PEINTIADAU FICTORAIDD
Dafydd Wyn Wiliam ar y trywydd

 

AR 17 MAWRTH 1945 bu farw'r Cyrnol William Augustus Lane Fox-Pitt o Blasty Prysaeddfed, Bodedern, yn 87 oed. Dros y dyddiau 21-23 o Awst wedi hynny, bu arwerthiant cyhoeddus o bron y cyfan o gynnwys gwerthfawr y plasty. Yr oeddwn i yno yn fachgen deg oed. O'm blaen y mae catalog yr arwerthiant.

Nid oedd llawer o beintiadau olew yn y plasty. Cadwodd meibion y cyrnol rai ohonynt a rhoddwyd y lleill i'w gwerthu. Fe'u rhestrir yn y catalog. 0 blith y darluniau a arferai addurno parwydydd y plasty y mae dau beintiad olew nas cadwyd gan y teulu ac nas rhestrwyd chwaith yn y catalog. Y maent heddiw yn crogi ar un o barwydydd fy nghartref i. Beth yw'r esboniad am hyn?

Y mae'r ateb i'r holiad hwn yn syml a diddorol. Aeth fy modryb Siān, chwaer fy nhad, i weini i Brysaeddfed yn 1922. Ddwy flynedd wedi hynny bu farw Mrs. Fox-Pitt, gwraig y cyrnol, o ddolur y cancr. Gwahoddwyd fy modryb i aros yn y plasty i gadw tŷ. Cytunodd a daeth fy nain ati.

Yno y buont, ill dwy, am yr un mlynedd ar hugain dilynol. Pan fu farw'r cyrnol fe ymadawsant oddi yno i fyw i bentref Bodedern gerllaw. Wrth ymadael fe anrhegwyd fy modryb ā'r ddau beintiad gan fab y cyrnol. Syllais arnynt yn aml yn ei thŷ gan wybod yn dda ddigon eu bod yn beintiadau o safon.

***

CEFAIS ganiatād fy Modryb Siān i holi ynghylch y darluniau. Yn niwedd 1962 fe anfonais air at bennaeth The National Gallery Llundain i ymofyn gwybodaeth am T. Whittle yr arlunydd. Fe'm hysbyswyd bod dau Thomas Whittle yn arlunwyr, sef tad a mab, a thebyg mai gwaith un ohonynt hwy oedd y peintiadau. Ymhellach fe ddywedwyd wrthyf:

Er gwaethaf y frawddeg hon yr oeddwn yn hoffi'r peintiadau yn gethin.

Ar 21 Gorffennaf 1975 fe roddes fy modryb hwy yn rhodd i mi. 'Eilfam modryb dda', ebr yr hen air. Mae'n bryd i mi eu disgrifio. Peintiwyd y ddau ar fyrddau o'r un maint sef 12" x 8" ac y maent yn eu fframiau gwreiddiol. Ar odre dde'r peintiadau ceir 'T. Whittle 1867'. Cymerais gadach llaith i sychu cefn y byrddau a dyna wefr a gefais wrth ddarllen y geiriau a sgrifennwyd ā phensel. 'Penmaen bach from Llandudno' ar un ohonynt. Brawddeg gyffredinol oedd ar y llall 'Lake Scene & Cattle'. Credaf mai peintiad o un o lynnoedd Cymru ydyw. Ai Tal-y- llyn? Rhoddaf gopi o'r darlun gyda'r ysgrif gan hyderu y bydd rhai ohonoch chwi ddarllenwyr yn gallu lleoli'r olygfa.

***

BU DERBYN y ddau beintiad yn sbardun i mi ymddiddori yng ngweithiau arlunwyr Oes Fictoria. Euthum i'r Victoria and Albert Museum yn Llundain i weld y casgliad gwych sydd yno. At hyn dechreuais ddarllen amdanynt a dilyn y farchnad yn Llundain. Sylwais fod nifer o beintiadau o safon ac o werth hanesyddol yn ymwneud ā Chymru yn cael eu gwerthu yno, ac y mae'n resyn, ie yn gan resyn, na bai modd i ni fel cenedl eu prynu.

Erbyn hyn fe ddysgais fod y ddau T. Whittle yn arlunwyr pur fedrus a'u bod ill dau wedi dangos eu gwaith yn yr Academi Frenhinol. Gwerthwyd un o weithiau T. Whittle ieuengaf yn Christie's ar 29 Ionawr 1974 am £240 sef 'Pandy Mill, Bettws-y­-Coed'. Y mae'n amlwg felly fod y gŵr hwn fel eraill o'i gyfoeswyr wedi ymweld ā Chymru.

Ar ddechrau'r ganrif hon fe ddirmygid peintiadau Fictoraidd, eithr erbyn heddiw fe adferwyd eu bri gan gasglwyr ifainc. Heblaw hyn y mae'r Americanwyr yn dechrau ymddiddori yn eu gweithiau ac fe werthfawrogir fwyfwy alluoedd technegol y to hwn o beintwyr. Oblegid prinder peintiadau o'r XVII ganrif a'r XVIII ganrif fe gynyddodd gwerth peintiadau o Oes Fictoria.

Ymddangosodd ffrwd gynyddol o lyfrau sy'n trafod arlunwyr y cyfnod hwn ac oherwydd hyn y mae pobl yn barotach i brynu eu gweithiau. Glynwch wrth eich peintiadau Fictoraidd - y maent yn cynyddu yn eu gwerth.