HEL! yng nghwmni W.S.Jones
"MAE SWM y casgliad yn ddau swllt ac un geiniog ar ddeg." Mi gododd i bump a dwy y Sul cyn y trip. Pawb at y peth y bo, hwn yn casglu stampiau, nacw'n casglu poteli a'r llall yn casglu llyfrau, a fel'na a fel'na. Gêm reit ddifyr a gêm sy'n llawn mor dueddol o fynd i waed dyn yw casglu neu hel hen fotor beics. P'run ddeudwch chi? Hel ynteu casglu? Dibynnu beth ydi'ch lein chi, decini. Hel mwyar duon a hel tatws y byddwn ni. Arferai un hen flaenor yn ein capel ni weiddi dros ganllaw'r sêt fawr, "Ellis Wan, ddowch chi o amgylch i hel casgliad," - rheibus iawn, 'roedd o am fynnu cael y jam a'r caws. Hel hen fotor beics ges i'n destun, felly hel amdani hi.
I ddechra cychwyn, chadal ninnau, rhaid crybwyll bod yr heliwr yn dibynnu'n reit helaeth ar ei deliffon, ei ffrindiau a'i reddf. Mae'r teliffon yn canu ac yna'n cyhoeddi bod yn Edeyrn hen B.S.A. (V.S.A. yw'r treiglad cywir) hen uffernol. Rhusio yno a chanfod nad yw'r "uffernol" hanner cyn hyned â'r lle heb sôn am y Landlord. Na, nid yw'r teliffôn i'w drystio, mae ffrindiau yn dipyn bach bach mwy o help.
Ddoe ddwaetha dacw gyfaill o siopwr yn fy nhywys gerfydd fy nhagell i'w warws cyn mentro sibrwd fod yn Nantgwythegs foto beic tanc sdyllan, un hen hen o'r enw Roial Riwbi, a phetai'r cyfaill yn fy lle i, rhuthro i'r Nant yn reit ddiymdroi wna o rhag ofn i borthmon arall, un diarth ella, gael y blaen arna i. Nid bychan o gamp un amser yw mynd a dŵad i Nantgwythegs. Naddo, ches i ddim pwt o foto beic, na hen na newydd. Y cyfan welais i yno oedd injian falu tsiaff rydlyd wedi colli un gyllell. Petai yno deliffon mi faswn wedi crefu ar y Gymdeithas Diogelu Hen Beiriannau ddŵad i'w nôl a'm nôl innau yr un pryd.
Wedi'r ymladd a'r ymlâdd i ddod i’r wyneb o Nantgwythegs dyma roi tro heibio i'm cyfaill o siopwr a'i ddal yn dynn ar ei ddwbl ffenast (o'r tu allan) a'i gonffryntio. Camgymeriad, slup, sgid-hwch. Yn Nantgwyn - Shh, iw cno whêr, yr oedd y Riwbi Roi. la, un del oedd o, yn sgleinio fel swllt ac yn troi fel telyneg. Biti garw iddo fo gael ei werthu i ryw Mr. Holeman o Gent, a hynny pan o'n i'n efresta fy ffordd i fyny i'r ddaear o Nantgwythegs.
***
GREDDF PIA hi, siŵr gin i, owns o reddf a dwy o ddigwyleidd-dra a'u cymysgu nhw reit dda. Mi faswn i un Triumph 1927 yn dlotach heddiw onibai i dyn marcio llo roi cic i ddrws sgubor Cwm Tecaf oddi ar ei dolyn a busnesa. Dro arall, mi drawis ar hen Fint - naci - hen New Imperial mewn ffos yn Nazareth (Gwynedd). Y tebyg ydi y basa'r perchennog a finna wedi anwybyddu'r tocyn rhydlyd onibai i ryw ddewin dŵr o'r tu fewn fy nhywys i drwy'r giât bach i dop yr ardd. Mi fuo'n rhaid i mi dalu'n hegar amdano fo, ond waeth i chi pa'r un, mae o'n mynd fel yr 0 Ji erbyn hyn.
Oes, mae gwefr i'w chael wrth hel hen feiciau. Mae'r llyfr bach Discovering Old Motor Cycles gan T.E. Crowley ynddo'i hun yn foddion i wneud heliwr o unrhyw un. Cawn, erbyn meddwl, aml i gyfeiriad at fotor car a motor beic yn Gymraeg hefyd. Efallai mai ysgrif Syr T.H. Parry-Williams, y 'KC 16', sy'n dod i'r meddwl yn gyntaf. Cofiaf weld tri phrentis mecanic yn gwirioni ar ysgrif arall o eiddo T.H. Parry-Williams yn Y Llenor. 'Ffidlan' yw enw honno, ysgrif sy'n trafod echel ôl car modur, a hynny'n llawer gwell, yn llenyddol a fel arall, nag unrhyw Motor Maniwal. Wedyn mae'r stori anfarwol 'Yr Hen Siandri' ar gael yn Storiau'r Henllys Fawr gan W.J. Griffith, a chawn Robert Owen yn dweud hanes yr hen Osdun ALC 650 yn Yr Hen Lagonda ac Ysgrifau Eraill.
A'r motor beic? Mae o wedi cael ei le mewn ambell i lyfr da. Crwydro'r Cyfandir gan Ambrose Bebb yn un, a Hadau Gwyllt gan John E. Williams yn un arall. Mae llun gyda'r gorau o fotor beic yn Rhwng Dau Fyd gan Iorwerth C. Peate. BSA moel heb ddim pwt o lamp yw hwn, nid drwg i gyd, felly, oedd i'r bladres dynes honno fygwth y cŵn arno a wneud i'r Doctor Peate hel ei bac cyn nos. I ddod yn nes adref, mae Eddie Kenrick wedi rhoi gwerth grôt go dda i ni yn ei Old Coaches of Lleyn. Coitsus ceffylau oedd y rhain, tybed na ddaeth yr amser i gofnodi hanes y cyfnod a'i dilynai, cyfnod y lorïau, Fantol, Tirgwenith, Pwllcrwn, Rhydtrwodd, Tŷ Gwyn a mwy? Ydi, mae hel hen beiriannau yn gorfodi dyn i fynd i hel straeon. Pobol a'u pethau, mae nhw'n ddiddiwedd.