PE CAWN I HWN ~ Meredydd Evans yn dewis llyfr

AC Y MAE fy hwn i yn cynnwys dwy gyfrol, er bod fy mhrif ddi­ddordeb i yn digwydd bod yn yr ail ohonynt. 'Rwy'n gyfarwydd â rhan weddol helaeth o gynnwys y gyfrol gyntaf; mae peth ohono yn fy meddiant eisoes. Serch hynny, tuedd naturiol dyn ydi mynnu'r dorth gyfan. Mi garwn yn fawr gael fy mhump ar ddwy gyfrol The Welsh Harper, gan John Parry, Bardd Alaw (1776-1851).

Cyhoeddwyd y gyfrol gyntaf ym 1839 a'i chyflwyno i The Cymmrodorion, or Royal Cambrian Institution. Af Fehefin 24, 1820, yr ailsefydlwyd Y Cymmrodorion a bedyddiwyd hi ag enw ychwanegol oherwydd iddi ymrwymo i fod yn ddolen gyswllt rhwng y Cymdeithasau Cymroaidd hynny a oedd naill ai wedi, neu ar fin cael, eu sefydlu yn Nyfed, Powys, Gwynedd a Gwent. Ymaelododd John Parry â'r Gymdeithas ar unwaith (yr oedd eisoes yn aelod amlwg o'r Gwyneddigion) a thrwy hynny daeth i gysylltiad agos â'r Eistedd­fodau Taleithiol a hyrwyddwyd gan y Cymdeithasau Cymroaidd hyn. Ond stori arall yw honno; dychwelaf at y gyfrol.

Ei chynnwys, bron yn gyfan­gwbl yw'r alawon telyn a gyhoeddwyd gan Edward Jones, Bardd y Brenin yn ei gyfrolau The Musical and Poetical Relicks of the Welsh Bards (1784; ac ail argraffiad, gydag ychwanegiadau, yn 1794); The Bardic Museum (1802 a Hen Ganiadau Cymru (1820).

Erbyn tri-degau y ganrif ddi­wethaf nid oedd yn hawdd cael gafael ar y cyfrolau hyn a phenderfynodd John Parry ail­gyflwyno eu cynnwys mewn un gyfrol, gan ychwanegu rhai alawon o gasgliadau John Parry arall, Parry Ddall, Rhiwabon, y casglydd cynharaf ohonynt i gyd – Antient British Music (1742): gyda chymorth Evan Williams; A Collection of Welsh, English and Scotch Airs (1761) a British Harmony, Being a Collection of Antient Welsh Airs (1781).

Cynhwysodd Bardd Alaw hefyd rai alawon "never before printed", wyth ohonynt, o leiaf, yn gyfan­soddiadau o'i eiddo'i hun, a daeth dwy o'r rheini yn dra adnabyddus, sef Llanofer a Cadair Idris. Ef hefyd, gyda llaw, a gyfansodd­odd Cainc y Datgeiniad, ond yn ail gyfrol y Welsh Harper y cyh­hoeddwyd honno.

***

FEL Y dwedais, yn y gyfrol honno (a gyhoeddwyd ym mlwyddyn dymhestlog 1848) y mae fy niddordeb pennaf i a hynny oherwydd ei bod yn cynnwys nifer dda o alawon nad ydynt yn argraffedig mewn cyfrol­au eraill. Dyfynnaf o'r Rhag­ymadrodd i'r gyfrol:

The airs have been selected chiefly from manuscript coll­ections presented to me, many years ago, by the late Owen Jones, Myvyr, and the Rev. John Jenkins of Ceri; also from a manuscript coll­ection by Aneurin Owen, Esq., and by kind permiss­ion of Miss M. Jane Williams, of Aberpergwm, a few airs from her collection of original melodies which gained a prize at the Aber­gavenny Eisteddvod, in 1838 (sic) ...

Mewn gwirionedd, ym 1837 yr enillodd Maria Jane Williams y wobr am y casgliad gorau o alawon traddodiadol Cymreig (yn cynnwys geiriau) ac wedi ychwan­ega ato yn ddiweddarach (dim ond pymtheg cân a anfonwyd ganddi i'r gystadleuaeth) cyhoedd­odd y cyfan dan y pennawd Ancient National Airs of Gwent and Morganwg (1844).

0 hwnnw, 'dybiwn i, y dewisodd John Parry rai o'i alawon, a gofalu nodi ei ffynhonnell wrth eu hargraffu yn ei gyfrol. Yn anffodus ni thraffertha i wneud hyn yn rheol tra'n codi o lawysgrifau Owain Myfyr, Ifor Ceri ac Aneurin Owen, er y gellir casglu ar brydiau, pa rai a berthyn i gasgliadau Ifor Ceri ac Owain Myfyr. Nid yw'n bosibl penderfynu pa ddefnydd a wnaeth o gasgliad Aneurin Owen yn yr ail gyfrol ond y mae tystiolaeth, yn y gyfrol gyntaf, ei fod yn manteisio ar waith y gŵr hwnnw wrth argraffu rhai Caneuon Ychen – heb eiriau, gwaetha'r modd.

Sut bynnag, casgliad a anfon­wyd i Eisteddfod Daleithiol Aber­honddu, 1826, oedd casgliad Aneurin Owen ac ymddengys oddi wrth un o nodiadau mynych John Parry nad oedd y nodi ar yr alawon yn foddhaol; ni phoen­odd Aneurin Owen i gorfannu'r llinellau, a dyna hefyd, wrth basio, oedd arfer Iolo Morganwg wrth nodi alawon.

***

ANFON telynor o gwmpas gwlad a wnaeth Owain Myfyr, yn ôl tys­tiolaeth John Parry, a chyfansodd­odd yntau, yn ei dro, alaw deyrnged i goffadwriaeth y rhoddwr hael hwnnw. Gyda'i har­graffu, ychwanegodd y nodyn hwn:

Mr.Jones gave me a small Book in 1809 containing thirty airs in M.S. which I value very much, and not a bit the less, because the humble scribe whom he employed to copy them, when he was on a visit to his native place, called them welsh tunes...

Ond yr haelaf a gyflwynodd alawon iddo, yn ddios, oedd y gŵr o Geri, y Parchedig John Jenkins, gyda'i frwdfrydedd dibendraw dros lenyddiaeth ei wlad a cherdd­oriaeth ei gwerin. Ym 1820, yn Wrecsam, cynhaliwyd Eisteddfod Daleithiol gyntaf Powys, a John Parry yn gofalu am y cyngherdd­au. Yn yr eisteddfod honno yr urddwyd ef yn "Bardd Alaw" ac yno hefyd y cyflwynodd Ifor Ceri iddo gasgliad o alawon.

Dyma ran o'r nodyn a gysyllt­odd y cerddor ag alaw deyrnged ganddo i offeiriad Ceri yn ail gyfrol y Welsh Harper – Marwnad Ivor Hael o'Geri:

"A collection of which, in his own handwriting, amounting to one hundred and eighty-seven, was presented to the Editor at the Eisteddvod held at Wrexham, in 1820, by Mr. Jenkins, who had been for thirty years making it, and noting down the various airs, as they were performed by the harpers in different parts of Wales, North and South. "

Yn rhyfedd iawn, fodd bynnag, nid yw John Parry yn cyfeirio o gwbl yn ei gyfrol at gasgliad ychwanegol a gafodd oddi wrth Ifor Ceri. Mewn llythyr a anfon­odd i Geri, dyddiedig Hydref 9, 1826, cydnebydd iddo dderbyn y casgliad, ac ychwanega:

"It is my intention as soon as I can to publish a volume consisting of those airs, not to be found in Jones' – and by and by – a volume of the Choice Welsh Airs – consist­ing perhaps of a 100 or so arranged in easy style and at a moderate price... "

Awgryma yr Athro Stephen J. Williams yn ei Ddarlith Agoriadol, Ifor Ceri – Noddwr Cerdd (1770 –1829) (a phrysuraf i gyfaddef y carwn gael copi o'r ddarlith hon, yn ogystal!) mai'r ddwy gyfrol Melus Seiniau Cymru, sy ar gael yn y Llyfrgell Genedlaethol, a ffurfiai'r casgliad hwn, a chynnwys y cyfrolau hyn dros 300 o alawon Cymreig.* A fu'r fath haelioni erioed yn hanes casglu alawon gwerin? Rhyfedd na chydnabu John Parry iddo dderbyn ond rhyw ychydig dros draean o'r rhain. Pam tybed?

Dengys yr Athro Williams hefyd, gyda llaw, i John Parry ddefnyddio, yn ei Ragymadrodd i ail gyfrol y Welsh Harper, rai sylwadau cerddorol o eiddo Ifor Ceri, heb gydnabod hynny o gwbl. Ai anonestrwydd oedd hyn ynteu rhyw wendid dynol Ilai gwrthun? Yn ôl y darlun sy gen i yn fy meddwl o John Parry tueddaf i droi at yr ail bosibilrwydd.

Sut bynnag am hynny, yr ydym yn ddyledus iddo am ei gyfran­iad i gerddoriaeth Cymru; ar y cyfan 'roedd hwnnw'n un ben­dithiol, a 'does bosib na ellir maddau iddo am yr Anglo-Italian farces – yn eironig ddigon, dis­grifiad Ifor Ceri o'r cyngherddau a drefnwyd gan John Parry ar gyfer yr Eisteddfodau Taleithiol!

* Golygya hyn, felly, i John Parry dderbyn oddi wrth Ifor Ceri yn ystod dau-ddegau'r ganrif ddi­wethaf, dros 487 o alawon Cymreig!