UDGORN RHYDDID ~
Emyr Price ar bapur cyntaf Lloyd George

PAN GEISIR dadansoddi elfennau athrylith wleidyddol Lloyd George, rhaid priodoli ei lwyddiant, i raddau helaeth, i'w allu diamheuol i drin Y Wasg yn gelfydd. Gydol ei yrfa seneddol, bu'n dreiddgar-ymwybodol o'r grym a feddai'r cyfrwng hwn, mewn cyfnod pan oedd y newyddiadur yn llawer dyfnach ac ehangach ei ddylanwad nag yn yr oes, deledol hon. Arweiniodd hyn ef, nid yn unig i'w gysylltu ei hun â rhai o farwniaid enwocaf Y Wasg yn Llundain, ond hefyd, ysgogwyd ef ar sawl achlysur tyngedfennol yng nghwrs ei yrfa i geisio meddiannu rhai o newydd­iaduron mwyaf grymus Lloegr a Chymru.

Fodd bynnag, nid rhywbeth newydd a ddysgodd wrth dramwyo "cynteddoedd grym" San Steffan oedd dylanwad aruthrol Y Wasg fel cyfrwng propaganda i wleidydd uchel­geisiol. Oherwydd, cyn 1890, pan etholwyd ef i'r Senedd am y tro cyntaf dros Fwrdeistrefi Arfon, 'roedd Lloyd George yn negawd ffurfiannol-allweddol ei yrfa gyn-seneddol wedi gwneud defnydd helaeth o'r Wasg yn sir Gaernarfon i baratoi'r ffordd tua Thŷ'r Cyffredin.

Yn y cyfnod hwn, ysgrif­ennodd yn helaeth i'r newydd­iaduron pwerus Cymraeg a Saesneg yn Arfon a Meirion, nid yn unig erthyglau a llythyrau llofnodedig, ond yn fwy amheus, efallai, erthyglau golygyddol dienw ac erthyglau o dan ffug­enwau, rhai ohonynt yn ei gymeradwyo'i hun fel gwleidydd ifanc disglair. Hefyd, ysgogodd gyfeillion iddo megis y trefnydd dirwestol, D.R.Daniel, Y Ffôr a'r bardd coronog Tudwal Davies, Brynllaeth, Pwllheli i ysgrifennu erthyglau dan ffugenwau i'r 'Herald' a'r 'Genedl', a'i glodfori fel y person mwyaf cymwys ac addawol i gynrychioli ei fro enedigol yn y Senedd yn Llundain. Gydol yr wythdegau hefyd, bu'n ddeddfol ofalus wrth feithrin cysylltiadau agos â pherchnogion a golygyddion papurau mwyaf dylanwadol Gwynedd, yn arbennig papurau Cwmni'r 'Genedl' a Chwmni'r 'Herald' yng Nghaernarfon.

***

EI FENTER newyddiadurol fwyaf cyffrous yn y cyfnod cyn 1890, fodd bynnag, oedd sefydlu ei wythnosolyn ei hun, - Yr Udgorn Rhyddid ym Mhwllheli. Fe'i cyhoeddwyd am y tro cyntaf ar y 4ydd o Ionawr 1888. Hwn oedd y newyddiadur cyntaf y bu Lloyd George yn gyfrannog ynddo, profiad a roddodd iddo'r blas melys cyntaf o reoli newyddiadur a'i blygu i'w ddibenion propagandaidd ei hun.

Dengys nifer o lythyrau a ysgrif­ennodd Lloyd George at D.R. Daniel yn 1887 (Mae'r rhain ar gof a chadw yn y Llyfrgell Gen­edlaethol) mai Lloyd George oedd yr arian byw y tu cefn i'r fenter. Bwriadai Lloyd George i'r wythnosolyn gylchredeg, yn bennaf, ym Mhwllheli, Cricieth, Nefyn a Llŷn ac Eifionydd, yn ogystal â sicrhau darlleniad yn sir Feirionnydd, ac ym mwrdeistrefi Caernarfon, Bangor a Chonwy. Ei nod oedd trosglwyddo neges ultra­radicalaidd genedlaethol Gymreig ac yn sgil hynny, hyrwyddo ei yrfa wleidyddol ef ei hun. Oherwydd ym 1888, 'roedd Lloyd George wedi penderfynu ymgeisio am enwebiad seneddol Bwrdeis­drefi Arfon. 'Roedd yn rhaid iddo oresgyn sawl rhwystr, fodd bynnag, cyn iddo gael y maen i'r wal.

Yn gyntaf, 'roedd wedi methu'n flaenorol ym 1885 a 1886, i sicr­hau ymgeisiaeth: ym Mwrdeis­drefi Arfon ym 1885, ac ym Meir­ionnydd ym 1886. Yn ail, 'roedd yn ifanc, yn wleidyddol ddi­brofiad, yn "Fatus bach", yn gymharol dlawd, ac yn ân­adnabyddus yn y bwrdeistrefi gogleddol - Conwy a Bangor yn enwedig. Gwaeth na hynny, yng ngolwg y cawcws Rhyddfrydol dosbarth canol, Gladstonaidd, a fyddai'n dewis Ymgeisydd Seneddol, 'roedd yn meddu ar syniadau cymdeithasol-econom­aidd a chenedlaethol Cymreig, a ystyrid yn anaddas i gynrychiol­ydd etholaeth mor sidêt â Bwr­deisdref Arfon.

Felly, er mwyn ceisio ennill yr enwebiad, ac yn arbennig, er mwyn sefydlu cadarnle yn y bwr­deisdrefi deheuol – Cricieth, Nefyn a Phwllheli, 'roedd am geisio defnyddio'r 'Udgorn' i ar­gyhoeddi'r bobl a'r cawcws mai Ymgeisydd newydd o'i gefndir a'i syniadau blaengar ef a ddylid ei ddewis ym 1888.

Rhai wythnosau cyn lansio'r papur, mynegodd ei fwriadau mewn llythyr at D.R. Daniel, "We propose raising a capital of say £100 and limiting our liabilities to that sum, so as to escape the injurious consequences of possible libel suits. It is to be thorough nationalist and socialist - a regenerator in every respect." Rhagwelai, felly, wythnosolyn ymosodol, a gynhwysai erthyglau ymfflamychol a allasai arwain i achosion athrod. Ef hefyd a fathodd ei bennawd arwyddocaol, ym 1887, yng nghanol bwrlwm Rhyfel y Degwm, pryd y defnyddiwyd utgyrn i seinio dyfodiad plismyn a beilïaid i'r ffermydd lle cynhelid ocsiynau atafaelu. Apeliai'r enw, Udgorn, ato'n fawr. Mewn llythyr at Daniel dywedodd: "Why not Udgorn Rhyddid? Something stirring. Never mind the bombast, if the stuff that is in it is good... "

***

O'R CYCHWYN cyntaf, felly, 'roedd 'Yr Udgorn' i seinio'n ddi­baid o blaid Lloyd George a'i ymgyrch i sicrhau y wobr a ddeisyfai mor awchus – sef ymgeisiaeth seneddol, ac yn sgîl hynny, sedd yn Nhŷ'r Cyffredin.

Fodd bynnag, er mor dameidiol ydyw'r casgliad hwn, mae'r rhif­ynnau amhrisiadwy hyn, yn ffynhonnell werthfawr i ddeall un o'r rhesymau pwysicaf paham y llwyddodd Lloyd George i gyrraedd un o risiau pwysicaf ei yrfa wleidyddol. Yn y rhifynnau hyn o'r 'Udgorn', gwelir sut y trodd pob defnyn o ddŵr i'w felin ei hun, a phetai'r casgliad hwn yn gyflawn, am y flwyddyn 1888, rhesymol fyddai dyfalu iddo barhau i wneud y defnydd hel­aethaf posibl o'r 'Udgorn', fel y poethai'r frwydr am yr ymgeisaeth.

Yn ôl tystiolaeth D.R. Daniel, Lloyd George yn amlach na pheidio, a ysgrifennai erthygl olygyddol yr 'Udgorn'. Yn sicr, ef a gyfansoddodd yr erthygl flaen gyntaf oll, 'Y Dadganiad', a ddiffiniodd dair conglfaen polisi radicalaidd genedlaethol y newyddiadur. Y nod cyntaf oedd "gwarchod a hybu buddiannau y llafurwyr amaethyddol, y chwarelwyr a 'r gloweithwyr, yr amaethwyr diwyd a'r masnachwyr gonest, rhag gormes a thraha tirfeddianwyr a chrachfonedd y wlad." Honnid, yn ail "Bydd Cymru a Chymry yn diriogaeth a phobl yn bwnc arbennig ei yrfa." Yn olaf, pwysleisiwyd yr ymleddid achosion y dosbarthiadau gorthrymedig "yn ymosodol ond eto'n heddychlawn."

***

'ROEDD Lloyd George, felly, yn defnyddio colofn olygyddol 'Yr Udgorn' er mwyn troi pobl Llŷn ac Eifionydd o blaid ei raglen radicalaidd flaengar. Yn yr ail rifyn, ef eto oedd awdur yr erthygl flaen, "Dechreu yn y Dechreu". Galwai'r erthygl hon yn Fesianig-ymwybodol ar i ddyn ifanc, brwd, o blith y bobl yn Arfon, godi "i uno'r gweithwyr, y llafurwyr tir a'r ffermwyr" i ysgogi newidiadau cymdeithasol. Cri y Bedyddiwr, Lloyd George, ar derfyn yr erthygl oedd "Deued rhywun allan i gasglu y dwfr ynghyd a'i wneud i redeg yn un afon."

'Roedd yr erthygl olygyddol, felly, yn un erfyn propaganda effeithiol a ddefnyddiai Lloyd George yng ngholofnau'r 'Udgorn'. Ymorolai hefyd bod adroddiadau manwl o'i weithgareddau cyhoeddus yn cael lle blaenllaw yn y newyddiadur. Er enghraifft, mewn sawl rhifyn, cafwyd adroddiadau o'r helynt gwrth­ddegymol yn Llanystumdwy oedd yn parhau i ffrwtian ym 1888, flwyddyn wedi i Lloyd George ei hun gychwyn yr ymgyrch yn y cylch ym 1907. Mewn sawl rhifyn hefyd cynhwyswyd adroddiadau manwl a chanmoliaethus o'i daith o gwmpas Bwrdeisdrefi Arfon yn Chwefror, gyda Thomas Gee, i sefydlu canghennau o'r Cynghrair Tirol.

'Roedd cael hebrwng Rhyddfrydwr mor nerthol a pharchus â Thomas Gee o gwmpas y bwrdeisdrefi o fudd mawr iddo yn yr ymrafael am yr enwebiad. Rhoddai'r 'Udgorn' sylw mawr hefyd i'r daith ddarlithio o gwmpas y bwrdeisdrefi a drefnodd Lloyd George yn ystod y cyfnod hwn. Gofalai'r 'Udgorn' roi cyhoeddusrwydd llawn i'r cyfarfodydd hyn lle traddodai Lloyd George ei ddarlith 'Cwynion Cymreig a Meddyginiaethau Gwyddelig.'

Yn ogystal â'r adroddiadau hyn, ysgrifennodd ei gyfeillion Tudwal a Daniel gyfres o erthyglau ar y deffroad cenedlaethol yng Nghymru, ac ar faterion radical­aidd, megis diwygio'r prydlesoedd, cyfiawnder i'r gweision ffermydd, a diddymu'r degwm. Yn un o'r rhifynnau cyhoeddwyd erthygl a gymharai'r gorthrwm a rannai'r tenant yng Nghymru gyda'r 'crofter' yn Sgotland. Cyhoeddwyd nifer o ganeuon amrwd hefyd a ddychanai'r tirfeddianwyr lleol. Gofalai Tudwal a Daniel bwysleisio'r angen am ymgeiswyr seneddol ifanc a brwd a gynrych­iolai radicaliaeth ymosodol Cymru Fydd wrth drafod y deffroad cenedlaethol yn eu herthyglau.

***

CAFWYD cyfeiriadau mwy personol eu naws at sylfaenydd 'Yr Udgorn' yn y rhifynnau hyn hefyd. Er enghraifft, ar achlysur ei briodas yn Ionawr 1888 ag aeres Mynydd Ednyfed, cyhoeddwyd nifer o benillion gogleisiol amdanynt, er bod teulu Maggie wedi ymdrechu'n deg i gadw'r briodas yn ddistaw, oherwydd gwrthwynebiad chwyrn ei thad i'r uniad. Teg yw dyfalu i'r cyhoeddusrwydd a dderbyniodd y briodas yn yr 'Udgorn' blesio Lloyd George oherwydd 'roedd ei briodas â merch i Fethodist amlwg o fantais gwleidyddol amlwg iddo wrth geisio sicrhau ymgeisiaeth seneddol mewn etholaeth lle 'roedd mwyafrif yr etholwyr yn Fethodistiaid. Cocoswaith amrwd oedd y gerdd, fel y tystia'r pennill cyntaf:

Cafwyd cyfeiriadau difyr dadlennol eraill hefyd yn y rhifynnau hyn. Er enghraifft, bob wythnos, ymddangosai hysbyseb yn 'Yr Udgorn' a gyhoeddai bod ffyrm Lloyd George yn "benthyca arian ar diroedd" - swyddogaeth amheus braidd i un a honnai fod yn iachawdwr y tlawd a'r gorthrymedig. Yn un o'r rhifynnau hyn hefyd, cafwyd adroddiad am un o gyfarfodydd Cymdeithas Ddadlau Cricieth, pryd y cynhelid ffug-etholiad Bwrdeisdrefi Arfon. Lloyd George a etholwyd yn gynrychiolydd yr etholaeth - awgrym rhwng difri a chwarae, efallai, o'i wir ddymuniad, a phroffwydoliaeth o'r hyn a gyflawnwyd ganddo ymhen byr amser. Yn ddi-os, fe fu'r 'Udgorn' yn fodd iddo ddynesu at y nôd hwn, oherwydd wrth ymgyrchu am yr ymgeisiaeth manteisiodd ar bob cyfle yn ei newyddiadur cyntaf i hyrwyddo'i achos.

Fe welir o'r detholiad cryno hwn o gynnwys yr 'Udgorn' yn ystod ei ddeufis cyntaf, pa mor werthfawr ydyw'r casgliad prin, cyfyngedig hwn o’r newyddiadur, er mwyn astudio gyrfa gynnar Lloyd George ar adeg tyngedfennol ei dwf i amlygrwydd.

Byddai sicrhau rhagor o ôl-rifynnau'r newyddiadur yn gymorth i dreiddio ymhellach eto i'r cyfnod allewddol hwn o yrfa yr athrylith wleidyddol fwyaf a fagodd Cymru erioed. A phwy a wŷr? - efallai bod gan rai o ddarllenwyr Y Casglwr gopïau llychlyd o'r 'Udgorn' yn llechu rhywle mewn seler neu atic lychlyd.

NODYN:Wedi i'r ysgrif uchod gyrraedd Y Casglwr daeth deg o gopïau cynnar 'Yr Udgorn Rhyddid' - o Gorffennaf 22, 1891 hyd Medi 30,1891 - i'r fei. Fe'u, cafwyd gan Dyfed Evans trwy W.R. Thomas o hen swyddfa Richard Jones ym Mhwllheli. Yr oedd copi cynharach na'r rhain eisoes ym meddiant Dyfed Evans.