COFIO CEREDIG gan Dyfnallt Morgan
YR OEDD Ceredig Davies yn ymwelydd cyson yn nhŷ dwy fodryb i mi yn Llanddewibrefi, ail gartref i mi lle y treuliais fy holl wyliau o Ddowlais, deirgwaith neu bedair yn y flwyddyn, ers cyn cof gennyf. Yr oedd Ceredig, perthynas o bell, rhwng 60 a 70 oed pan gofiaf ef gyntaf, yn hen ŵr barfog, brith ac aflêr ei wallt, ac yn wargrwm, ond yn amlwg wedi bod yn ŵr talgryf a chydnerth.
Clywem ei draed yn llusgo heibio talcen y tŷ, a dôi i mewn yn ei hen frock-coat wedi Ilwydo, ei drowsusau crychion a'i 'sgidiau trymion, ac eisteddai yn ymyl mashîn wnïo (dressmaker oedd Auntie), gan syllu arnom trwy bâr o lygaid gleision disglair o dan aeliau trymion. Yr oedd ei lais yn fain a chryglyd erbyn hyn, a thra'n siarad, rhwbiai gledrau a bysedd meinion ei ddwy law yn ddi-baid ar ei benliniau.
Hen lanc ydoedd, yn byw ar ei ben ei hun yn un o res o dai ar waelod y pentref, a dôi gwraig i mewn yn rheolaidd i lanhau a chymhennu iddo. Yn y tŷ hwnnw, yn dwyn yr enw 'Myfyrgell', yn llafurus dros gyfnod o flynyddoedd yn y dauddegau cynnar, fe brintiodd hunangofiant ar argraffwasg fach a ddisgrifiwyd ganddo ef ei hun yn y Rhagair fel 'dim ond tegan'
Teitl y llyfr yw Life, Travels and Reminiscences of Jonathan Ceredig Davies. Y mae copi o'r gwaith o'm blaen yn awr, cyfrol bedwar-plyg o 438 o dudalennau wedi eu rhwymo'n hardd (yn Aberystwyth). Dywedir ar y tudalen-deitl: 'Only 58 copies of this book have been issued.'
***
MAE ganddo stori ddifyr a rhamantus i'w hadrodd, a hynny mewn Saesneg urddasol. Aeth i Batagonia'n un ar bymtheg oed a threulio un mlynedd ar bymtheg yno, gan helpu Edwyn Cynrig Roberts i sefydlu cangen o'r 'Hen Eglwys Brydeinig' yn y Wladfa. Rhwng 1898 a 1902 bu yn Awstralia Orllewinol a thalodd ail ymweliad yno yn 1907. Yn 1924 teithiodd yn Ffrainc ac Ysbaen.
Mae'r hunangofiant yn cynnwys adroddiadau pur fanwl am ei holl deithiau a'i brofiadau ac am y Ilu o bobl ddiddorol a gyfarfu o dro i dro. Fe ymwelodd Michael D.Jones â'r Wladfa yn 1882 ac y mae Ceredig yn ei ganmol am ei waith dros gymod rhwng Ymneilltuwyr ac Eglwyswyr.
Ymddiddorodd Ceredig Davies yn fawr ar hyd ei oes ym mhob agwedd ar grefydd a diwylliant. Yr oedd yn hynafiaethydd ac yn achydd diwyd. Yn 1911 cyhoeddodd lyfr trwchus, Folk-lore of West and Mid Wales. Yr oedd eisoes wedi cyhoeddi Ilyfrynnau ar Batagonia ac Awstralia Orllewinol, yn Gymraeg ac yn Saesneg. Yn 1927, blwyddyn cyhoeddi'r Reminiscences ('for private circulation only), argraffodd a chyhoeddodd, eto'n breifat, lyfryn yn dwyn y teitl Welsh and Oriental Languages ('only 22 copies of this book have been issued' - dyna a ddywedir ar fy nghopi i).
***
TREULIODD ail hanner ei oes felly'n ysgrifennu ac yn darlithio ac yn ymweld, a hynny ar droed am filltiroedd lawer yn aml, yn gyson â Ilyfrgelloedd nifer o blasau'r wlad, ac ymhyfrydai braidd yn ei adnabyddiaeth o'r 'boneddigions', fel y dengys ei hunangofiant. Yr oedd yn Gymro pybyr a chredai y dylai pawb sy'n byw yng Nghymru fedru siarad Cymraeg. Erbyn hyn 'rwy'n meddwl amdano fel rhyw fath o leuan Brydydd Hir.
Y mae llawer nas ceir yn yr hunangofiant y carwn wybod, e.e. pa fath a pha faint o addysg ffurfiol a gafodd? A sut yn y byd y medrodd ymgynnal trwy ei oes yn ei ffordd arbennig o fyw? Printiodd ei hanes ei hun, fel y dywedwyd, am na allai fforddio talu neb arall i wneud y gwaith drosto. Mae rhywbeth arwrol yn ei gylch, i'm tyb i.
Tua'r Nadolig 1931, yng nghwrs erthygl yn y Western Mail ar wasanaeth y Plygain yn Eglwys Llanddewibrefi, cyfeiriwyd at Ceredig Davies fel 'The Loneliest Man in West Wales'. Cythruddodd hyn ef yn fawr iawn, a chofiaf ef yn dod at Auntie i arllwys ei gŵyn, gan rwbio ei benliniau 'in top gear' (fel y syniwn ar y pryd. Dyna un o'm hatgofion olaf i amdano.
'Roeddwn yn Llanddewibrefi dros wyliau'r Nadolig, fel arfer. Tua dechrau lonawr, ymddangosodd Ilythyr protest uwchben ei enw yn y Western Mail. Dyfynnaf ddau baragraff yn unig:
- 'Learned and eminent ladies and gentlemen visit me from all parts. Many of my friends
are distinguished personages, and a few of them princes.
If I do not selfishly spend too much money on myself it is because I want to try to save a little to leave behind me towards charitable purposes. In my younger days I gave much of my time to missionary work without any payment in distant lands.'
Dengys y paragraffau hyn urddas ei arddull a'i bersonoliaeth. Credaf i'r hen ŵr deimlo i'r byw yr ensyniad ei fod yn rhyw fath o ancr, Bu fares ar 29 Mawrth 1932. Ar ei fedd ym mynwent y plwyf y mae carreg ac arysgrif nodedig yn rhoi hanes ei fywyd a'i gyhoeddiadau ac yn terfynu gyda'r pennill hwn :
- 'Rôl crwydro cyfandiroedd
A chroesi llydan foroedd,
I'w Geredigion hoff daeth 'nôl
Ac yn ei chôl gorweddodd.
Ac yr wyf finnau'n falch o fod wedi ei adnabod, pe ond i'r graddau hynny a nodais, ac yn sicr 'rwy'n falch o fod yn berchen ar gasgliad o'i lyfrau.