SEINIAU'R SINGER gan Ioan Mai Evans
'CYFAILL Mewn Llogell', dyna enw'r llyfr sydd mor brin â 'dwn i ddim beth. Felly beth ydi beth chwedl fy mam. Awdur y llyfr yw loan Williams, Abertawe, ond i bobl Llŷn, lle ganed yr awdur, Siôn Singer efallai sydd fwyaf cyfarwydd. 'Roedd iddo deitlau fel ' Dysgadwr Miwsig', ac 'Athro Cerdd' yn ogystal. Ei lyfr ef oedd y cyntaf yn Gymraeg at ddysgu elfennau Cerddoriaeth, ac fel yr awgryma'r teitl, medrwch gadw'r llyfr yn ddiogel ym mhoced brest eich côt bach.
Ymhen ugain mlynedd bydd y llyfr yn ddau gant oed, a 'does ryfedd yn y byd i Mr. Bryn Jones, sydd i chopi gwreiddiol o dan ei ofal yn Llyfrgell Dinas Caerdydd ddal ei afael fel cranc yn y llyfr bach glas. Wedi cael sgwrs llaciodd y llyfrgellydd hynaws ei afael toc, ac fe roed y 'Cyfaill' ar y bwrdd i mi i’w ddarllen.
Cwmpasog, a dweud y lleiaf, yw'r dehongliad a geir ynddo o foddau Cerdd. Y 'Gamut' ydyw'r gair mawr bob tro. Dyna hefyd oedd byrdwn Shakespeare yn un o'i ddramâu, 'To teach you Gamut'. Ac yn wir ymgais at gyfieithu rhy glos a geir gan y 'Singer' ac yn wir bathu termau chwithig fel Cloriau Peroriaeth am 'The Scale of Music'. Mae yma ymgais ddios at gyfieithu Playford's Skill of Music 1654. Ond pa ddewis gwell oedd ganddo, gan fod mecanyddiaeth Cerdd yn gwbl unol a'r cyfnod, a'r Gamut yn ddiogel ganddo yng nghywair G.
***
RHYDD R.D. Griffith, le anrhydeddus yn ei holl gyfeiriadau at Siôn Singer, a chyfeiria John Thickens ato fel un o gyff Robert ap Gwilym Ddu. Penagored iawn, fodd bynnag, yw yr holl gyfeiriadau amdano ar gychwyn ei yrfa, yn cael ei fagu gyda'i ewythr yn Llithfaen Fawr, enw ar fferm sy'n aros hyd y dydd hwn ym Mhlwyf Pistyll.
Gan mai tua chanol y ddeunawfed ganrif y ganed Siôn Singer, byddai'r Adroddiad Esgobol am 1749 yn dweud nad oedd yr un anghydffurfiwr Protestannaidd o fewn y plwyf, ar wahân i un teulu yn y Pistyll.
Erbyn 1788 fe gyfeirir at y teulu hwn fel 'Anabaptists'. At hyn, ystyrier Ysgolion Griffith Jones, Llanddowror, ac fe welir fod 118 yn mynychu yr ysgol a gynhelid yn Llan y Pistyll yn 1769. Tua'r amser yma byddai Siôn Singer yn tynnu at ei ugain oed. Wrth chwilota yn llythyrau'r Parch. Henry Hughes, Bryncir, dyma gyfeiriad at yr ysgol, "Mae yn debyg mai ysgol dda oedd ysgol y Pistyll. Bu J.W. Pentreuchaf yn dysgu canu yn y Pistyll, lle y dysgodd i amryw ganu, a daeth llewyrch da ar y canu yno". Hyn, fel ychwanegiad at yr hyn sydd eisoes wedi ei gofnodi amdano.
***
AC o gyfeirio at Henry Hughes, Bryncir, mae hefyd yn ei lythyrau gyfeiriad at Thomas Ellis, Carnguwch, fel awdur y pennill 'Galaru'r wyf mewn dyffryn du', sydd wedi ymddangos yn 'Cyfaill Mewn Llogell', ac enw J.W. wrtho. Myrddin Fardd eto yn nodi yn ei lyfr mai Thomas Ellis a'i piau ac iddo ymddangos yn Llyfr Hymnau'r Methodistiaid 1896. Melinydd tlawd oedd pan ganodd:
- " 'Rwy'n ddu fy lliw, a'm gwisg yn wen
'Rwy'n llawen ac yn brudd,"
a da y dywedodd y Prifardd William Morris, mai pennill ac nid emyn ydoedd y gwaith, nad yw erbyn hyn yn y llyfrau emynau.
Ac yn 'Steddfod Wrecsam pan oedd "yr anrheuliedig haul" yn gwahodd i'r maes, y safodd John Roberts Williams, y golygydd, a Huw Williams, a minnau fel "trindod faen" cyn hwylio i fargeinio am gopi o lyfr Siôn Singer gan gasglwr preifat o'r wlad hon ac nid o'r 'Merica, neu ynte sefyll i gael tynnu ein coesau "dros y grib" i'w ganlyn?
Yr olaf mae arnaf ofn, gan na wyddom am yr un copi ond yr un sy'n Llyfrgell Dinas Caerdydd, a gwn y carai Mr. Bryn Jones, yntau hefyd wybod sawl copi sydd ar gael heblaw hwn.