GWYRTH Y GANRIF gan Norman Williams
AR DDECHRAU'R saithdegau, am resymau nad oes ofod yma i ymhelaethu arnynt, cymharol ychydig oedd yn darllen Cymraeg yn rheolaidd a gwerthiant papurau fel Y Cymro a'r Faner yn siomedig o isel. Ychydig iawn o bapurau lleol Cymraeg a gyhoeddid ac er yr holl nawdd a dderbyniai llyfrau a chylchgronau 'roedd gwerthiant o ddwy fil o gopïau yn ffigwr i ymfalchïo ynddo.
Credai rhai nad oedd digon o amrywiaeth o gyhoeddiadau'n cael eu cyhoeddi a bod diddordebau y Cymro cyffredin i raddau helaeth yn cael eu hanwybyddu gan gyhoeddwyr a chan y noddwyr yn ogystal. 'Roedd yna duedd bendant i anelu ein deunydd printiedig Cymraeg tuag at y dosbarth canol diwylliedig gan anwybyddu anghenion y mwyafrif llethol yn ein plith, oedd am ddarllen llyfrau a chylchgronau mwy poblogaidd ac ysgafn.
Fodd bynnag yn ystod y saithdegau, digwyddodd chwyldro holl bwysig, chwyldro a brofodd unwaith ac am byth fod y Cymry yn fwy na bodlon darllen y Gymraeg, ond iddi fod yn gyfrwng i gyflwyno pynciau o ddiddordeb gwirioneddol iddynt, a dyna'r prif reswm dros boblogrwydd rhyfeddôl y Papurau Bro. Gadawaf i’r darllenydd benderfynu ei hun pryd ac ymhle yr ymddangosodd y Papur Bro cyntaf, rhag pechu neb ond dyma sut y gwelais i'r datblygiad.
***
YM 1971, cyhoeddwyd pum rhifyn o bapur a ddosbarthwyd yn rhad ac am ddim sef Llais Ceredigion. Daeth i ben am nad oedd yn ymarferol yn ariannol ac oherwydd problemau dyrys gyda dosbarthu mewn ardal mor fawr. Er na fu hir oes i Lais Ceredigion profodd pa mor bwysig oedd sicrhau sylfaen fodern ariannol i fenter o'r fath.
Mae anghenion darllenwyr pob ardal yn wahanol i ryw raddau ac anghenion trigolion Caerdydd yn sicr yn unigryw. Profiad rhyfedd iawn oedd symud o gymdeithas glos pentref gwledig yng Ngwynedd i gymdeithas amhersonol ar wasgar y brifddinas ac anodd oedd credu fod yna ddeuddeng mil o Gymry Cymraeg yn llechu yno yn rhywle.
Cymdeithas o gylchoedd bychain, hyd y gwelwn i, oedd Caerdydd y Cymro Cymraeg - y capeli, yr Aelwyd, y clybiau Rygbi, a Phêl-droed, y Conway a'r Ely ac ati - a'r cyfan yn cynhyrchu myrdd o weithgareddau. 'Roedd angen mawr am bapur fuasai'n adlewyrchu'r bywyd yna ac a ddeuai â’r trigolion yn nes at ei gilydd.
Felly ym 1972 aethpwyd ati i baratoi'r maes gogyfer â chyhoeddi papur Cymraeg ac yn Ebrill 1973 cyhoeddwyd y rhifyn cyntaf o Y Dinesydd gan argraffu 5000 o gopïau a'u dosbarthu yn rhad ac am ddim. Yr unig incwm a dderbyniai'r papur oedd incwm hysbysebu a rhoddion oddi wrth unigolion ac ar ôl dipyn o strach llwyddwyd i berswadio Cymdeithas Gelfyddydau'r Dwyrain i roi grant tuag ato.
***
FLWYDDYN a hanner yn ddiweddarach ym mis Hydref 1974 ymddangosodd y ddau Bapur Bro gwirioneddol cyntaf sef Llais Ogwan a Phapur Pawb, y naill yn gwasanaethu Dyffryn Ogwen gyda gwerthiant o 2000 a throsodd, a'r llall yn bwydo trigolion Talybont, Taliesin a Threrddol ac yn bwysig oherwydd ei fod yn llwyddo tra'n gwerthu dim ond rhyw saith gant. Dilynwyd y ddau yma ymhen deufis gan Pethe Penllyn, a'i gynnwys yn adlewyrchu diwylliant arbennig yr ardal honno, a Clebran yng nghylch y Frenni.
Ymddangosodd y papurau eraill yn rheolaidd wedyn, wyth yn 1975, naw yn 1976 ac wyth yn 1977, ac ar ddechrau 1978 dangosodd Nenne ei ben i wneud cyfanswm o 32. Mae'n bosibl y gwelwn ddau neu dri arall ychwanegol yn ystod eleni ond digon o waith y gwelwn lawer mwy o Bapurau Bro newydd yn ymddangos eto. Cyrhaeddwyd bron hyd at gopa'r mynydd ond mae arwyddion pendant fod cymylau duon yn amgylchynu o leiaf 4 o'r Papurau sef Y Sosban, Llais Dinefwr, Bro Ystwyth a'r Ancr.
Ai'r datblygiad nesaf fydd gweld y nifer yn lleihau'n raddol nes gadael ar ôl rhyw lond dwrn o bapurau llewyrchus?