Y RECORDIAU CLASUROL sydd gan Ifor Jones
MAE CASGLU rhywbeth anarferol neu wneud rywbeth sy'n wahanol i'ch gwaith beunyddiol yn peri llawer o bleser i ddyn. Ac ers rhyw hanner canrif bûm i'n casglu recordiau gan ganolbwyntio ar rai Cymraeg a rhai clasurol - rhai clasurol yn bennaf.
Yr wyf yn ddyledus i ddau a roddodd i mi'r hoffter at fiwsig - Joni Jones o Felin-y-Coed a ddysgodd y sol-ffa i ni'r plant yng Nghapel Bethel Melin-y-Coed (sydd newydd ddathlu ei ganrif a hanner), ac yn y dauddegau bachgen a ddaeth yn riportar papur newydd yn Llanrwst - y diweddar Gwilym Williams o Gwm-y-Glo a âi â mi i'r Pier Pavilion yn Llandudno pan oedd yn ei fri.
Yr oedd yna gerddorfa dda yn y Pier Pavilion ac arweinyddion da fel John Bridge, David Macullum, Paul Beard a Dr. Malcolm Sargent. A chantorion fel Peter Dawson, Norman Alin, Frank Mullins, Mostyn Thomas, Isobel Bailey, Dora Labett, Mary Jarret, Robert Redford, Parry Jones, Tudor Davies a Ilu o rai eraill.
Clywed gweithiau fel Tone Poem o Finlandra, Pomp and Circumstance Elgar, Consierto Piano Greig. Ac aeth Gwilym Williams a minnau yn Hydref 1927 i Fanceinion i wrando ar Theodore Chaliapin, y baswr o Rwsia. Ac wedi clywed y canwr mawr yma - y gorau a glywais erioed, penderfynais ddechrau casglu recordiau.
Cael gramaffon fach a phrynu fy record gyntaf o Woolworth Llandudno am chwe cheiniog (hen arian). On With The Motley oedd ar y record honno, ac yn fuan wedyn prynais record o Caruso yn canu'r gân ac un gan Evan Williams yn canu 0 Na Byddai’n Haf o Hyd.
***
YNA PRYNAIS ddwy record am ddeuddeg a chwech (pris mawr bryd hynny) - Enrico Caruso (recordiwyd yn 1914) a Titto Ruffo yn canu deuawd o opera Othello, Verdi, a Titto Ruffo yn canu Credo o'r un opera. Mi fydd yn ganmlwyddiant geni Ruffo y flwyddyn nesaf, ond dim ond dau arall - Placido Domingo a Sherrill Milness - a glywais yn canu'r ddeuawd yna. Ond am y Credo, yr oedd yn unawd boblogaidd gan faritoniaid Cymru ar un adeg – ‘rwy'n meddwl am Bob Lloyd o'r Bala a Meirion Morris, y ddau yn gantorion da.
Record gynnar arall yr es ar ei hôl oedd y pedwarawd, Bella Figlia Del Amore o opera Rigoleti Verdi. 'Roedd John McCormack yn denor, gyda Bori (soprano, Jacoby (alto) a Warrnrath (bas). A John McCormack ar ochr arall yr un record gyda Lueresia Bori yn canu deuawd o'r opera La Traviata.
Erbyn hyn mae gennyf dros fil o recordiau o ganu clasurol yn amrywio o Gigli i Gôr Eisteddfod Genedlaethol Llanrwst 1951 o dan arweiniad Syr Adrian Boult.
Yn 1950 daeth y recordiau hir a'r cyflymder wedi newid o 78 tro y munud i 45 a 33½, a'r ansawdd wedi gwella. Ac yna, yn well fyth, y stereo. Ac yn awr medrwn gael cyfanweithiau ar ddwy neu dair record.
Yn 1952 ffurfiodd cyfaill a minnau Gymdeithas Gramaffon. Ymwelem â gwahanol gartrefi unwaith y mis a bûm yn ysgrifennydd i'r Gymdeithas am ei hugain mlynedd cyntaf, ac yn awr 'rwy'n llywydd am oes.