeddwr, Stafford Prys o'r Amwythig. Fe rydd John Evans restr o'r holl lysiau a ddefnyddir yn y gyfrol, ar ddiwedd y Ilyfr. Fel ag y disgwylir, fe weodd John Wesley grefydd i mewn i'w esboniad o darddiad afiechyd. Dyma a ddywed yn y rhagair:
"Pan ddaeth dyn gyntaf allan o ddwylaw'r creawdwr mawr... nid oedd raid wrth physigwriaeth, neu'r gelfyddyd o iachau... Ond er pan wrthryfelodd dyn yn erbyn Arglwydd nef a daear... Hadau gwendid a phoen, clefyd ac angau, sy'n awr yn lletya yn 'stafelloedd eithaf ein sylwedd.”
Daeth trydydd argraffiad i'r Ilyfr hwn tua 1828 gan Peter Evans, Caernarfon. Aeth J. Jones i ail gyfieithu gwaith John Wesley a chyhoeddwyd hwnnw ym 1858 gan John Jones, Llanrwst, dan y teitl Prif Phisygwriaeth, yn cynnwys 194 tudalen.
***
LLYFR LLYSIAU hynod boblogaidd oedd Pob Dyn ei Physygwr ei hun a gyhoeddwyd gan I. Ross, Caerfyrddin ym 1771. Daeth ail argraffiad allan ym 1785, y trydydd ym 1805, a'r pumed ym 1819, and fe addaswyd y teitl erbyn y seithfed argraffiad gan Peter Evans, Caernarfon yn Pob Dyn yn Phisygwr iddo ei hun. Cyfieithiad oedd o waith Dr. J. Theobald yn y Saesneg. Fe gynhwysai'r gwaith gynghorion at wella clefydau ar anifeiliaid hefyd. Ceir cyfarwyddiadau ar gyfer gwahanol fathau o anhwylderau yn y Ilyfr. Dyma un hynod o ogleisiol, a dweud y lleiaf, ' i leihau bronnau mawrion.'
"cymerwch had cegid (hemlock) cymysgwch hwynt ynghyd a’r peth a elwir powder of insense, berwch hwynt mewn finegr, a mynych eneiniwch ag ef."
Ym 1813, cyhoeddodd Hugh Davies ei astudiaeth o blanhigion Môn yn ei Welsh Botanology. Rhennir y gyfrol yn ddwy ac yn y rhan olaf ymdrinnir â llysiau meddyginiaethol, a'r modd i'w defnyddio i wella amryfal afiechydon. Mae'r gyfrol hon yn hynod werthfawr, yn cynnwys 255 o dudalennau, a chydnebu Hugh Davies iddo gael cymorth llawysgrif William Morris a enwid A Collection of Plants gathered in Anglesey i lunio'r cynnwys.
Cyhoeddwyd nifer o argraffiadau o Lysieulyfr David Thomas Jones, Llanllyfni yn ystod y bedwaredd ganrif ar bymtheg. Fe gynhwysai'r argraffiad cyntaf 468 o dudalennau yn dwyn yr enw Y Llysieulyfr Teuluaidd, a'i argraffydd oedd Peter Evans, Caernarfon (1816-17).
Daeth yr ail argraffiad allan ym 1818 a'r trydydd tua 1825 gan John Jones, Llanrwst mewn diwyg llyfryn o 96 tudalen yn dwyn y teitl British Herbal, neu Lysieuyn Brytanaidd. Fe'i argraffwyd ymhellach ym 1828 a 1829 gan D.T.J. Evans, Caernarfon; oddeutu 1881 gan Humphreys, Caernarfon a Hughes, Dolgellau ddechrau'r ganrif. Yn argraffiad Humphreys, fe ychwanegwyd Llysieuaeth Feddygol gan Thomas Parry, Glan y Gors, Tre'rgarth. Cyhoeddwyd Llysieuaeth Feddygol gan Humphreys, Caernarfon tua 1861, yn cynnwys 104 o dudalennau.
***
LLYFR ARALL y bu bri mawr ar ei gyhoeddi oedd Llysieulyfr Teuluaidd gan Rhys Price ac E. Griffith, Abertawe. Ymddangosodd yr argraffiad cyntaf ym 1840, yr ail ym 1849 a'r trydydd ym 1858. Yn argraffiad 1890 ceir darluniau lliw a ddaeth o'r un ffynhonnell ag argraffiad Humphreys o Lysieulyfr Teuluaidd D.T. Jones Llanllyfni.
***
YN Y RHAN fwyaf o'r Llysieulyfrau fe ddisgrifia'r awdur y planhigion yn fanwl iawn er mwyn galluogi'r darllenydd i adnabod y gwahanol lysiau. Bu'r diddordeb meddyginiaethol, yn sicr, yn fodd i gadw'r enwau Cymraeg arnynt yn fyw. Ond gyda chyhoeddiad Y Doctor sef Llawlyfr Llysieuol ym 1896 gan Humphrey Evans, Y Bala, fe ddaeth tro ar fyd. 'Dyw J. Parry (Ioan Dderwen o Fôn) ddim yn disgwyl i'w gleifion adnabod na hyd yn oed gasglu'r llysiau.