MWY AM BOB OWEN gan Dyfed Evans

YN SGÎL cyhoeddi'r gyfrol Bywyd Bob Owen daeth cymhelliad arnaf i fwrw golwg eilwaith ar y nodiadau a godaswn wrth gywair y deunydd. Ni wn i sicrwydd a yw'r nodiadau'n gyflawn gennyf, ond y mae'n aros gyfran bur helaeth ohonynt beth bynnag, mewn wyth o lyfrau-cefn­weiran ynghyd â rhai tudalennau a baratoasai Bob Owen yn ei lawysgrifen ei hun mewn beiro goch.

Nid yw'n arferiad gan ohebwyr papur newydd i gadw eu llyfrau nodiadau ar ôl i'w straeon ymddangos, hyd y gwn, a dir­gelwch i mi yw sut nad aeth y chain hefyd, yng nghwrs ugain mlynedd, i ddifancoll fel y pentyrrau eraill a lenwais yn ystod fy nhymor ar Y Cymro. Ond yma y mae nhw.

Sylwaf fod y cyfan bron o'r nodiadau wedi'u cynnwys yn rhywle ym mhenodau'r gyfres, ond eto y mae rhai manion bethau na lwyddwyd, rhywfodd neu'i gilydd, i'w defnyddio yng ngwead y stori. Tybiais y gallasent fod o ddiddordeb i chwi, ddarllenwyr Y Casglwr, aelodau Cymdeithas Bob Owen.

***

YMWNEUD â'i gasbethau y mae'r rhan helaethaf o'r nodiadau 'sbâr' hyn. Yr oedd gan Bob adrannau hwylus yn ei ben i osod yr hyn a hoffai a'r hyn a gasâi. At y cas­bethau a groniclir yn y gyfrol gellwch ychwanegu'r gymysgfa ryfeddol hon:

Mae'n gwbl wybyddus, wrth gwrs, nad oedd yn or-hoff o rai pobl mewn hanes, a'r gred gyffredinol yw mai ar gefn John Elias druan, y dôi'r ordd i lawr galetaf gan Bob. Nage wir! Nid oedd John Elias ymysg y tri blaenaf o'i gas bobl.

Ar ben y rhestr honno safai'r Duke of Wellington. Wn i ddim pam. 'Does dim gair o eglurhad yn y nodiadau ac os cefais y wybodaeth ar y pryd yr wyf wedi llwyr anghofio'r ffeithiau erbyn hyn. Yn ail - dôi'r Frenhines Victoria, "oherwydd ei gor-dduwioldeb a'i hymddygiad at ei mab Edward". Ni fedraf ymhelaethu ar hyn'na 'chwaith. Ac yn drydydd - "y cynllwyniwr twyllodrus Siôn Wyn o Wydir."

Mewn dosbarth arall, yr ail adran fel petai, y gosodid John Elias a Mary Jones mae'n siŵr gen i. "Mae rhai pobl yn meddwl nad wyf yn hoffi John Elias," meddai Bob. "Cofiwch chi, mi 'roedd yna rai pethau da iawn yn perthyn iddo fo. Deud y drefn am ei fod yn ormeswr wnes i." Am Mary Jones, y cyfan a wnaethai oedd hyn - "tynnu tipyn dan sylfeini y gorliwio a fu ar ei stori."

***

CAFODD Bob ei gollfarnu'n bur hallt o dro i dro am ddryllio delwau a dadleuai'n chwyrn bob amser mai codwr delwau a fu ef. Gwelaf gyfeiriad yn y nodiadau iddo wneud hynny ar y teledu pan ymddangosodd ar un o raglenni Granada am y tro cyntaf. Meredith Edwards oedd yr holwr. "Tipyn o ddrylliwr delwau ydach chi ynte Bob Owen?"

A dyma'r ateb a gafodd:

    "Duw annwyl, nage. Ddaru mi ddryllio dim ond rhyw chwech neu saith ac mi 'roedd
    eisiau dweud y gwir amdanyn' nhw. Mi godais ugeiniau, onid cannoedd o bobl ar
    bedastl yn ystod fy oes ond 'dydir diawliaid sy'n fy nghondemnio am ddryllio am
    bell ddelw ddim yn barod i guro 'nghefn i am godi rhai chwaith. "

I gyfannu'r patrwm ynglŷn â phobl, yr oedd ganddo hefyd ei hoff sant. Yr Esgob William Morgan oedd hwnnw.

***

BETH AM gas-leoedd? Oedd, debyg iawn. Ar y brig yn yr adran hon gosodai lysoedd barn, lle gwelid twrneiod, medda fo, wrth amddiffyn eu 'clients' yn ceisio baglu dynion gonest ac yn "defnyddio eu clyfrwch i geisio gwneud gwyn yn ddu a du yn wyn." Yr oedd hefyd "hen lol, hen ddefodau hen ffasiwn a rhyw or­urddasolrwydd a phomp cyfreithiol yn dychryn tystion."

Syniai fel hyn ar bwys ei brofiad ei hun fel prif dyst mewn dau lys. Unwaith yr oedd gŵr wedi torri i mewn i swyddfa'r chwarel ac ymhen spel wedi ceisio troi'n arian ddwy siec gwerth £1,500 yr un. Aethai'r achos rhagddo i'r Frawdlys yn Ninbych a chrynai Bob wrth feddwl am wynebu Syr Ellis Jones Griffith a oedd yn amddiffyn. "O drugaredd," meddai, "fe bleidiodd Twm Gwlân yn euog, a ches innau fy arbed rhag y croesholi yn y fan honno."

Yn llys Penrhyndeudraeth pan oedd yn un ar hugain oed y bu'r tro arall. Disgwylid iddo roi ei dystiolaeth yn Saesneg. Gofynnai yntau am gael gwneud hynny yn Gymraeg. Cyfaddefai ei fod i raddau bryd hynny yn dipyn o "Sais-addolwr" ac nad oherwydd ei fod yn "Gymro mawr" y deisyfai roi ei dystiolaeth yn Gymraeg, ond am y byddai'n fwy rhugl yn ei iaith ei hun. Yr hyn a gafodd oedd ei ddirmygu'n gyhoeddus. "Y chi, a chithau'n glarc, heb ddigon o Saesneg," meddai cadeirydd y Fainc.

    "Heddiw, - meddai Bob, pan adroddai'r hanes, "mi fuaswn
    wedi diawlio aelodau'r Fainc o'u cwr, cyn sicred â dim ichi. "

Hoff ymgyrchleoedd - "llyfrgelloedd cyhoeddus a rhai llyfrgelloedd llai, a rasys cŵn defaid."

***

MAE'R STORI gyfarwydd am ei fis mêl yn y gyfrol yn llawn, ond dyma dameidyn arall y deuthum ar ei draws o'r cyfnod pan hwyliai ati i briodi. Aeth â chyfaill efo fo i Gaernarfon i brynu dodrefn. Y cyfaill aeth i Astons; hel ei draed rownd siopau llyfrau a wnaeth Bob!

A dyma frawddeg arall a ddaeth i'r fei — yng nghwtyn y stori amdano'n ymgeisio am swydd llyfrgellydd yn sir Feirionnydd: " 'Rwy'n falch erbyn hyn na ches i mo'ni," meddai Bob, "neu dyna lle baswn i yn pacio nofelau sex a nofelau ditectif i wahanol rannau o'r sir efallai. Dyna ichi gosbedigaeth."

Yn naturiol, nid da ganddo bobl a fenthyciai lyfrau a pheidio â’u dychwelyd. Y troseddwyr pennaf oedd pregethwyr gyda "rhai beirdd" yn ail da iddynt. Wedyn dyna'r bobl a anfonai gais am wybodaeth heb amgáu stamp i yrru'n ôl. Daliai Bob iddo wario "ugeiniau o bunnau" yn prynu stampiau i’r bobl hyn - yn enwedig "genod y colegau yn gwneud traethodau ar hanes Ileol!'

Ond mae hyn yn sicr iawn. Go brin y byddai yna neb ar wyneb daear yn barotach i faddau iddynt na Bob.