UN DDAFAD DDU - UN BUNT
Gwyneth Lewis a'r nodau Cymreig
CEDWIR yn y Llyfrgell Genedlaethol gasgliad helaeth o hen nodau neu bapurau banc sy'n gyfraniad i astudiaeth o hanes economaidd a chymdeithasol Cymru. Cynrychiolir ynddo y llu o fanciau bychain preifat a ymddangosodd yn ystod hanner olaf y ddeunawfed ganrif a dechrau'r bedwaredd ganrif ar bymtheg.
Ychydig o wybodaeth sydd ar gael am hanes banciau cynnar Cymru. Ar un adeg gweithredai'r porthmyn fel bancwyr gan drosglwyddo symiau o arian dros fasnachwyr ac eraill rhwng Cymru a Lloegr. Nid oedd gan Dwm o'r Nant air da i’r porthmyn 'Llwyr wfft i borthmyn am dwyllo'r byd. 0 na byddent hwy i gyd yn grogedig.' meddai ef. Ond er waethaf ei ensyniadau 'roedd y porthmyn yn ddosbarth o bwys a safle yn y ddeunawfed ganrif. Rhaid oedd iddynt wrth drwydded i ddilyn eu galwedigaeth ac yn aml iddynt hwy yr ymddiriedid arian rhenti gan stiwardiaid yng Nghymru i'w talu i’r meistri tir yn Llundain. Cadwyd cysylltiad â'r porthmyn yn enwau rhai o'r banciau cynnar megis y Ddafad Ddu a'r Eidion Du.
Erbyn diwedd y ddeunawfed ganrif gyda chynnydd diwydiant daeth galw am gyfundrefn bancio wahanol i eiddo'r porthmyn. Hyn yn ogystal â methiant Banc Lloegr oherwydd y rhyfel â Ffrainc i dalu ar law (cash payments) a roes gychwyn i'r banciau preifat a gynhyrchai eu nodau eu hunain.
***
CREDIR mai yn Aberystwyth y sefydlwyd y banc cyntaf yng Nghymru a hynny yn 1762 pryd y symudwyd y dollfa i'r dref honno o Aberdyfi. Gyda llun o long ar y nodau fe'i gelwid yn Fanc y Llong. Yn 1806 ffurfiwyd partneriaeth a gariodd y banc ymlaen dan yr enw 'Aberystwyth & Cardigan Bank' nes y daeth i ben yn 1815. Copi ffotograff yn unig sydd yn y Llyfrgell o un o nodau'r banc o'r flwyddyn 1806 am un bunt.
Yn yr un dref sefydlwyd hefyd yr 'Aberystwyth & Tregaron Bank' neu Banc y Ddafad Ddu, a nodau gyda llun un ddafad yn dynodi punt, dwy ddafad am ddwy bunt, ac oen yn cynrychioli deg swllt. Mae nifer enghreifftiau o'r nodau hyn ar gael rhwng 1810 ac 1814, y flwyddyn yr aeth y banc yn fethdalwr a thalu difidend o chwe swllt ag wyth geiniog yn y bunt.
Fel Banc yr Eidion Du yr adnabyddid banc a gychwynnwyd yn y 'King's Head' yn Llanymddyfri yn 1799 yn dangos llun o eidion ar ei nodau. Bu iddo hanes hir a llewyrchus; agorwyd canghennau yn Llanbedr Pont Stephan ac yn Llandeilo. Parhaodd ym meddiant yr un teulu hyd 1909 pryd y gwerthwyd yr ewyllys da i Fanc Lloyds. Nodyn diweddar o'r flwyddyn 1898 am bum punt sydd yn y Llyfrgell dan law Gerwyn Jones, gor-ŵyr i'r David Jones a sefydlodd y banc bron i gan mlynedd cyn hynny gyda chymorth deng mil o bunnau o waddol ei wraig Ann, merch Rhys Jones o Gilrhedyn.
***
BU HWLFFORDD yn ganolfan bancio o bwys ac mae nodau ar gael o bump o wahanol fanciau yn y dref. Banc yr 'Union' oedd un ohonynt gydag ysgub o ŷd fel arwyddlun. Agorwyd y banc tua 1807 gan Bateman a'i Gwmni. Ar y nodyn cynharaf a welwyd am 15 Mai 1812 y perchnogion oedd Bateman, Mathias, Lloyd & Co. ond erbyn Hydref 1813 diflannodd enw Bateman ac ymunodd Thomas Bowen â Mathias a Lloyd.
Cysylltir enw Samuel Levi Phillips a banc arall yn Hwlffordd a ddangosai arfbais y dref ar ei nodau. Iddew o'r Almaen oedd Samuel Levi a ddaeth gyda'i frawd Moses i Hwlffordd, ac am iddynt gael nawdd gŵr o'r enw Phillips mabwysiadu'r cyfenw hwnnw. Merch iddo oedd gwraig David Charles yr hynaf o Gaerfyrddin. Daliai S.L. Phillips gyfran hefyd mewn banc a sefydlwyd ym Milffwrd tua 1802 a gadawodd yn ei ewyllys siâr o fil o bunnau yn y banc hwnnw i'w fab Philip.
Yng Nghaerfyrddin sefydlwyd banc gan Waters Jones a'i Gwmni tua 1811. Llun o'r dref welir ar y nodau. Pan ddaeth y banc i ben yn 1832 cymerwyd ei enw 'Carmarthen Bank' gan y masnachwr David Morris oedd yn berchennog banc arall yn yr un dref er 1791. Llwyddodd banc Morris i oresgyn llawer o helbulon ariannol yn ystod y ganrif hyd iddo ymuno a'r National Provincial Bank of England yn 1971. Llun o geiliog sydd ar y nodau gydag enw Morris arnynt.
***
YNG NGOGLEDD Cymru 'roedd perthynas rhwng bancio a'r diwydiant cotwm a gwlân. Daeth Samuel a James Knight, masnachwyr cotwm o Fanceinion i'r Wyddgrug yn 1792 a sefydlu banc yno yn nechrau'r bedwaredd ganrif ar bymtheg. Ceir nodyn pum punt o eiddo'r banc hwn o'r flwyddyn 1828.
Sefydlwyd banc yn Ninbych gan gwmni Clough, Mason a Price, yr enw Clough yn dwyn i gof Syr Richard Clough o'r un dref, marsiandïwr enwog o'r unfed ganrif ar bymtheg. Monogram o enwau'r perchnogion sydd ar nodau o'r blynyddoedd 1809 ac 1810 ac engrafiad amrwd o gastell Dinbych ar nodyn deg swllt am 1815 a argraffwyd gan T. Gee tad yr enwog Thomas Gee.
Cychwyn ffatri wlân yn Llanidloes a wnaeth Mri. Herbert a Britain ac yna troi yn fancwyr ym mlynyddoedd cynnar y ganrif ddiwethaf. Plu Tywysog Cymru sydd ar nodau am 1813. Erbyn 1816 aethant yn fethdalwyr.
Masnachwyr gwlân oedd teulu Croxton y bu ganddynt fanc yng Nghroesoswallt a'i hanes yn ymestyn o 1792 hyd 1894. Arfbais y dref sydd ar nodyn o'r cyfnod 1810 - 1819.
Ar nodau pum gini ac un bunt o fanc Tremadog dangosir llun merch yn dal cryman ac ysgub. Nid oes enw perchennog na dyddiad arnynt.
***
I DROI i dde Cymru - llun o Neuadd y Sir sydd ar nodyn banc Trefynwy a gyhoeddwyd rhwng 1810 ac 1820 tra mai Britannia ar graig yn dal angor a ddangosir ar nodyn o fanc Abertawe yn 1822; ac mae yna nodyn o fanc Merthyr Tudful am 1817 yn daladwy i William Crawshay 'Brenin yr Haearn'.
Y Porthmawr, Crughywel welir ar nodyn o fanc y dref honno o'r flwyddyn 1817 a llun o ffwrneisi sydd ar nodyn un bunt o fanc Dowlais heb ddyddiad arno. Mae banc Aberhonddu yn dangos y bont a'r castell ar un o'i nodau am 1813.
Oes fer fu i'r mwyafrif o'r banciau bychain hyn. Daeth hanes llawer ohonynt i ben mewn methiant llwyr tra bu i eraill gael eu llyncu gan y banciau mawr 'cenedlaethol'.