DIRGELWCH ARISTOTLE gan Gerald Morgan

'ROEDD erthygl ddienw hynod ddiddorol yn Y Casglwr (2) am yr argraffiadau Cymraeg o Gwaith Aristotle, y llyfr am ryw a fu mor boblogaidd yn y ganrif ddiwethaf, a hoffwn ychwanegu ychydig sylwadau sy'n ein harwain i gornel arall od yn hanes cyhoeddi Cymraeg.

Nid gwaith yr athronydd Groeg­aidd ydyw'r gyfrol Gwaith Aristotle; ymddangosodd yn gyntaf yn Lladin dan y teitl Secrets Secretorum. Anodd iawn yw darganfod dim byd rhagor na hynny am y fersiwn wreiddiol; cyfieithwyd y gwaith i'r Saesneg, ac oddi yno mae'n debyg i'r Gymraeg - gan bwy, nis gwn.

Camgymeriad yw'r dyddiad 1816 a roddir yng Nghatalog Caer­dydd 1898 ar argraffiad o Gonwy, gan na ddechreuodd Robert Jones argraffu yng Nghonwy cyn 1826, dyddiad cywir y gyfrol. Mab oedd Robert Jones i Ismael Davies, Bryn Pyll, Trefriw, ac yn ŵyr felly i Dafydd Jones, Trefriw, a brawd ieuengach i John Jones, Llanrwst.

Nid cyhoeddi "Aristotle" oedd unig hynodrwydd Robert Jones. Y wasg a ddefnyddiai, yn ôl J.T. Evans, oedd hen wasg Dafydd Jones, Trefriw, a fu gyntaf ym meddiant Lewis Morris. Symudodd Robert i Bwllheli ym 1828, ac i Fangor ym 1834; yno y cyhoeddodd y cyfnodolyn Figaro, a bu'n rhaid talu £250 o niweidiau am enllib ym 1836, wedi iddo sefyll ei brawf yn y Bala.

Diddyddiad yw argraffiad John Jones Llanrwst o Gwaith Aristotle, ond tybiaf iddo ei argraffu ym 1842 neu 1843 oherwydd ceir hysbysebion am y cyhoeddiad mewn llyfrau dyddiedig o'r cyfnod. Adroddir stori ddigrif am y llyfr gan Isaac Foulkes (Argraff­wyr, Cyhoeddwyr a Llyfrwerthwyr Cymru: T.H.S.C. 1898-9, t. 96) wrth drafod Capelulo, y llyfrwerthwr teithiol:

***

CYMERIAD hynod ac enwog oedd Thomas Williams, Capelulo, er na welodd y Bywgraffiadur yn dda i roi lle iddo hyd yn hyn. Yn ôl ei gofiannydd Elfyn (Capelulo, Caernarfon, 1907), ganed Capelulo rhwng 1778 a 1782, a bu farw ym 1855. Bu'n filwr yn gwasanaethu yn Ne Affrica, St. Helena, De America a'r India, ac wedi ei ddychweliad i Lanrwst bu'n borthmon ac yn llymeitiwr selog, cyn "seinio titotal" rywdro cyn 1840. Bu'n gwerthu almanaciau a baledi dros John Jones, Llanrwst; dywedir fod John Jones wedi cynnig sypyn o lyfrau a baledi iddo fel elusen, heb ddisgwyl y gwelai'r arian yn ôl byth, ond bu Capelulo yn gyd­wybodol iawn wrth gychwyn ei fywyd newydd.

Pan gychwynnodd Capelulo ar ei waith yn llyfrwerthwr, ni fedrai ddarllen, ond darfu iddo gyfarfod â Chaledfryn yn Llangernyw, a hwnnw'n ei yrru at John Jones i roi benthyg arian, ar draul Caledfryn, i brynu dillad parchus a Beibl mawr i'r hen ŵr. Cysgai hwnnw â'r Beibl dan ei glustog bob nos, a daeth i'w ddarllen.

Cadwai John Jones restr fanwl o'r holl lyfrau a roddai i'w werthwyr teithiol, ac y mae'n sicr mai Capelulo oedd un o'r mwyaf effeithiol ohonynt - ac yr oedd copïau o Gwaith Aristotle yn amlwg yn y rhestrau hyn. Pan aeth pethau'n gyfyng ar yr hen frawd, cyhoeddodd John Jones Hanes Bywyd Thomas Williams ym 1854, a'r elw'n mynd i Capelulo; mae'n gyfrol hynod brin heddiw. Bu farw Capelulo y flwyddyn wedyn.