COFIO LLENOR A ANGHOFIWYD gyda Derec Llwyd Morgan

Y MAE yn perthyn i bob mudiad a fu erioed wŷr a gwragedd a wnaeth gyfraniadau nodedig yn eu dydd, ond a anghofiwyd maes o law. Un o lenorion anghofiedig y Methodistiaid cynnar ydyw'r John Owen hwn y dywedaf air neu ddau amdano yn yr ysgrif hon, bardd ac awdur rhyddiaith y mae o leiaf ddau o'i gyhoeddiadau yn wirioneddol werthfawr.

Groser ydoedd wrth ei waith bob dydd, ond groser tra diwylliedig. Fe'i ganed ym Machynlleth ym 1757, tref a oedd eisoes wedi ennill enw drwg iddi hi'i hun yn herwydd ei thriniaeth egr o'r efengylwyr diwygiadol a geisiodd oleuo'i thrigolion. Cael a chael 'wnaeth Howel Harris i ddianc oddi yno ym mis Chwefror 1739, wedi i un o 'ragflaenoriaid y Mob, chwedl yntau, 'ollwng ergyd o Bistol' tuag ato.

Y mae John Thomas Rhaeadr Gwy hefyd yn adrodd straeon digon annifyr am y lle yn Rhad Ras. Yn y cyfnod hwn yr oedd Machynlleth a'r Bala - ac aralleirio Williams Parry - fel petaent mewn dieflig gystadleuaeth am ryw wobr, - "Y Dref Fwyaf Wrth-Fethodistaidd yng Nghymru" efallai. Gwnaeth John Owen ryw iawn am hynny, megis y gwnaeth John arall, John Evans, iawn am wrthwynebiad borer Bala.

***

YN L y Bywgraffiadur, ymunodd Owen yn gynnar 'r Methodistiaid. Ond yr oedd yn 31 oed pan gyhoeddodd ei lyfryn cyntaf, Tredigaeth Atheos, cerdd weddol hir a ddisgrifir gan R.T. Jenkins fel 'math o epig, efelychiad o "Bantycelyn", 'gyda nodiadau a fenthyciwyd gan mwyaf o Golwg ar y Byd David Lewis, 1725.

Prin ei bod hi'n deg galw'r gerdd yn efelychiad o Golwg ar Deyrnas Crist Williams Pantycelyn; er, lluniwyd v ddwy megis yn wrthebau rai o'r syniadau gwyddonol newydd am Drefn Natur a ddaethai'n boblogaidd ymysg deallusion Lloegr yn ystod y ddeunawfed ganrif.

Gwrthwynebu a negyddu dylanwad yr Epicureaid yw prif fwriad cerdd John Owen, negyddu'r gred atheistaidd mai 'trwy ddamwain' y 'lluniwyd yr universe i gyd.' Yn y gerdd, y pendefig drygionus Atheos sy'n dal y syniad hwn; ac fe'i cywirir gan y 'Difeinydd duwiol' Theologus, nad yw'n cael mymryn o drafferth i argyhoeddi'r llall o'i gamsyniad.

Yn nechrau Rhan II mae Atheos yn cyfaddef ei fod yn 'gorfod credu 'nawr', ac o gredu, mae arno ofn, ofn uffern a'i chosb. Dysg euogrwydd; a chyda'i galon wedi'i dryllio y mae Atheos yn myfyrio ar ei stad mewn darn o farddoniaeth vers libre. (Ai dyma'r darn vers libre cyntaf yn y Gymraeg?)

Yn Rhan III fe'i trwythir yn Nhrefn Duw, ac o dderbyn yr lesu'n waredwr iddo, mae'r cyn-Epicuread yn cloi'r gerdd drwy weiddi 'Hosanna, Haleluia Hosanna byth, Amen.'

Rhan o bwysigrwydd Troedigaeth Atheos yw ei bod yn dangos yn glir nad Pantycelyn oedd yr unig Fethodist o Gymro i boeni am ddylanwad y ddysg seciwlaraidd newydd ar ei gydwladwyr. Braidd yn ddi-gig a digic yw dadleuon Atheos wyneb yn wyneb ag argyhoeddiadau Theologus, mae'n wir, ond ni all neb hawlio fod Golwg ar Deyrnas Crist chwaith yn taro deuddeg bob amser. Eto, o ran eu gwerth, mae byd da o wahaniaeth rhyngddynt.

***

Y GYFROL nesaf a gyhoeddodd John Owen oedd Difrifol Ystyriaeth, 1789, gwaith nas gwelais i. Yn l William Rowlands, pregeth neu draethawd yw corff y llyfr ar ba beth yw dyn a pha beth yw Duw, pregeth gydag atodiad o rai emynau a 'Hunan-ymholiad oddiwrth Weddi yr Arglwydd'.

Yna, chwe mlynedd yn ddiweddarach, cynhyrchodd y groser graenus Tair Cerdd Newydd. Ni welais i'r gyfrol hon chwaith: os gŵyr unrhyw un o ddarllenwyr Y Casglwr am gopi ohoni, ac am gopi o Difrifol Ystyriaeth, byddwn yn falch iawn o glywed oddi wrtho. Y mae dwy o'r cerddi ar bynciau yr oedd gan Fethodistiaid llengar eraill ddiddordeb ynddynt; am y drydedd cerdd, Anglicanaidd-Biwritanaidd ydyw, "Myfyrdod Duwiol rhwng Dyn ac ef ei hun cyn dydd ar ei wely'," testun sy'n adlais o'r math o destunau a geir yn Yr Ymarfer o Dduwioldeb a llyfrau defosiynol tebyg.

Mae a wnelo'r olaf o'r tair charu a phriodi, pwnc a gafodd sylw nid yn unig gan Bantycelyn yn Cyfarwyddwr Priodas ac mewn cerddi rhydd, ond gan nifer eraill, gan gynnwys golygyddion trymddysg Trysorfa Ysprydol, Thomas Jones a Thomas Charles.

Efallai fod y gyntaf o'r Tair Cerdd Newydd yn trafod pwnc y dychwelodd Owen ato yn 1797: cerdd o galondid i'r Militia ydyw, y Militia, deg gen i, a wni ei rhan yn gwarchod yr Ynys Wen yn ystod y rhyfel yn erbyn Napoleon. Yn 1797, cyhoeddodd Effeithiau'r Cyfnewidiad yn Ffrainc, pamffledyn gwlatgarol (a Phrydain - wrth gwrs - oedd ei 'wlad') yn gofyn 'Pwy a ŵyr nad yw'r dydd yn agos y bydd i Weinidogion y Gair Redeg drwy holl wledydd Pabyddiaeth ar Efengyl dragwyddol ganddynt.'

Gair yn ei Amser Thomas Jones o Ddinbych yw datganiad gwleidyddol enwocaf y Methodistiaid yn ystod y rhyfel hwn; ond, wele, cyhoeddodd Owen ei waith flwyddyn ynghynt nag ef.

***

Y MAE cyfrol arall o'i eiddo yn rhagflaenu gwaith pwysig arall a ystyrir yn garreg filltir yn hanes yr ymwybod Methodistaidd. Yr wyf yn cyfeirio at glasur Robert Jones Rhos-Ian, Drych yr Amseroedd. Dyma'r gwaith, ebe sawl hanesydd, a barodd i'r ganrif ddiwethaf edrych ar y Mudiad Methodistaidd fel mudiad arwrol, mudiad a roes oleuni i Gymru wedi tywyllwch dudew y cyfnod cynt.

Yr oedd darllenwyr cerdd John Owen, Golygiad ar Adfywiad Crefydd yn yr Eglwys Sefydledig yng Nghymru o ddeutu y flwyddyn 1737, a gyhoeddwyd yn 1818, eisoes yn gyfarwydd 'r olwg arwrol hon: oherwydd yn yr un termau yn union y diffiniodd Owen y Diwygiad, sef fel un a oleuodd y 'Tywyllwch oedd yn llenwi'r tir.'

Gwaith olaf Owen oedd ei drafodaeth ar y Drindod a Pherson Crist a gyhoeddwyd yn 1820.

Fe welir, ynteu, fod iddo le anrhydeddus yn oriel llenorion y Diwygiad Mawr. Er nad yw ansawdd a safon ei ysgrifeniadau i'w cymharu llyfrau syfrdanol loyw Williams Pantycelyn, neu rai Thomas Jones a Rhos-Ian, eto i gyd y mae'n hen bryd inni achub y cam a gafodd dim ond am fod, o ran ei ddawn lenyddol, ychydig yn is na'r cewri hynny. Gadewch i ni ei astudio, a pheidiwn i anwybyddu mwy!