YR YMGYRCH I GYRRAEDD MIL
GYDA'R TRYDYDD rhifyn hwn dyma gwblhau'r gyfrol flynyddol gyntaf o'r Casglwr. Llawenydd yw medru dweud fod Cymdeithas Bob Owen yn gadarn ar ei thraed erbyn hyn diolch i bwyllgor ffyddlon a swyddogion brwd a gweithgar. Cododd cylchrediad y Casglwr yn gyson ac yn awr mae'n tynnu at y pum can copi.
Dwy neges ar derfyn ein blwyddyn gyntaf.
I ddechrau mae'r tanysgrifiad o ddwybunt ar gyfer pob rhifyn yn 1978 yn ddyledus. Pan ddaw'r rhifyn nesaf allan ym mis Mawrth mawr hyderir y bydd pawb wedi cofio postio - i arbed arian a thrafferth i'r ysgrifennydd prysur. Anfonwch yn awr (cyn i Siôn Corn fynd i waelod eich pwrs) at Y Parch. Dafydd Wyn Wiliam, Troedlem, Pontyberem, Llanelli, Dyfed. A diolch o galon i bawb.
Yn ail, ‘rydym yn gwneud ymdrech fawr i godi’r cylchrediad - ei godi i ‘fil’ yw’r nod ar y funud. Felly, yr ydym yn anfon dau gopi o’r rhifyn yma i bob tanysgrifiwr. A dyma’r apêl - a wnewch chi roi eich copi ychwanegol yn anrheg Nadolig - am ddim - i ffrind, a cheisio ei gael ( trwoch chi yw’r ffordd sicraf) i ddod yn aelod o’r Gymdeithas, talu ei ddwybunt a chael y Casglwr a holl freintiau’r Gymdeithas am y flwyddyn nesaf.
Croesawir pob cyfraniad oddi wrth aelodau a hoffem bwyso arnoch i wneud llawn ddefnydd o’r cyfle i ymholi am gyfrolau neu am awduron neu am unrhyw beth sy’n ymwneud a phethau printiedig (sy’n cynnwys recordiau, mapiau, printiau, lluniau, cardiau etc.)
Un peth arall – Nadolig Llawen. A pheidiwch ag anghofio’r copi ychwanegol yna, os gwelwch yn dda.
Diwedd braidd!
"GADAWYD llyfrgell Cowlyd i dref Llanrwst, a galwyd Glan Menai i wneud rhestr o'r llyfrau. Ond dywedwyd y cymerai flwyddyn i baratoi y rhestr, a bod llawer o'r llyfrau yn ddiwerth. Barnodd y bwrdd lleol yn ddoeth i werthu'r llyfrau diwerth, a phrynu "llyfrau defnyddiol" yn eu lle. Wn i ddim beth yw syniad y cynghorwyr am ysbrydion; ond da fyddai iddynt beidio bod allan yn hwyr y nos rhag iddynt gyfarfod ysbryd Cowlyd."
o'r Goleuad, Awst 25, 1905.
Y nodau'n dal yn fud
Y NEWYDD diweddar o Abertawe yw bod casgliad enfawr Cwmni Snell, sy'n cynnwys tua 1,600 o deitlau a thua miliwn o gopïau o gerddoriaeth Gymreig, yn parhau ar werth.
Ar ôl cyhoeddi'r ysgrif yn dwyn y pennawd 'Trychineb Snell' yn ein rhifyn diwethaf, daeth Mr. H. Ronald Snell i gysylltiad â'r Casglwr i ddweud bod Llywydd Cymdeithas Gymraeg Washington D.C. wedi dangos diddordeb yn y casgliad, a'i fod yn awyddus i sefydlu canolfan ar gyfer masnachu cerddoriaeth Gymreig ar raddfa fyd-eang yn U.D.A. Addawodd Mr. Snell ein hysbysu'n ddi-oed pan fyddai'r fargen honno wedi ei setlo, ond ni ddaeth gair pellach oddi wrtho.
Yn yr ysgrif a gyhoeddwyd yn Rhif 2 o'r Casglwr nodwyd mai £23,000 oedd y swm yr oedd Snell yn ei ofyn am y casgliad cyflawn, ac fe ddywedwyd hynny ar sail gwybodaeth mewn llythyr oddi wrth Mr. Snell dyddiedig 26 Chwefror 1976. Ond mewn llythyr pellach oddi wrtho dyddiedig 11 Medi 1977 dywed mai £400,000 yw gwerth y casgliad cyflawn, ac mai'r pris y mae'n wastad wedi ei ofyn amdano yw £32,000.
Yn ôl Mr. Snell, postiwyd miliwn o barseli o gerddoriaeth Snell o Abertawe dros gyfnod o 55 o flynyddoedd, a bydd yn rhaid wrth le sy'n mesur o leiaf 30' x 12' x 10' cyn y gellir storio'r hyn sy'n weddill ac ar werth gan y Cwmni.
Gyda llaw, mae Mr. Snell yn cadw at yr addewid a wnaeth ym mis Chwefror 1976, sef y rhoddir cil-dwrn o fil o bunnau i'r sawl a lwydda i ddod o hyd i gwsmer iddo.