Y BWTHYN AR Y BRYN ~ Perisfab a chân ei daid

 

MAE'N DEBYG i mi gael y fraint o ddal y plentyn hwn, set 'Y Casglwr,' yn fy nwylo o flaen neb ar y bore y cafodd ei eni yng Ngwasg Gwynedd, Mawrth 16eg, 1977. Am fod fy nghartref dros y ffordd i'r wasg yr oeddwn yn cerdded yn ôl ac ymlaen fel yr oedd y dail yn dod trwy'r peiriant. Cefais flan mawr ar ei ddarllen, gan fy mod yn gyfaill personol i Bob Owen. Y bore hwn yr oeddwn fel pe wedi bod yn ei gwmni, gan mai am lyfrau prin y byddai'r sgwrs yn troi bob amser.

Cofiaf ef yn rhoi darlith yn ein hardal a dros swper dywedais wrtho am lyfr o ganeuon Taid a gyhoeddodd yn 1870. Yr Elidir oedd enw'r llyfr - yr awdur, John Ellis (Elidirfab). Dywedais y buaswn yn falch o gael gafael arno am ei fod wedi mynd yn llyfr prin iawn. Gyda throad y post yr oedd Bob Owen wedi ei anfon imi.

Trysorais ef am flynyddoedd gan nad oedd ym meddiant yr un o'r teulu. Rhoddais ei fenthyg i un oedd yn gweithio yn y chwarel a bu'r cyfaill llengar hwnnw farw ymhen ychydig fisoedd ac er chwilio pob cornel yn ei gartref methwyd a dod o hyd i'r llyfr a drysorwn mor fawr. Er holi a chwilio yr wyf yn methu â dod o hyd iddo eto. Hwyrach ei fod ar silff un sydd yn darllen y geiriau hyn.

***

CLYWAIS fy Nain yn dweud mai yn y nos y byddai'r awen yn dod heibio i Elidirfab a byddai'n gofalu am bapur a phensal ar y bwrdd wrth ochr y gwely ar gyfer ymweliadau awenyddol felly, er i hynny weithiau beri i'r hen wraig ei ddwrdio yn arw am ei deffro o'i thrymgwsg.

Dynes hwyliog iawn oedd Nain a adweinid trwy'r cylch fel Anti Jane. Daeth Mr. Griffith, siopwr y pentref, ati un tro a dweud fod golwg wael iawn ar Elidirfab ac y câi ŵr arall yn fuan. "Wel," meddai hithau, "pe priodwn ugain gwaith mi gymeraf ofal na phriodaf byth siopwr na bardd".

Os oedd fy nain yn ddynes hwyliog, un pruddglwyfus iawn oedd Elidirfab, fel ei gyfaill Glan Padarn; yn y cywair lleddf y canai fynychaf, bob amser bron â'i wyneb tua'r bedd cyn diwedd y gân. Yr oedd megis yn byw beunydd ar Ian y bedd. Dyma ychydig o'r tristwch oedd yn nodweddu'r bardd mewn englyn o'i waith:

***

DYMA fi wedi ymdroi gormod heb ddod at brif reswm ysgrifennu yr ychydig eiriau hyn. Dyma un cwestiwn a ofynnir i mi - ai yr un person oedd John Ellis a anwyd yn 'Parc', Dinorwig yn 1840 a'r John Ellis Jones, awdur y ganig swynol 'Y Bwthyn ar y Bryn'? Ar ôl bod yn chwarel Dinorwig am gyfnod o amser, fe'i dyrchafwyd yn stiward. Yr oedd John Ellis arall yn stiward yno ar y pryd ac er mwyn gwahaniaethu rhyngddynt fe ychwanegwyd 'Jones' at enw Elidirfab.

Nid yw'r geiriau sydd yn y llyfr 'Yr Elidir' yr un fath â'r geiriau sydd heddiw yn y gân 'Bwthyn ar y Bryn' y gwnaeth Mr. Ellis D. Williams, R.A.M., Bangor, gerddoriaeth mor swynol arni. Gwerthodd Elidirfab y geiriau i Mr. E.D. Williams am ddeuswllt ac y mae deuddeg argraffiad wedi dod o'r wasg meddir.

Gweithio yn Lloegr 'roedd Taid pan gyfansoddodd y geiriau, a'u hanfon i'w fam mewn llythyr. Cyfansoddodd yr holl gerddi sydd yn y llyfr a'u hanfon mewn llythyrau i'w fam. Dim ond am dair blynedd y bu'n barddoni cyn cyhoeddi'r gyfrol. Cywirodd lawer o'r caneuon pan ddaeth yn feistr ar y gelfyddyd o farddoni a dyna mae'n debyg a ddigwyddodd i'r Bwthyn ar y Bryn'.

DWYN MAE COF....

YN YR Elidir (Abergele, R. Jones, 1870) ceir hyn o dan deitl Y Bwthyn Ar y Bryn: Alaw, The Cottage by the sea. Y Gerddoriaeth yn Caneuon y Bobl, ac yn rhif 1511 o'r Musical Bouquet.

Yn wir mae llu o'r alawon wedi eu codi o'r Musical Bouquet a hynny'n cael ei gydnabod.

Un a gydoesai I J. Ellis Jones (Elidirfab) ac un o'i gymdogion oedd Dewi Peris Jones, Clwt-y-bont. Cyhoeddodd ddetholiad o'i ganeuon dan y teitl Peris yn 1873 (argraffwyd gan P.M. Evans, Llyfr-­rwymydd, Llanberis) ac mae gan Elidirfab englyn ar yr wyneb­ddalen. Yn y gyfrol yma nid oes ond un mesur o Loegr, Queen Bess, ond dim awgrym o ble daeth y mesur i Lanberis. Mae'r Olwyn yn Troi yw un o ganeuon poblog­aidd Dewi Peris.

Un arall. o'r un fro a'r un cyfnod oedd Glan Padarn - un o brydyddion poblogaidd y ganrif o'r blaen y bu canu mawr ar ei gerddi, ond y tueddwyd i'w lwyr anghofio; yn wir mae'n anodd iawn cael manylion ei fywyd. Gallasai hynny fod oherwydd iddo briodi merch y Black House ym Mhenisarwaun a mynd wedyn i gadw tafarn ar lan afon Menai ym Môn.

Mae Glan Padarn yn canu ar lu mawr o alawon o Loegr - yn wir ar The Harp that once in Tara's hall y cyfansoddodd Hen Ffon fy Nain, cyn i Eos Maelor gyfansoddi'r alaw a'i gwnaeth ynghyd a'r Mochyn Du yn un o ganeuon mwyaf canadwy Cymru am gyfnod maith. Nid yw Glan Padarn yn awgrymu ble cafodd afael ar yr alawon.

Tybed mai'r Musical Bouquet a gydnabyddir gan Elidirfab oedd y ffynhonnell i’r beirdd?

Cyhoeddwyd y Musical Bouquet yn rhannau rhwng 1846 a 1890 ac fe gynnwys y cyfan oddeutu naw mil o alawon. Ond mae'r copïau yn bur brin ac ni cheir y cyfan yn unman nes na'r Llyfrgell Brydeinig.

Dywed Elidirfab na bu'n cyf­ansoddi am hwy na thair blynedd cyn cyhoeddi ei gyfrol - ond ymhen tair blynedd arall medrodd gyfansoddi englyn digon taclus ar gyfer cyfrol Dewi Peris. Ond ai ef ynteu pwy a lwyr ail-wampiodd eiriau Y Bwthyn ar y Bryn ar gyfer y gerddoriaeth a'i gwnaeth mor boblogaidd?

Dyma fel yr ymddengys y geiriau yn y gwreiddiol (Dwyn mae cof o flaen fy llygad" yw'r dechreuad yn awr):