CYFROLAU'R ATHRO gan Mary Beinon Davies
ROEDDWN yn edrych ar rai hen lyfrau fy mrawd (y diweddar Athro J.R. Jones, Abertawe) yn Siop y Pethe y dydd o'r blaen ac fe ddaeth dau ohonynt (Pregethau John Williams, Brynsiencyn a Seryddiaeth a Seryddwyr) a dau ddigwyddiad yn fyw i'm cof.
Y llyfr pregethau a ddaeth â'r cyntaf yn ôl imi. Cofio am John yn dechrau ar ei daith brawf fel pregethwr pan oedd yn y chweched dosbarth yn Ysgol Sir Pwllheli. 'Roedd yn pregethu yn Salem, Pwllheli, a chan mai noson waith oedd hi, yn y festri yr oedd yr oedfa. Yn y cyfnod hwnnw, 'roedd cryn dipyn o atal dweud arno, yn enwedig gyda geiriau yn dechrau â chytseiniaid caled fel c a d. Dyna'n rhannol y rheswm pam ei fod yn defnyddio cymaint ar ei gorff - a'i ddwylo yn enwedig - wrth draethu. Trwy wneud ymdrech gorfforol felly y llwyddodd i ddod dros yr anhawster.
Beth bynnag am hynny, y noson yma yn Salem fe dorrodd i lawr a methu mynd ymlaen â’r bregeth. 'Roedd rhai o'i athrawon yn yr Ysgol yno'n gwrando a hynny wedi'i wneud yn nerfus. 'Roedd ar dorri ei galon pan ddaeth adref, a bron rhoi'r gorau i’r syniad o bregethu.
Gwnai mam ei gorau i'w gysuro a chynnal ei freichiau pan alwodd un o flaenoriaid Salem, y diweddar Robert Parry yr ocsiwnïar. Rhoes amlen i John a'r tâl a gâi pregethwyr ar brawf ynddi, a dweud, "Oddi wrth Eglwys Salem mae honna.' Ac yna estynnodd chweugain iddo - 'oddi wrth Robert Parry mae honna', meddai. Nid wyf yn cofio rhagor am y digwyddiad, ond fe ymwrolodd John a mynd yn ei flaen i bregethu a chredaf fod a wnelo rhodd Robert Parry a'r meddwl caredig oedd y tu ôl iddi lawer â hynny.
DIGWYDDIAD doniol a ddaeth i'm cof wrth weld Seryddiaeth a Seryddwyr. Cofio am y telisgop a wnaeth John - gyrru i ffwrdd am y lenses ond gwneud y tiwb ei hunan a'r tair troed trybedd i'w ddal. Gallem weld y 'craters' ar y lleuad yn blaen drwyddo. 'Roeddem yn byw yn Aberystwyth erbyn hyn a mam wedi mynd am wythnos o wyliau i Bwllheli. Bore Sul oedd hi a John i fod i bregethu yn Albert Place, capel y Bedyddwyr Saesneg.
Pan oeddem yn bwyta brecwast gofynnais iddo a oedd yn gwybod pryd 'roedd yr oedfa'n dechrau. 'Doedd o ddim yn siŵr p'run ai deg ynte unarddeg oedd hi i fod! Yn Trefor Road 'roedden ni'n byw - ar ben allt serth iawn, a gallem weld y dref bron i gyd o'r ystafell molchi. Clywn John yn galw arnaf ac es ato.
Dyna lle'r oedd wedi gosod y telisgop i bwyso ar y ffenestr agored ac yn edrych trwyddo. 'Tyd yma', meddai, ac edrychais innau a beth welwn ond bwrdd hysbysebu gwasanaethau Albert Place - a geid bryd hynny ar dalcen siop barbwr sydd wrth ochr y capel. Ac yno'n berffaith glir yr oedd amser oedfa'r bore - unarddeg!