YR HEN RWYMWYR ~ Gomer Roberts yn dwyn i gof

DIDDOROL, i mi, oedd darllen llith Bedwyr Lewis Jones yn y rhifyn diwethaf am yr hen rwymwyr llyfrau. Mi wyddwn fod llawer o hen bregethwyr Cymru, o bob enwad, yn arddel y grefft (a chrefft yn wir yw hi) o rwymo llyfrau. Yn un o sasiynau cynnar y Methodistiaid - yn 1744 i fod yn fanwl - fe basiwyd fod Richard Tibbott o Lanbrynmair i fynd am dymor at John Richard o Lansamlet i ddysgu'r grefft o rwymo llyfrau, ac mae'n ddiau iddo wneud hynny yn ôl y gorchymyn. Rhyw weithgarwch felly oedd moddion cynhaliaeth yr hen gynghorwyr, ac enillent ychydig geiniogau neu sylltau er mwyn cael deupen y llinyn ynghyd.

Cyfeiria Mr. Jones at "label bychan" ar du fawn clawr blaen hen gyfrol yn ei feddiant yn tystio mai "E. Hughes, Dinas" a'i rhwymodd. Y Mae gennyf gasgliad bychan o'r 'labelau' hyn, a meddyliais y byddai gair amdanynt o ddiddordeb i ddarllenwyr Y Casglwr. Ni wn i pa bryd y dechreuwyd eu harfer, ond fe'u gwelir yn aml, o amrywiol faint a lliw a llun y tu fewn i gloriau llyfrau, cyfrolau 'amryw' a chylchgronau a rwymwyd yn y ganrif ddiwethaf, - a chyn hynny, efallai.

Byddai rhai argraffwyr yn gwerthu ac yn rhwymo llyfrau, ac y Mae gennyf enghreifftiau o'u labelau hwy, megis:

Ar wahân i’r cyntaf, y mae'r rhain i gyd yn masnachu ym Morgannwg. Ond mwy diddorol na'r rhain yw'r rhwymwyr bychain heb fod ganddynt na siop nac argraffty nac unrhyw fasnach arall i gynnal eu crefft. Ceir llawer o'r rhain hefyd ym Morgannwg, ond fe'u ceid gynt ar hyd a lled y wlad i gyd. Dyma'r rhai sydd yn fy nghasgliad:

Y mae'n ddigon tebyg y gŵyr darllenwyr Y Casglwr am ddegau o labelau eraill nas crybwyllwyd gennyf. Byddai'n ddiddorol pe cyhoeddid y rheini hefyd, yn enwedig labelau hen rwymwyr llyfrau yn y siroedd gwledig. Gyda llaw, ni welais yr un label Cymraeg !