PRISIO LLYFRAU AIL -LAW ~ gan David Jenkins

UN O'R problemau sy'n wynebu'r casglwr - ym mha faes bynnag y bo'i ddiddordeb - yw pris yr hyn y mae am ei brynu. Yr un, wrth reswm, yw problem y gwerthwr, ond ei fod ef hefyd yn chwilio am elw, heb anghofio, at hynny, na thâl iddo yntau ladd ei farchnad trwy orbrisio.

Yn eu hanfodion nid yw amodau'r fasnach lyfrau ail-law yn wahanol i'r hyn sy'n rheoli marchnadoedd eraill megis darlun­iau, dodrefn, ceffylau, ac ati. Dibynna pob gwerthoedd ail-law ar chwaeth y dydd, cystadleuaeth cydrhwng casglwyr, a phrinder y peth a werthir. Yr unig ŵr sy'n medru synhwyro bargen yw hwnnw sy'n ddigon craff i adnabod tueddiadau ffasiwn rhag­blaen.

Mi welais aml lyfrgell breifat helaeth iawn heb fod iddi odid ddim gwerth ariannol oherwydd i'w pherchen yn ei ddydd gasglu 'nghyd lyfrau poblogaidd heb fod iddynt ddim arbenigrwydd o ran cynnwys na chrefft argraffu a rhwymo.

Am tuag ugain mlynedd wedi'r Ail Ryfel Byd fe fu cryn fynd ar destun-lyfrau i ysgolion a cholegau am na chyhoeddwyd odid ddim newydd rhwng 1939 a 1946, a bod awduron a chyhoeddwyr yn methu digoni'r galw, yn rhannol oherwydd y diffyg papur argraffu a barhaodd gyhyd ymhob gwlad wedi'r rhyfel. 0 ganlyniad daeth bri ar lyfrau ail-law a chafwyd hefyd gyfnod o atgynhyrchu testun-lyfrau poblog­aidd.

***

MI WN am o leiaf un gŵr a wnaeth ffortiwn fawr yn y ddau faes yma. Yn hogyn ysgol fe'i gyrrwyd gyda phlant eraill ei ysgol o ddwyrain Llundain i lochesu rhag y blitz yn un o gymoedd Morgannwg. Yno gwelodd lyfr­gelloedd y glowyr a phan gododd stondin lyfrau heb fod nepell o'r London School of Economics cofiodd am y casgliadau helaeth o lyfrau ar economeg a gwleid­yddiaeth ar silffoedd yr Institute. Aeth yn ôl ar bererindod i Gymru a phrynu i'w gwerthu i fyfyrwyr gannoedd lawer o destun-lyfrau a ddefnyddiwyd mewn dosbarth­iadau o Adrannau Allanol Colegau'r Brifysgol a Chymdeithas Addysg y Gweithwyr. Dyna sut y cychwynnodd un o'r cyhoeddwyr mwyaf blaengar a welwyd wedi'r rhyfel.

Ar lefel dipyn yn llai pwrcasodd y diweddar J.R. Morris, Caer­narfon, lyfrgelloedd diwinyddol Saesneg llawer gweinidog o ddechrau'r ganrif - nad oedd iddynt bellach farchnad yng Nghymru - a'u gwerthu i frodor­ion y 'Middle West' neu'r 'Bible Belt' fel y'i gelwid gan rai.

***

Y MAE digon o farchnad i lyfrau ail-law Saesneg i gyfiawnhau cynnal arwerthiannau cyson yn Llundain gan gwmnïau byd-enwog megis Sotheby, Christie, a Philips, ac y mae'r prisiau a geir yn cael eu derbyn, y rhan amlaf, fel canllaw­iau i lyfrwerthwyr yn gyffredinol. Bob blwyddyn cyhoeddir cyfrol werthfawr o dan y teitl Book Auction Records sy'n rhestru'r llyfrau pwysicaf a'r prisiau a gafwyd yn yr arwerthiannau hyn.

Eto, y mae gofyn i'r anghyf­arwydd fod yn ofalus, oherwydd fe all prisiau a gyhoeddir yn y Book Auction Records am ddau gopi o'r un teitl amrywio'n fawr oherwydd eu cyflwr neu am ddi­ddordeb arbennig rhyw berson yn un o'r copïau, a'i fod yn digwydd bod yn y man a'r lle.

Cafwyd enghraifft nodedig o hyn tuag ugain mlynedd yn ôl pan werthwyd copi o feibl yr Esgob

Salesbury (1620) yn gwbl annisgwyl am £200 yn lle'r £30 arferol. Pam? Nid oedd iddo, hyd y gwn, un arbenigrwydd megis rhwymiad eithriadol neu fod ynddo lofnod neu nodiadau gan rywun o fri.

Yr hyn a ddigwyddodd oedd i feddyg enwog wellhau Iddew cyfoethog o afiechyd blin, ac i hwnnw deimlo ar ei galon angen dangos ei werthfawrogiad drwy gyflwyno i'r Cymro rodd gydnaws a theilwng. Pan welodd gyhoeddi fod copi i'w werthu yn Sotheby aeth yno yn ei unswydd a'i gael at ei gynnig cyntaf o £200. Amgylchiadau digon tebyg i hyn yna sy'n fynych yn pennu pris y farchnad.

***

SIOPWYR ail-law sydd fel rheol yn prynu drymaf yn arwerthian­nau Llundain a rhaid i'r prynwr erbyn heddiw dalu'n ychwanegol ddeg y cant o gomisiwn yr arwerthwr, yn ogystal â’r dreth werth ychwanegol (V.A.T.) lle bo hynny'n ddyledus. (Felly hefyd codir 10% o'r pris terfynol ar berchen y llyfr a werthir.)

Y mae'n dilyn felly fod yn ofynnol i'r llyfrwerthwr ail-law ei ddigolledu ei hun a gwneud bywoliaeth, ac o gymryd i ystyriaeth costau llunio a chyhoeddi catalog, heb son am gostau rhedeg siop a chyflogi staff fel ellir amgyffred yn well pam mae llyfrau a brynir ac a werthir felly yn fynych yn costio'n fwy na'r disgwyl. Pan fo siopwr yn prynu'n breifat fe ddisgwylia, fel rheol, tua un rhan o dair o elw.

***

Y MAE gwerth y llyfrau mwyaf prin yn dibynnu llawer ar eu cyflwr yn ogystal â'r galw amdanynt. Am lyfrau Cymraeg cynnar - ar wahân i'r Beibl a'r Llyfr Gweddi Gyffredin a argraff­wŷd yn dda gan argraffwyr y Goron - digon amrwd yw'r papur a'r argraffwaith a'r cloriau.

Am mai cenedl dlawd a fu'r Cymry heb noddwyr cyfoethog i helpu cyhoeddi llyfrau megis ag a gaed yn Lloegr, nid oes na champ na cheinder ar gynnyrch eu gweisg. Cynnwys llyfr nid ei ffurf oedd yn bwysig ac am na fu ffrwd gref o gyhoeddiadau Cymraeg cyn canol y ganrif ddiwethaf, gwelir ôl traul drom ar ymron bob cyfrol a gadwyd.