DWY GYFROL DAU GRYNWR ~ Ail bennod Emyr Wyn Jones

YN RHIFYN Rhagfyr 1977 o'r Casglwr soniais am Richard Davies o'r Trallwng a'i gyfrol nodedig, An Account of the Convincement .... a'r trosiad ohoni i'r Gymraeg. Dyma gyfle yn awr i roi dipyn o hanes Ellis Pugh (1656-1718) o ardal Dolgellau a gydoesai ag ef, ac fe gofir i'r ddau ddod at y Crynwyr trwy ddylanwad Siôn ap Siôn - a adnabyddid yn fwy cyffredinol efallai fel John ap John. Fy mwriad y tro yma yw trafod llyfr Ellis Pugh - ei unig lyfr - a chyn hynny, priodol, ac yn wir hanfodol, yw rhoi amlinell­iad o'i fywyd.

Egyr Annerch ir Cymru gydag adran fer 'At y Darllenydd' yn dwyn y teitl 'Hanes yr Awdwr', a dyma bron yr oll o'r ffeithiau bywgraffyddol amdano sydd ar gael. Mae cynildeb yn y byd llenyddol yn dra derbyniol ambell dro ond effaith y dogn o 'Hanes' a geir yma yw peri gofid oherwydd ei fyrdra a'i brinder, a chreu dyhead am fwy o wybodaeth yn enwedig am ffeithiau teuluaidd ac agweddau cartrefol bywyd Ellis Pugh.

Dilynir yr 'Hanes' gan 'Tystiolaeth Y Cyfarfod Misol yn Ngwynedd, yn swydd Philadelphia yn Mhensilfania...' Arwyddwyd yr adran yma gan un ar bymtheg o'i gyd-Grynwyr. Y mae'r cyfraniad yma bron ddwywaith yn hwy na'r 'Hanes', ac ynddo ceir dipyn rhagor o wybodaeth am Ellis Pugh a'i gyraeddiadau ym myd crefydd. Crynswth y gyfrol yw'r Annerch o waith yr awdur ei hunan.

***

YN ÔL 'Hanes yr Awdwr' ganwyd Ellis Pugh ym mis Mehefin 1656, neu i'w roi yn null y Crynwyr - 'y chweched mis yn y flwyddyn.' Ym marn Henry Blackwell yn ei Dictionary of Welsh Biography mis Awst sy'n gywir; nid yw yn cyfeirio at Fehefin. Mae'n debyg iddo wneud camgymeriad trwy gyfrif y misoedd o Fawrth, am mai hwn oedd mis cyntaf y flwyddyn cyn newid y calendr ym 1752. Am yr un rheswm llithrodd Blackwell eilwaith trwy osod dyddiad marwolaeth Ellis Pugh yn Rhagfyr, ond mis Hydref sy'n gywir.

Nid oes dim gwybodaeth am ei rieni ond y gosodiad syml eu bod yn 'bobl grefyddol'. Bu'r tad farw cyn geni Ellis, a chollodd ei fam y dydd yn fuan ar ôl yr enedigaeth, gan adael y baban 'fel aderyn y to ar ben y Tŷ.' Magwyd ef gan berthnasau yn ardal y Brithdir, ger Dolgellau, mewn tyddyn a elwid Penrhos. Er dygn chwilio ni ddeuais o hyd i'r bwthyn na'i olion.

***

TUA DIWEDD ei arddegau y daeth Ellis Pugh dan ddylanwad crefydd, ar ôl cyfnod o 'fyned gyda'r lliaws i ynfydrwydd'. Dywedir amdano: 'Ac yn dair ar bymtheg oed ymwelodd Duw ag ef... drwy dystiolaeth Siôn ap Siôn...' Ymhen chwe mlynedd, 'ynghylch y flwyddyn 1680, rhoddwyd iddo ran o weinidogaeth Efengyl Crist; er nad oedd un o ddoethion y byd, nac wedi cael dysgeidiaeth dynol.'

Dyma adeg yr erledigaeth ddi­dostur ar y Crynwyr ym Meirionnydd, ac ym Mhrydain drwyddi draw. Nid oes angen rhoi enghreifftiau yma o'r gorthrwm a'r carcharu a'r atafaelu, mae'r manylion i'w gweld, sir wrth sir trwy Gymru yng nghofrestr adnabyddus y Sufferings... ' gan Besse. Canlyniad y gormesu oedd i William Penn sefydlu cyfundrefn newydd yng Ngogledd America, lle y byddai rhyddid i'r Crynwyr fyw ac addoli yn ddilyffethair.

Nid y Crynwyr oedd y cwmni cyntaf i groesi Môr Iwerydd yn y dyhead am waredigaeth. 'Roedd y Tadau Pererin yno er 1620. Yn dilyn adferiad Siarl II bwriwyd John Miles y Bedyddiwr allan o'i eglwys yn Ilston, Penrhyn Gŵyr, ac yn 1662 hwyliodd yntau i'r America a ffrwyth ei ymfudiad fu sefydlu Swanzey ym Massachusetts.

Ugain mlynedd yn ddiweddarach, ym 1682, ymfudodd y cwmni cyntaf o'r Crynwyr i'r 'Gymru Newydd', ac yn eu plith 'roedd cyfran helaeth o Feirionnydd. Nid oedd yr enw arfaethedig yn dderbyniol yn Llundain, a rhaid oedd bodloni ar 'Pennsylvania'. Ymateb y gwladychwyr oedd rhoi enwau Cymraeg sy'n aros hyd heddiw ar eu tai a'u tiroedd.

Hwyliodd cwmni arall allan o afon Merswy yn 1684; ac ymhen dwy flynedd yn ôl 'Hanes yr Awdwr' ymfudodd Ellis Pugh – 'efe a'i deulu ac amryw o'u cyd­nabyddiaeth' - ond yn anffodus ni roddir manylion pellach. Fe wyddys bod ei gymydog ifanc, Rowland Ellis Brynmawr, yn eu plith. 'Roedd gwaed yr uchelwyr yn ei wythiennau, a'i achres fel y gwelir yng nghyfrol Glenn yn ymestvn yn ôl i'r brenin Harri IV.

***

HWYLIODD y llong, o Aber­gleddau ar 8 Hydref 1686, a dad­lennir i ni y bu Ellis Pugh yn ddifrifol wael ac mewn cyfyngder 'dros rai diwrnodiau' cyn mynd ar y llong. Mae'n anodd i ni heddiw, sy'n ymffrostio mewn esmwyth­fyd y chwimder tramwyol, ddych­mygu enbydrwydd y mordeith­iau dair canrif yn ôl. Gadawodd yr Amity borthladd Llundain yn Awst 1681, yna bu raid iddi aeafu yn y Barbados ac ni chyr­haeddodd y gwladychwyr ben eu taith hyd Ebrill 1682. Bu'r teith­wyr ar y John and Sarah, a hwyl­iodd yr un adeg, yn fwy ffodus; tiriasant hwy ym Mhensylfania ddiwedd Hydref.

Fel y digwyddodd mordaith ddi-­drafferth a gafwyd yn 1682, glan­iod y llong mewn un wythnos ar ddeg ac un plentyn yn unig a fu farw. Dro arall yn Ebrill 1698 hwyliodd dros gant o'r Crynwyr o Lerpwl a bu farw pump a deugain - y rhan fwyaf ohonynt yn blant - ar y môr o dwymyn.

Mordaith helbulus iawn a gafodd Ellis Pugh hefyd; sonnir am 'dymhestloedd cyfyngderau a blinder... ac wedi bod ar y môr terfysglyd trwy y gauaf glaniasant yn y Barbados yn Ionawr 1687; (nid ym Mawrth fel y dywed Y Bywgraffiadur Cymreig).

Ar ôl llochesu ac atgyfnerthu yno am rai wythnosau, 'yn yr haf ar ôl hynny y daethont i Bensil­vania', ac i fod yn hollol gywir yn Ebrill y cyraeddasant dir yr addewid ar ôl chwe mis o deithio. Trengodd nifer mawr o'r cwmni ar y fordaith neu yn fuan wedi glanio.

***

CYN GADAEL ei sir enedigol 'roedd Ellis Pugh wedi profi ei hun yn ŵr gweithgar a dylanwadol er gwaethaf diffyg addysg ffurfiol. Llafuriodd yr un mor effeithiol yn y wlad newydd, ac y mae prawf o hyn yn yr 'Hanes', lle telir teyrn­ged iddo fel gŵr addfwyn, hawdd­gar a heddychol, a'i weinidogaeth yn fywiol a llesol, ac 'o air da ymysg pob math o bobl yn gyffredinol.'

Gwelir cyfeiriad at ei alwed­igaeth heb unrhyw awgrym beth ydoedd. Yn ôl Blackwell 'roedd yn cynnal ei deulu trwy amaethu. Dywed Mardy Rees ar y Ilaw arall mai saer maen oedd Ellis Pugh wrth ei grefft, pan mae'n cyfeirio, mi dybiaf, at ei fywyd yn y Brith­dir cyn ymfudo. Ni ddatgelir sail y gosodiad, ac fe gyfyd peth amheuaeth oblegid pan rydd yr un awdur restr o'r gwladychwyr o Sir Feirionnydd ychwanegir y gair 'yeoman' — amaethwr ar ôl enw Ellis Pugh.

Crybwyllir hefyd gan Mardy Rees, a ddibynnai ar Glenn yn hyn o beth, iddo briodi gwraig weddw o'r enw Sina, 'who had nine small children.' Mae'r gair 'poor' hefyd am y plant yn y frawddeg wreiddiol yng nghyfrol Glenn. Mae'r geiriad yn awgrymu mai ei phlant hi oeddynt, ac nid eu plant hwy. Mewn perthynas â hyn dylid cofio nad oedd Ellis Pugh ond deg ar hugain oed pan hwyliodd 'ef a'i deulu ac amryw o'u cydnabyddiaeth' yn 1686.

Dengys Cofrestr Eglwys y Plwyf, Dolgellau, a ddyfynnir gan Wm. Williams, i ddyn o'r enw Ellis Pugh briodi yno ym mis Gorffennaf 1679. Tybed mai'r gŵr ifanc 23 mlwydd o Benrhos ydoedd? Yn anffodus nid Sina oedd enw'r briodasferch onid yw'r enw wedi ei sigo a'i dalfyrru o Catharinam, oblegid dyna'r enw Lladin (yn ôl yr arfer) a welir yn y Cofrestr.

Ni ellir bellach brofi dim byd terfynol y naill ffordd na'r llall. Fy nghred bersonol yw na fuasai Crynwr ifanc cadarn yn fodlon priodi mewn tŷ meindwr, (y 'Steeple-house' fel y gelwid yr eglwys). Byddai'n debycach o briodi yn null syml y Tŷ Cwrdd, fel y priodwyd llawer o'r cyfeillion yn y parlwr yn Nhyddyn-y. Garreg.

***

DYCHWELODD Ellis Pugh i Gymru am gyfnod o ddwy flynedd, o 1706 hyd 1708; tramwyodd ledled Cymru a bu hwn hefyd yn gyfnod o weithgarwch 'llesol a chymeradwy'. Yn bur fuan, mae'n debyg, wedi dychwelyd i'r drefedigaeth 'tri o'i blant yn mlodau eu hoedran a fuant feirw, tu fewn i'r un mis, y rhai o'u hieuenctid a rodiesynt yn weddus ac yn obeithiol... Cafodd allu i ddwyn ei brofedigaeth.'

Yn ystod yr haf 1717 `cymerodd dolur ef, bob yn ychydig a brifioedd yn glefyd marwolaeth iddo;' ac yna 'yn agos at ei ddiwedd, fe ymweloedd â ni, sef y Cyfarfod Diweddaf y bu ef yn ein plith, yn wan yn ei gorph, eto yn wresog yn ei ysbryd, gyda Ilawer o rywiogrwydd a thyner­wch, fel un yn canu yn iach y tro diweddaf.'

Bu Ellis Pugh farw ar y trydydd dydd o'r degfed mis ym 1718. Methais olrhain tri o arwyddwyr y 'Dystiolaeth'. O anghenraid roedd­ynt oll yn Gymry ac ar wahân i un, neu efallai ddau, o'r De, Cryn­wyr o Sir Feirionnydd oedd y mwyafrif helaeth ohonynt, ac 'roedd enw Rowland Ellis yn eu plith.

Siomedig i raddau yw’r crynodeb o fywyd Ellis Pugh, a hyd y gwelaf nid oes ffeithiau ychwanegol amdano ar gael. Cnewyllyn yr hanes yw dygnwch ei ymroddiad, addfwynder ei ysbryd a dylanwad iachusol ei bersonoliaeth ar bawb o’i amgylch.

'Roedd cannwyll 'y goleuni mewnol' yn llosgi ynddo, nid feI llin yn mygu, ond fel 'llusern i’w draed a llewyrch i'w lwybrau'. Ymestyn ei wyleidd-dra atom ar draws tair canrif; ar wynebddalen ei lyfr mae'n datgan yr undod sydd rhyngddo a'r 'Tlodion annys­gedig... y rhai o isel radd, o’m Cyffelyb fy hunan.'

Cofiaf am gyffyrddiad o'r un lledneisrwydd rai blynyddau'n ôl wrth edrych ar garreg fedd yn un o gymoedd diarffordd yr hen sir Frycheiniog. Ar y garreg 'roedd enw'r hynafgwr a'i dyddyn unig yng nghesail yr Epynt; ac yn dilyn, geiriau Amos: 'Namyn bugail oeddwn i.' Profiad tebyg oedd sefyll wrth fedd William Penn yn Jordans, a darllen y ddwy lythyren — W.P. - dyna'r cwbl.

***

AR ÔL rhoi crynodeb o fywyd Ellis Pugh y mae'n bryd troi at ei lyfr. Methais weld cadarnhad o'r awgrym mai yn ystod ei ymweliad â Chymru y pwyswyd arno i ddâr­paru'r gyfrol, er bod y syniad yn un rhesymol. Yr unig wybodaeth sicr wrth law yw'r ddwy frawddeg yn 'Hanes' a 'Tystiolaeth' ar ddechrau'r llyfr. Dywed y naill mai 'perthynas a arosoedd arno i ysgrifennu y llyfyr sydd yn canlyn... yr hwn a ysgrifennodd ef gan mwyaf yn ei glefyd diweddaf.' Meddai'r llall: '... megis ei ewyllys olaf, o Annerchiad cariadus at ei Gyd-genedl y Cymry y 'ngwlad ei enedigaeth; yr hyn a ysgrifennodd ef a'i law, yn ei iaith ei hun, yn amser ei hir glefyd.'

Dechreuodd ar y gwaith naw mlynedd ar ôl dychwelyd o'i daith i Gymru.

Ymddengys fod trefniant gan y Cyfeillion ym Mhensylfania i arolygu cynhyrchion crefyddol (ac efallai llenyddol) yr aelodau, ac i osod imprimatur neu sêl cym­eradwyaeth yr arweinwyr ar y gwaith dan sylw. O ganlyniad daethpwyd â llawysgrif Ellis Pugh dan ystyriaeth Rowland Ellis a deuddeg o'r Cyfeillion ar '14 of 2 Mo. 1720) yn Nhŷ Cwrdd Haverford, 'to peruse Ellis Pugh's Books and to see whether it be proper to be printed and to bring an acct thereof to the next meeting.'

Yn y cyfarfod ym Meirion y mis dilynol cofnodwyd: 'The friends appointed to peruse Ellis Pugh's books have accordingly met and perused it and believe it might be of Service if it was printed.' Yn Radnor ymhen mis arall cymer­adwywyd y llawysgrif i'r Cwrdd Chwarter, a dyna hefyd oedd dymuniad Gwynedd.

Yn Haverford, ganol mis Mai erbyn hyn, datganwyd undeb a bodlonrwydd cyffredinol, a rhoddwyd argymhelliad i Oruch­wylwyr y Wasg yn Philadelphia i symud ymlaen gyda'r gwaith o argraffu.

Dyma ran o'r cofnodion o Gyfarfod Misol 'Haverford' ym Mai 1720. 'Whereas ... Ellis Pugh in the time of his long sickness had composed divers Religious points, ... Accomodated to the under­standing of Illiterate mean people which he earnestly desired might be published in the British Tongue and sent to his Native Country as friends might See Service ... Therefore ... earnestly Requesting that the Same may be printed with what Expedition you may think fit. '

Mae'n eglur na fu oedi oblegid gwelir cofnod o gyfarfod ym Merion ddechrau Medi 1721: 'Twenty - of Ellis Pugh's Welsh book was Sent to this meeting from ye Quarterly Meeting To be distributed as frds Sees a Service.'

***

DYMA amgylchiad tra phwysig a diddorol, sef ymddangosiad y gyfrol Gymraeg gyntaf a argraff­wŷd yn America, digwyddiad sy'n ennyn chwilfrydedd ac yn codi nifer o gwestiynau. Sawl cyfrol a ddaeth allan o'r wasg tybed? Un copi yn unig fe ymddengys a erys yno, ac y mae hwnnw yn Llyfr­gell y Cyfeillion yn Philadelphia. Beth ddaeth o'r bwriad i anfon cyfran 'at ei Gyd-genedl y Cymry yng ngwlad ei enedigaeth'? Hyd y gwyddys un copi sydd ar gael ym Mhrydain; mae hwnnw yn un o drysorau'r Llyfrgell Genedlaethol yn Aberystwyth.

Teg yw casglu felly mai annigon­ôl iawn o ran rhif oedd yr argraff­iad cyntaf, er i ugain cyfrol gyrraedd un cyfarfod misol. 0 gofio prinder eithriadol yr ar­grafiad yma, mae syndod dyn yn cynyddu pan sylweddolir fod cannoedd lawer o Gymry deallus yn y drefedigaeth yn cofio Ellis Pugh a'i ddylanwad daionus - ac yn ddigon cyffyrddus eu byd i allu prynu llyfr. Mae'n wybyddus fod nifer dda o'r Crynwyr yn dal swyddi cyfrifol yn y drefedig­aeth.

Ar ôl paratoadau mor drylwyr y mae'n rhesymol credu na fuasai'r Cyfeillion yn dewis cyhoeddwr egwan ac anniben. O gael golwg ar y gyfrol yn Aberystwyth gwelir fod y fformat a'r argraffwaith yn rhagorol, ac un deilwng o'r argraffydd, Andrew Bradford, tad­-yng-nghyfraith y gwladweinydd enwog, Benjamin Franklin. Nid y rhai gwreiddiol yw'r cloriau presennol, ond fe welir darn o'r gwreiddiol yng nghesail ôl y llyfr.

A bwrw i hanner cant yn unig o gopïau gyrraedd Cymru, a dam­caniaethol yw hyn wrth gwrs, i ble'r aethant? Sut y bu iddynt ddiflannu mor llwyr? A welwyd y gyfrol ar aelwydydd y Crynwyr ar ôl yn Nolgellau a'r Bala?

Mae'n wybyddus fod copi ym meddiant gŵr o Ddowlais ddechrau'r ganrif hon, ond nid cyfrol 'frodorol' mohoni. Dywedai'r perchennog iddo'i derbyn fel anrheg gan ei ewythr o New Bangor, Pennsylfania, yn 1872, ac i hwnnw yn ei dro ei derbyn o law 'an old Pennsyl­vanian of Welsh descent', gan ychwanegu 'that it was not properly bound.' Mae gennyf le i gredu nad hwn yw'r copi a welir yn Aberystwyth, oblegid 'roedd tudalen olaf 'copi Dowlais' yn eisiau.

***

ADNABYDDIR y gyfrol fel Annerch ir Cymru, ond 'roedd y teitl gwreiddiol llawn yn aml-­eiriog, ac yn cydymffurfio yn hyn beth ag arfer yr oes. Dyma eiriad y wynebddalen yn fanwl:

Annerch ir Cymru Iw Galw Oddiwrth y llawer o bethau at yr un peth angenrheidiol er mwyn cadwedigaeth eu heneidiau. Yn Enwedig at y tlodion annysgedig, sef y Crefftwyr, Llafurwyr a Bugeiliaid, y rhai o isel radd, o'm cyffelyb fy hunan. Hyn Er eich Cyfarwyddo i adnabod Duw a Christ, (yr hyn yw bywyd tragwyddol) yr hwn sydd yn Dduw unig ddoeth. Dyscu ganddo ef, fel y deloch yn ddoethach nach Athrawon. O waith Ellis Pugh

Argraphedig yn Philadelphia, Ymhensilfania, gan Andrew Bradford, MDCCXXI,

(cyfrol Quarto, tt. iii–x, a 3­3-111.)

Math o apologia neu amddi­ffyniad, neu'n well efallai ddat­ganiad personol o'i ffydd fel Crynwr, yw'r llyfr; gyda nifer helaeth o ddyfyniadau ysgryth­urol yn ddurwe i'w ymresymiad. 'Roedd yn 'olau iawn yn ei Feibl', ac yr oedd ganddo ddawn i ysgrif­ennu Cymraeg cyhyrog. 'Roedd ei syniadau crefyddol drwodd a thro yn uniongred yn yr hanfodion sylfaenol. O'r deg pennod y rhai mwyaf diddorol a dadlennol, i mi beth bynnag, yw'r bumed Ynghylch Bedydd, a'r un ddilynol O Berthynas y Cymun neu Ymdrech yr Enaid; yr wythfed O Berthynas Erlidiadau; a'r olaf Yn dangos y gwir Addoliad.

Yn ôl Henry Blackwell daeth yr ail argraffiad allan o wasg J. Phillips, Llundain yn 1782, a'r trydydd argraffiad o'r un wasg (yn enw W. Phillips) yn 1801. Derbyn­ir hyn gan Y Bywgraffiadur Cymreig, ond mae'r wybodaeth yn anghyflawn. Yn y Llyfrgell Genedlaethol gwelir copi gyda dipyn o nam ar y tudalennau cyntaf, ond mae'r Annerch ei hun, tt. 8-95, yn gyflawn ac mewn cyflwr eithaf da. Dodwyd nodyn tu mewn i'r clawr, (Bristol F.Farley 1770), ac oddi tano 1748? Maint union y gyfrol yw 21cm. x 13.1 cm. Mae yno hefyd gopi arall bron o'r un mesur, 19cm x 12.7 cm. tt. i—viii a 1-100, ac mewn gwell cyflwr o gryn dipyn. Yn sicr nid yw hwn yr un argraff­iad â'r un blaenorol, er bod nodyn cyffelyb (Bristol F. Farley 1770) ar waelod y wynebddalen - ond copi xerox yw honno ac nid yr un wreiddiol. Sylwais yn ogystal fod pennawd 'Hanes' mewn llythyren ddu Gothig yng nghyfrol 1748, tra mae'r geiriau mewn llythyren Rufeinig yn y llall.

Cyfrol fechan yw 'ail' argraffiad James Phillips (1782), tt. i—vi a 7-211, ac er bod y 'trydydd' argraffiad gan William Phillips (1801) o'r un ffurf rhifir y tudalennau yn wahanol, i—xiv a 1-238. Yn yr olaf diwygiwyd y teitl i Annerch y Cymry, a gadawyd allan y cyfeiriad at '... y Tlodion... y rhai o isel radd, o'm cyffelyb fy hunan,' ac fe welir mân gyfnewidiadau eraill yma ac acw. Nid oes gofod i fanylu am y rhain, nac i ddyfynnu o'r Annerch; fodd bynnag anodd yw anwybyddu dau bennill ar Fesur Salm 'gan y prydydd' dienw:

(Fersiwn 1801).

***

CYFIEITHWYD Annerch ir Cymru i'r Saesneg o dan y teitl A Salutation to the Britains ym 1727. Gwnaed y trosiad gan y gŵr dawnus a chefnog, Rowland Ellis. 'Roedd Ellis Pugh ac yntau yn gymdogion a chyfeillion er dyddiau ieuenctid yn ardal y Brithdir, yn gymdeithion ar y for­daith allan yn 1686 ac yn gyd­weithwyr yn ymdrechion y Cryn­wyr ym Merion am flynyddoedd lawer.

Yn ôl y wynebddalen adolyg­wyd a chywirwyd y trosiad gan David Lloyd. Yr union eiriau yw: 'Translated from the British Language by Rowland Ellis, Revis'd and Corrected by David Lloyd.' Brodor o Manafon yn Sir Drefaldwyn oedd David Lloyd; ganwyd ef yno yn 1656. Nid dyma'r Ile i fanylu am ei yrfa nodedig a'i amryfal weithgareddau. Digonol yw nodi iddo ddatblygu yn un o'r gwŷr mwyaf dylan­wadol yn y dalaith, ac fe'i dyrchafwyd yn ei dro yn Llefarydd, Twrnai Cyffredinol a Phrif Farnwr Pennsylfania.

Prin bod angen rhoi'r teitl maith yn gyflawn yn Saesneg. Yn ôl Henry Blackwell eto, argraffwyd y cyfieithiad cyntaf yn Philadelphia gan S. Keimer, dros W. Davies, Rhwymwr Llyfrau, yn Chesnut Street; 1727; 16 mo, tt.xv a 122. Daeth yr argraffiad nesaf o’r tros­iad allan o wasg J. Sole, at the Bible, George Yard, Llundain, ym 1732, tt. xiv a 194. Dilynwyd hwn gan gyfrol gyffelyb, tt. 193, yn 1739, a nodir hwn yn anghywir fel 'Yr Ail Argraffiad'.

Ym 1793 ymddangosodd yr argraffiad nesaf a'r olaf. Erbyn hyn 'roedd gwasg George Yard dan ofal James Phillips, a'r fformat wedi newid eto, tt. xii a 141. Mae'n werth sylwi mai'r un ffyrm oedd yn cyhoeddi'r argraff­iadau cynnar o gyfrol Richard Davies Cloddiau Cochion. Nid oedd hyn ond i'w ddisgwyl oblegid mai dyma brif argraffdy y Crynwyr. Nid oes amheuaeth am hyn oherwydd ganddynt hwy y cyhoeddwyd tri chlasur y ganrif ­'Journal' George Fox, 'Sufferings' Besse, a History of the People called Quakers gan William Sewell.

Am y dyfyniadau o gynnwys Annerch ir Cymru dibynnais ar y copïau o'r gyfrol, a'r Salutations, sydd yma wrth law. Priodol sylwi y cywirwyd 'to the Britains' i 'to the Britons' yn argraffiad 1793, ond ni ddiddymwyd y frawddeg: 'To the poor unlearned Trades­men, Plowmen and Shepherds, those that are of low Degree like my self.'

Am y rhestr o'r argraffiadau a'r cyfle i'w harchwilio cefais gyd­weithrediad parod yn y Llyfrgell Genedlaethol, ac yno y gwelir yr unig gopi ym Mhrydain, mi gredaf, o'r argraffiad Cymraeg cyntaf.

Daeth y gyfrol i'r Llyfrgell trwy law y Prifathro J.H. Davies, ond pwy tybed oedd y perchennog o'i flaen. Erys llythyr yng nghesail y clawr oddi wrth Grynwr o Gastell­nedd, Frederick J. Gibbins, at J.H. Davies a'r dyddiad 17/2. 1902 arno, yn trafod Annerch; ac er wedi gweld 'copi Dowlais' mae'n eglur nad oedd copi o'r argraffiad cyntaf yn ei feddiant ar y pryd. Cyffesai ei anallu i ddarllen Cymraeg, ac yr oedd ganddo gopi o'r Salutations.

Hyd yma methais weld copïau o'r ddau argraffiad cyntaf yn Saesneg - sef Keimer 1727, a Sowle 1732. Deallaf fod copi o'r cyntaf yn Llyfrgell Cymdeithas Hanes Pennsylfania, ac o'r ail yn Llyfrgell y Crynwyr yn Llundain a thrwy garedigrwydd Mr. Edward Milligan cefais lun o'r wyneb­ddalen.

***

MAE'N SIŴR i Ellis Pugh pan oedd ar ei ymweliad â Chymru yn 1706-8, dreulio peth amser yng nghwmni Richard Davies. Ym­ddengys i mi mai priodol iawn fyddai cloi'r ysgrif yma trwy ddyfynnu teyrnged arall i Ellis Pugh. Mewn adolwg mae'r deyrnged yr un mor gyfaddas am y ddau o wroniaid y ffydd. Dyma ddywedwyd yn 'Hanes yr Awdwr'

'Yr oedd ei ymddygiad yn ei deulu, yn ei gymmydogaeth, ac yn yr Eglwys, yn addfwyn. yn hawddgar, ac yn heddychol; a’i weinidogaeth yn fywiol, yn llesol, ac er adeiladaeth; ag ymarweddiad diniwed, yn ddiwair, ynghyd ag ofn Duw, yn barchedig ymhlith ei gyfeillion, ac o air da ymysg pob math ar bobl yn gyffredinol.'

FFYNONELLAU
Mae'n briodol cydnabod yn ddiolch­gar a diffuant iawn fy nyled i nifer o ffynonellau gwerthfawr. Rhoddir enwau'r awduron a'u gweithiau, ac nid oes angen nodi'r tudalennau unigol.

Blackwell, H. i) Dictionary of Welsh Biography, N.L.W. MS 9270A. ii) A Bibliography of Welsh Americana, 1942.

Browning, C.H. Welsh Settlement in Pennsylvania, 1912.

Gibbins, F.J. The Cambrian (Utica), 1903.

Glenn, T.A. Welsh Founders of Pennsylvania, 1911.

Jones, Richard Crynwyr Bore Cymru, 1931.

Morris, R. Prys Cartref Meirionydd, 1890.

Rees, T. Mardy The Quakers in Wales, 1925.

Williams, David, Cymru ac America, 1945.

William, Wm. Cymru ac Unol Daleithiau America, Rhifyn Arbennig. Cylchgrawn Llyfrgell Genedlaethol
      Cymru, Cyf. 11, 1942, Rhif 3 a 4.