YN Y DECHREUAD ~ Huw Edwards yn edrych yn ôl

Y MAE'N debyg mai Pabydd o Sais o'r enw Roger Thackwell oedd y cyntaf i argraffu ar ddaear Cymru. Dangosodd yr Athro Geraint Gruffydd iddo argraffu rhan gyntaf y Drych Cristionogol yn ogof Rhilwedyn ger Llandudno. Gorffennwyd printio'r gwaith tua diwedd Chwefror 1587 ac y mae'r unig gopi perffaith ohono yn y Llyfrgell Genedlaethol. Ond, wrth gwrs, gwasg fyrhoedlog ac anghyfreithlon oedd hon.

Ni sefydlwyd gwasg barhaol a chyfreithlon yng Nghymru tan y flwyddyn 1718. Gwnaed hynny gan ŵr o'r enw Isaac Carter. Sefydlodd Carter ei wasg yn Adpan (a elwid yn 'Trefhedyn' yn y cyfnod hynny) ym mhlwyf Llandyfriog, Ceredigion, sef y rhan honno o dref Castellnewydd Emlyn sydd ar ochr Ceredigion i afon Teifi.

Ychydig iawn sydd yn hysbys am gefndir nac am fywyd Carter. Dywed y Parch. Benjamin Williams ('Gwynionydd'), awdur 'Enwogion Ceredigion’, fod Carter yn frodor o Sir Gaerfyrddin ac iddo briodi Anne Lewis yn Eglwys Cenarth ar yr 11eg o Ionawr 1721. Credir mai mab iddo oedd William Carter a fu'n aelod o Gymdeithas y Cymmrodorion tua 1755 (yn y rhestr aelodaeth ceir yr enw William Carter, Garlick Hythen, Carpenter, a native of Carmarthenshire).

Symudodd Carter i Gaerfyrddin yn 1725 ac o hyn ymlaen ceir nifer o gofnodion yng nghofrestr Eglwys San Pedr, Caerfyrddin yn cyfeirio at fedydd ac at gladdedigaeth gwahanol aelodau o'r teulu, gan gynnwys claddedigaeth Carter ei hun ar y 4ydd o Fai, 1741.

***

NID YW'N syndod o gwbl i’r wasg gyntaf yng Nghymru gael ei sefydlu yng ngwaelod Dyffryn Teifi gan fod nythaid o feirdd, llenorion a hynafiaethwyr yn byw yn y cylch yn y cyfnod hwn.

Y mae Ifans Jones yn rhestru rhyw 30 o'r gwŷr a gymerai ran flaenllaw yn y berw llenyddol yma - pobl fel Samuel Williams, Ficer Llandyfriog a'i fab, yr ysgol­haig enwog Moses Williams, cyfaill a chynorthwywr i Edward Llwyd yn llyfrgell Amgueddfa Ashmole, Rhydychen, Theophilus Evans (awdur Drych y Prif Oesoedd), Iaco ab Dewi (James Davies) o Lanllawddog, William Lewes o'r Llwynderw ac Alban Thomas, Curad Blaenporth.

Dywed Benjamin Williams (Gwynionydd) mai o dan ddylanwad a symbyliad Alban Thomas y sefydlodd Isaac Carter ei wasg yn Adpar yn y lle cyntaf. Mae'n lled sicr mai ef oedd y cyntaf i gynnig gwaith i Carter - sef y gwaith o argraffu ei faled ddychanol ef ei hun ar dybaco. Pedair blynedd yn ddiweddarach gwelir Carter yn argraffu llyfr sylweddol o waith Alban Thomas, sef ei gyfieithiad ef o'r "Great importance of a religious life" gan Melmoth.

Mab iddo oedd Alban Thomas arall, meddyg yn Llundain a chyfaill agos i Moses Williams. Bu'r Alban Thomas hwn yn llyfrgellydd Amgueddfa Ashmole, Rhydychen ac yn 1713 fe'i gwnaed yn is-ysgrifennydd y Royal Society, Llundain (y Llywydd oedd Syr Isaac Newton). Graddiodd yn M.D. yn Aberdeen ac y mae'n debyg mai ei gysylltiad ag Aberdeen a arweiniodd rai o awdurdodau'r Llywodraeth i gredu ei fod yn cydymdeimlo â’r Jacobitiaid.

Gorfu iddo adael Llundain yn sydyn yn 1722 a bu raid iddo fodloni ar ddilyn ei alwedigaeth fel meddyg gwlad yn ei ardal enedigol am weddill ei oes. Yr oedd Alban Thomas yr ieuaf, fel ei dad o'i flaen, yn ŵr llengar ac yn ymddiddori yng ngwaith ei gyfaill Moses Williams.

***

Y DDAU lyfr cyntaf a argraffwyd gan Carter (ac felly'r llyfrau cyntaf i'w hargraffu'n gyfreithlon ar ddaear Cymru) oedd dwy faled o wyth tudalen yr un. Nid oes and un copi yr un ohonynt ar gael yn awr. Cafwyd hwy yng nghasgliad Castell Shirburn (sef hen lyfrgell Moses Williams a ddaeth i feddiant Iarll Macclesfield) a brynwyd gan Syr John Williams a'i drosglwyddo i’r Llyfrgell Genedlaethol.

***

FEL Y gellid disgwyl yn y cyfnod hwn, llyfrau crefyddol eu naws oedd holl gynnyrch gwasg Trefhedyn. Dyma restr o'r llyfrau a argraffwyd yno:

ERBYN y flwyddyn ganlynol (1725) yr oedd Carter wedi symud i Gaerfyrddin. Yno fe gyhoeddodd y pum llyfr canlynol:

Dadorchuddiwyd cofeb i Isaac Carter ar yr 17eg o Orffennaf, 1912 yn Adpar, gerllaw'r bont dros Afon Teifi. Cafwyd adroddiad o'r achlysur yn y Carmarthen Journal a dywedir yno fod Carter wedi cynhyrchu argraffiad o'r Beibl yn Nhre­hedyn "a copy of which was for some time in the possession of a family at Shirral near Cenarth".  Ond ni chafwyd unrhyw gadarnhad o'r gosodiad yma hyd yn hyn, ac yn wir y mae'n annhebyg y byddai rhywun fel Carter yn medru cyflawnu'r fath game enfawr ac uchelgeisiol.

***

ER I Carter fyw am wyth mlynedd arall nid oes unrhyw dystiolaeth iddo argraffu dim ar ôl 1733. Y mae holl gynnyrch ei wasg yn brin iawn erbyn hyn ac y mae ôl llawer o ddarllen ac o fodio ar yr ychydig gopďau sydd ar gael.

Y mae argraffwaith Carter yn ymddangos yn ddigon amrwd ac amaturaidd yn ôl safonau'n hoes ni, and y mae iddo le anrhydeddus iawn fel un o brif arloeswyr y grefft o argraffu yng Nghymru.

Llyfryddiaeth: