Y LLYTHRENNAU COLL ~ Dyfed Evans ar arwr o'i fro

 

Y MAE enw Dr. John Gwenogfryn Evans yn gyfarwydd i mi er pan oeddwn yn bedair neu bump oed. Nid oherwydd unrhyw ddiddordeb llyfryddol, bid siŵr, ond oherwydd yr â’i fy nain, unwaith yr wythnos, i'w gartref yn Llanbedrog i olchi. Yn ddiweddarach, pan oeddwn yn laslanc rhwng pymtheg a deunaw oed yn dosbarthu papurau newydd o dŷ i dŷ awn yn feunyddiol o fewn ychydig lathenni i'r bedd unig a ddarparasai iddo'i hun a'i briod mewn craig.

Bu'n rhaid imi aros nes darganfod ei fod yn haeddu cryn ddwy golofn a chwarter o le yn y Bywgraffiadur - un o'r ysgrifau hwyaf yn y llyfr - i ddirnad rhyw ychydig am ei bwysigrwydd fel golygydd ac atgynhyrchydd hen destunau Cymraeg, am ei waith yn arolygu llawysgrifau ac am ei gyf­raniad dirfawr i'r Llyfrgell Genedlaethol.

Os buoch chwi'n ceisio cael gafael ar rai o'i atgynhyrchiadau o'r hen lawysgrifau mi wyddoch o'r gorau fod yn rhaid talu cryn swm amdanynt gan mai argraff­iadau cyfyngedig o chwe chant a wnaed ohonynt. Dyna'r nifer a ddynodir ar y copïau o Lyfr Coch Hergest a Llyfr Du Caerfyrddin a fenthyciais gan fy nghyfaill Guto Roberts, Rhoslan. Argraffwyd hwy gan Gwenogfryn ar ei wasg breifat - y naill rhwng 1900 - ­1903 a'r llall rhwng 1904 - 07.

Ynglŷn â'r enw, gyda llaw - Gwenogfryn yw'r sillafiad a geir yn y Bywgraffiadur, ond Gwenogvryn a welir ar bob un o'i lyfrau. Tremvan, efo'r ‘v’ oedd enw ei dŷ yn Llanbedrog hefyd.

***

ADRODDIR hanes ei yrfa yn llawn iawn yn y Bywgraffiadur gan Dr. E.D. Jones. Fel yr awgryma'r enw, yn Llanwennog, Ceredigion y magwyd ef. Bu'n brentis o siopwr am gyfnod cyn mynd i'r Coleg Presbyteraidd yng Nghaerfyrddin a'i ordeinio'n weinidog gyda'r Undodiaid yn 1876. Oherwydd effaith cyfres o ymosodiadau o'r typhoid, pan oedd yn llanc, bregus a fu ei iechyd ar hyd ei oes. Dim ond tair blynedd a hanner a dreuliodd yn y weinidogaeth oherwydd iddo golli ei lais.

Yn nosbarthiadau Syr-John Rhys yn Rhydychen y taniwyd ei ddiddordeb yn y testunau Cymraeg cynnar a pheri iddo fynd ati i dorri tir newydd sbon mewn atgynhyrchu llawysgrifau trwy gyfrwng ei ddyfeisiau teipgraff­yddol. Ni all neb a welodd gopïau ohonynt lai na rhyfeddu at ei gamp.

Yn ei ragair i’w 'Lyfr Du' y mae'n manylu peth ar y dull. Atgynhyrchid y llawysgrifau yn ddiplomatig dudalen wrth dudalen, linell wrth linell, lythyren wrth lythyren, gan ddangos, trwy danlinelliadau a chyfres o ddotiau, pa lythrennau a fu'n anodd i'w darllen neu a oedd yn gwbl annarllenadwy. Defnyddiodd beth wmbredd o deip o wahanol faintioli i ddynodi llawysgrifen fras neu fan a dargopiwyd y prif lythrennau breision yn uniongyrchol o'r gwreiddiol.

0 safbwynt arian ac amser prin y gallai neb ddirnad y gost. Daliai yr atgynhyrchiad o'r 'Llyfr Du' yn gwbl unigryw. Pan aeth Gwenogfryn a'i gynorthwywr George Jones (o Lanbedr Pont Steffan) at y gwaith, nid oedd neb erioed wedi rhoi cynnig ar gyfuno'r fath amrywiaeth o deip, fe ymddengys.

***

YN LLANBEDROG yr oedd Gwenogfryn yn byw pan argraffwyd ei atgynhyrchiad o'r Llyfr Du. Daeth yno oherwydd cyflwr ei iechyd a chododd dŷ newydd braf ar ben yr allt a elwir yn Lon Bribwll. (Clwb yw'r tŷ hwnnw erbyn heddiw.) Ef ei hun a gynlluniodd y to ac yn ogystal â ffermio tipyn yr oedd ganddo wasg law yno i argraffu.

Y mae'r wasg honno wedi ei chyflwyno i'r Llyfrgell Genedlaethol ers bron i ddeng mlynedd a thrigain bellach. Pan ddaeth George Jones yn argraffydd i Aberystwyth o Rydychen bu syniad ar droed am sefydlu yn y Llyfrgell Genedlaethol wasg debyg i Wasg Rhydychen i gyhoeddi hen destunau a throsglwyddodd Gwenogfryn y wasg law i'r Llyfrgell yn 1909 ar yr amod y cawsai ef ei defnyddio pan fyddai angen. Deallaf gan Mr. David Jenkins, y Llyfrgellydd, y gwnaed defnydd o'r wasg yn Aberystwyth hyd 1972.

Pwynt bach o ddiddordeb i mi yw mai "Tremvan, Pwllheli", sydd gan Gwenogfryn ar ddiwedd ei ragair yn yr atgynhyrchiad o'r Llyfr Du yn 1907 ac mai Pwllheli a nodir fel y man cyhoeddi. Erbyn 1911 pan gyhoeddwyd yr atgynhyrchiad o Lyfr Coch Hergest y mae'n arddel pentref Llanbedrog. "Llanbedrog, North Wales" sydd ar hwnnw.

Y DIRGELWCH mwyaf yw beth a ddigwyddodd i'r llythrennau arbennig a gynlluniodd ac a ddefn­yddiodd Gwenogfryn. 'Does dim o'r teip ar gael erbyn hyn mae'n berygl. Bûm yn holi nith i Gwenogfryn yn Llanbedrog, bûm yn holi yn yr argraffdy ym Mhwllheli, ond ni ŵyr neb ddim oll o hanes y teip. A 'does dim ohono yn Aberystwyth chwaith, meddai Mr. David Jenkins. Mae yno blatiau - ond dim teip.

Mae'n wybyddys, fodd bynnag, y cyflawnwyd gwaith argraffu i Gwenogfryn gan wasg leol ym Mhwllheli. Y mae'r ddwy a fodolai yn ei gyfnod ef yn parhau'n ffyniannus hyd heddiw - Gwasg yr Arweinydd, a gedwid gynt gan D. Caradog Evans a Gwasg yr Utgorn, a sefydlwyd gan Richard Jones, ond sydd bellach mewn adeilad arall.

Dywed Mr. Norman Roberts, perchennog presennol Gwasg yr Arweinydd iddo ef ddod yn brentis i’r argraffdy hwnnw yn 1948 pan oedd hen argraffwyr o ddyddiau Caradog Evans yno'n gweithio. Ni chlywodd erioed yr un ohonynt yn crybwyll gair am argraffu i Gwenogfryn - ac yr oeddynt, meddai, yn hoff iawn o drafod yr hen amserau.

Ar ôl i Mr. Roberts ddod yno'n brentis hefyd y prynwyd Monotype i ddisodli'r cysodi â llaw a 'doedd dim byd tebyg i'r llythrennau arbennig a welir yn llyfrau Gwenogfryn ymysg y stwff a luchiwyd bryd hynny.

Mae'n fwy tebygol felly mai argraffdy Richard Jones a wnâi waith i Gwenogfryn. Dywed Mr. W.R. Thomas, perchennog presennol Gwasg yr Utgorn, fod yno lawer iawn o deip "a chwafars ynddo" ymysg y metal sgrap a werthwyd ar ôl marw Richard Jones. Cariwyd oddi yno tua dwy dunnell a hanner o deip a'r perygl yw fod llythrennau Gwenogfryn ymysg y pentwr hwnnw. Os felly, aeth i ebargofiant.

***

BU FARW Gwenogfryn yn 1930 a chladdwyd ef (a'i briod saith mlynedd o'i flaen) mewn bedd a ddarparasai ymhell ymlaen llaw mewn Craig yr ochr arall i Len Bribwll. Cefais beth o hanes darparu'r bedd gan un o'i feibion flynyddoedd yn ôl.

Dewisasai Gwenogfryn ei garreg fedd ei hun, carreg hirgron lefn a bwysai tua dwy dunnell, oddi ar draeth Carreg y Defaid heb fod nepell o'i gartref a thalodd swllt i stad Solomon Andrews amdani. I rwystro gwartheg a defaid rhag mynd at y bedd saethwyd ochrau'r graig i'w gwneud yn Berth ar un ochr, a thorrwyd hollt ddofn ynddi yr ochr arall. Byddai darparu bedd tebyg iddo yn costio miloedd o bunnau heddiw, reit siŵr.

Am flynyddoedd bu'n orchwyl anodd anghyffredin cyrchu at y bedd, oherwydd mieri ac anialwch. Ond diolch i Gyngor Cymuned Llanbedrog y mae'r llwybr bellach yn glir, a'r gamfa sy'n arwain at y lle yn drwsiadus a diogel.