Y BRODYR YN LLUNDAIN gan Dr.J.Hywel Thomas

 

O'r chwith i'r dde : John, Mary, Joseph ac Arthur Griffiths (Hawlfraint 'The Times')

I'R CYMRO cerddorol, Canolfan Cymry Llundain yn Gray's Inn Road yw'r lle i gwrdd â’i gydwladwyr; i ddilynwyr y bêl hirgron, Old Deer Park, Richmond amdani, and i'r llyfrbryf o Gymro mae Mecca Cymreig Llundain mewn siop fechan yn ymyl y West End, sef siop lyfrau fyd-enwog Griffs.

Dros y blynyddoedd bu'n gyrch­fan llawer o Gymry ar eu hym­weliad a Llundain. Soniodd Bob Owen, er enghraifft, yn ei atgofion, iddo ar ôl derbyn ohono ei O.B.E. o law'r Fam Frenhines ym Mhlas Buckingham, dreulio gweddill y dydd yn siop Griffs yn 4 Cecil Court

Mae'r stryd fach hon yn cysylltu St. Martin's Lane a rhan isaf Charing Cross Road. Ni chaniateir cerbydau ar hyd-ddi ac mae'n frith o siopau llyfrau o bob math. Dyma yn sicr ganolfan siopau llyfrau ail-law y ddinas. Nid Griffs ychwaith yw'r siop gyntaf yno a fu ym meddiant Cymry gan fod Charles Ashton yn cyfeirio yn ei Lyfryddiaeth Gymreig, 1801­1810 at siop W.H. Roberts, 10 Cecil Court yn 1898.

Sefydlwyd y siop bresennol yn 1945 gan William Griffiths a'i dri brawd. Mae'r teulu yn hanu o'r Gilfach Goch, Sir Forgannwg, lle gweithiai'r pedwar brawd - William, a fu farw yn 1962, John (Jack), Joseph (Jos) ac Arthur - gyda'u tad, David Joseph, ym mhyllau glo yr ardal. Breintiwyd hwy a dawn gerddorol fel teulu a bu'r brodyr yn chwarae yng ngherddorfa'r capel yn y Gilfach Goch.

Yn ystod y dauddegau ceid yn aml mewn sinema gerddorfa fechan a ddarparai gefndir cerdd­orol priodol i'r ffilmiau distaw, a thoc cafodd tri o'r brodyr waith o'r math yma. Ond daeth diwedd bron dros nos ar y gwaith hwn ar ôl ymddangosiad y ffilm The Jazz Singer, gydag Al Jolson. O ganlyniad, collodd cannoedd o gerddorion eu swyddi.

***

DYMA, yn ôl pob hanes, a symbylodd William Griffiths, a weithiai yn Llundain ar y pryd, i ymuno a siop fyd-enwog Foyle's yn Charing Cross Road fel pennaeth yr adran Gymreig. Yn ystod y pymtheng mlynedd y bu gyda Foyle's gwnaeth William gymwynas fawr â llenyddiaeth Cymru trwy gyhoeddi, o dan enw Foyle's, dros hanner cant o lyfrau Cymraeg, yn eu plith Caniadau'r Allt gan Eifion Wyn a chlasur T. Rowland Hughes, O Law i Law.

Yn naturiol, ar ôl y profiad hwn, meddyliodd William am agor ei fusnes ei hun ac ym Mehefin 1945 gwireddwyd ei freuddwyd pan agorwyd y siop bresennol gan y pedwar brawd ynghyd â Mary, gwraig John.

Yn fuan iawn daeth y siop yn fan cyfarfod i Gymry'r ddinas, yn enwedig i newydd-ddyfodiaid i Lundain, ac i ymwelwyr o Gymru. Yma ceid croeso cartrefol a chynnes, a chyfle hefyd i gael gwybodaeth am weithgareddau Cymreig y ddinas. Gan fod William yn Gadeirydd Cymdeithas Cymry Llundain ac yn aelod blaenllaw o gyngor y Cymmrodorion, yn naturiol ddigon daeth y siop yn fan cyfarfod hwylus i swyddogion y ddwy gymdeithas.

Yma hefyd yr arferai criw o lenorion Cymreig gwrdd yn rheol­aidd i drafod y byd a'r betws. Yn eu plith 'roedd Aneurin Talfan Davies, Geraint Dyfnallt Owen, Idris Davies, Ben Jones, Ben Bowen Thomas, ac yn achlysurol, Dylan Thomas, Alun Llewelyn Williams, Alun Oldfield Davies, Hywel Davies a Wyn Griffith.

Wrth lwc, cadwyd llyfr ymwelwyr yn y siop ac erbyn heddiw mae'n werth i'w weld gan fod y llyfr yn cynnwys llofnodion gwŷr amlwg megis Dylan Thomas, Jack Jones, Richard Vaughan ac Aneurin Bevan. Yn y llyfr hefyd gwelir enwau nifer o actorion a chantorion byd-enwog o Gymru a arferai alw gyda Griffs am ysbaid rhwng rihyrsals a pherfformiadau yn y theatrau a'r tai opera sydd gerllaw'r siop yn y West End.

Mae'r croeso gan y tri brawd a Mrs. Griffiths yr un heddiw ac mae'r siop yn dal i ddenu gwŷr amlwg y genedl pan fyddont yn Llundain. Yma y cefais i'r fraint o gwrdd â nifer o'n llenorion, yn eu plith Dannie Abse, W. Glyn Jones a Rhys Davies a'r Aelodau Seneddol, Gwynfor Evans a Tom Ellis.

***

YN Y gorffennol canolbwyntiwyd ar werthu llyfrau Cymraeg a Chymreig mewn print a llyfrau ail-law, ac mae'r adran lyfrau yn dal i ffynnu, ond erbyn heddiw mae rhan sylweddol o'r busnes yn ymwneud â gwerthu recordiau, cardiau, printiau a mapiau.

Yn ôl Mrs. Griffiths, bu gostyng­iad sylweddol yn y nifer o lyfrau Cymraeg a brynir gan Gymry Llundain ond ar yr un pryd bu cynnydd yn y gwerthiant o lyfrau Saesneg yn son am Gymru a'i hanes. Y mae galw mawr hefyd am lyfrau i ddysgwyr gan y cynhelir nifer o ddosbarthiadau dysgu Cymraeg llwyddiannus mewn gwahanol ganolfannau yn Llundain a'r cylch.

Prynwyd sawl llyfrgell ddiddorol gan Griffs, gan gynnwys rhan o lyfrgelloedd Syr John Cecil Williams a'r Dr. Arwyn Roberts ac o bryd i'w gilydd daw casgliad da o lyfrau ar y silffoedd yn yr adran ail-law. Cefais innau hyd i sawl trysor yma, yn eu plith gopïau o Meddygon Myddfai, adargraffiad (1877) o Eiriadur William Salesbury, a Gweithiau Morgan Llwyd gyda llofnod Elfed ar y dudalen flaen. Ymhlith y llawysgrifau a werthwyd gan Griffs 'roedd un o waith George Bernard Shaw.

Gwnaeth y brodyr Griffs gymwynas werthfawr â llenyddiaeth Cymru hefyd trwy gyhoeddi nifer o lyfrau ar ddiwedd y pedwar­degau a dechrau'r pumdegau. Ymhlith y llyfrau a gyhoeddwyd o dan enw W. Griffiths a'i Frodyr mae'r gyfrol bwysig o ysgrifau beirniadol, Gwŷr LIên, o dan olygaeth Aneurin Talfan Davies - cyfrol y bu'n rhaid ei hail­gyhoeddi ymhen wyth mis; tair nofel hanesyddol gan Geraint Dyfnallt Owen; Ysgrifau Llenyddol gan yr Athro T.J. Morgan, a dwy gyfrol o hunangofiant gan y Dr. Thomas Jones C.H. (Ceir rhestr o'r llyfrau a gyhoeddwyd gan Wasg Griffs ar ddiwedd yr erthygl hon.)

Cydnabyddwyd cyfraniad Griffs i ddiwylliant Cymru a bywyd Cymreig Llundain dair blynedd yn ôl pan dderbyniodd Arthur yr M.B.E., a'r llynedd ymddangosodd erthygl ar y siop a'i pherch­nogion yn y Times ond 'rwy'n sicr mai'r hyn a roddodd y pleser mwyaf iddynt yw teyrnged Mr. John Morris, yr Ysgrifennydd dros Gymru, a ddisgrifiodd Griffs fel y "siop lyfrau orau yng Nghymru".

***

ER BOD y tri brawd erbyn hyn dros yr oedran swyddogol i ym­ddeol, maent newydd gymryd les newydd ar y siop gan wybod bod mawr angen siop lyfrau Cymraeg yn Llundain o hyd. Y maent yn ffyddiog y bydd Cymry Llundain yn dal i'w cefnogi. Hir oes iddynt!

LLYFRAU A GYHOEDDWYD GAN W.GRIFFITHS A’I FAB

Hanes Eglwys y Tabernacl, King's Cross, Llundain, 1847-1947. Gol. Y Parch. Llewelyn Williams, (1947).

Nest. Geraint Dyfnallt Owen (1949)

Cefn Ydfa. Geraint Dyfnallt Owen (1948)

Dyddiau'r Gofid. Geraint Dyfnallt Owen (1950)

Atgofion Seneddol. Yr Arglwydd Macdonald o Waenysgor (1949)

Gwŷr Llên. Golygwyd gan Aneurin Talfan Davies (1948,1949)

Ysgrifau Llenyddol. T.J. Morgan (1951)

Gerallt Gymro a'r Eglwys yng Nghymru heddiw. Glyn Simon.

Gerald the Welshman and the Church in Wales today. Glyn Simon.

Welsh Broth. Dr. Thomas Jones (1951)

A Native Never Returns. Dr. Thomas Jones.

Thus spake prophets. Islwyn ap Nicholas.

Prison Sonnets. Cyfieithiad o waith T.E. Nicholas gan Daniel Hughes ac eraill.

A Celt looks at the world. G. Hartwell Jones, cyfieithwyd gan Wyn Griffith.