PE CAWN I HWN ~ D.Tecwyn Lloyd yn dylyfu gn

Bm yn aros yn yr Eidal bump neu chwech o weithiau i gyd; y tro cyntaf oedd ym 1948 a'r tro dwaetha' ym mis Medi, 1961. Chwarter canrif yn l, bm yno am ysbaid sylweddol o ryw wyth mis, digon o amser i ddod yn weddol gyfarwydd siopau llyfrau ail-law Rhufain, Fflorens, Milan a Phadofa, dinasoedd lle bm yn aros am beth amser.

Erbyn heddiw, mae'n siŵr fod pethau wedi newid llawer onid yn llwyr yn y mannau hyn a bod aml i siop fach dywyll, orlawn o hen gyfrolau mewn lledr a memrwn wedi peidio bod. Tybed a yw Dante Cappellini yn dal ati yn 27, Corso de' Tintori, - stryd y Lliwiedyddion - Fflorens? Dyna i chwi siop. Yno, ym 1955 a chyn hynny, gallech brynu llawysgrifau memrwn o'r canol oesoedd am brisiau rhesymol, - sallwyrau addurnedig, llyfrau mawr o anthemau a siantiau eglwysig, hen gytundebau tir ac eiddo: pethau fel yna. Cofiaf imi weld map Humphrey Llwyd o Brydain yno un tro.

Gŵr mwynaidd, petrus, oedd Sgr: Capellini ei hun, un a anwadalai ynghylch gwerthu hen lyfr i chwi nid oherwydd y pris ond am na fynnai ymadael ag ef. Gwir garwr hen bethau. Fflorentiad hefyd o hil gerdd ac un a siaradai Eidaleg eglur ei dalaith gan ynganu'r sain ch drwynol, od, sy'n perthyn I Eidaleg Toscania; peth a etifeddwyd, meddir, o hen iaith goll yr Etrwscaid.

A dyna siop Danielo Rossi - Deiniol Goch - yn ardal y Prati, Rhufain. Un stafell ddigon cyfyng a phob modfedd o'r muriau a rhan go dda o'r llawr wedi eu cuddio gan drwch o hen lyfrau. Tybed a yw honno'n bod o hyd?

***

YN YR holl siopau hyn, yr adeg yna, 'roedd digonedd o lyfrau argraffedig o'r 17eg a'r 18fed ganrif ac ambell un o'r 16eg ganrif; llyfrau wedi eu hargraffu yn y llythyren italig hyfryd a welir yng Ngramadeg Gruffydd Robert (1567) ac Athrawaeth Gristnogawl Morus Clynnog (1568). A hyn sy'n dod i mi at y testun y gofynnodd y Golygydd imi ei drafod.

Ym 1880, cyhoeddodd Anrhydeddus Gymdeithas y Cymmrodorion ail argraffiad o'r Athrawaeth. Ffacsimili ydyw ac ar yr wyneb-ddalen dywedir 'reproduced... from the unique copy in the possession of H.I.H. Prince Louis-Lucien Bonaparte.' Eto, nid trwy dynnu lluniau o dudalennau'r argraffiad cyntaf y gwnaed hwn ond trwy dorri teip italig at y pwrpas: yn l Rhagair y Tywysog: 'The type, in part cut for the purpose, represents in all essential respects the form of the original.' Heddiw, wrth gwrs, llungopi a wneid, dull llawer rhatach a mwy hwylus.

I'r casglwr, fel y gwl pawb o ddarllenwyr y papur hwn, y ffaith syfrdanol bwysig yw mai dim ond un copi sy'n bod o argraffiad cyntaf 1568. Y ffaith hon a'm gyrrai i grwydro siopau hen lyfrau y dinasoedd a enwais.. Bm mewn ugeiniau ohonynt, mae'n debyg, yn tyrchu trwy domennydd llyfrau canrifoedd a fu yn y gobaith o ddarganfod copi - ail gopi o'r llyfryn Cymraeg, 62 tudalen a gyhoeddwyd gyntaf yn nhref 'Fylen', prifddinas Lombardi yn ystod dyddiau cyffrous y Gwrthddiwygiad a'r gobeithion y deuai Cymru a Lloegr yn l unwaith eto i gorlan Rhufain.

Rhoddais fanylion am y gyfrol i lawer llyfrwerthwr Eidalaidd rhag ofn iddo ddod ar draws copi ohoni ar l i mi droi fy nghefn. Bm yn ceisio amcanu gwir bris crair mor brin ac yn treulio sawl orig ddifyr yn gwau ffigurau dychmygol ymhlith y miloedd a'r degau o filoedd o bunnau.

***

OND DDAETH o ddim i'r fei, a chefais i na cherdyn na llythyr na theligram gan neb o'r llyfrwerthwyr y gofynnais iddynt ei ddal mewn cof. Chaf i ddim bellach, mae'n siŵr, a rhaid imi fodloni ar fy nghopi o ail argraffiad 1880: mae'n debyg nad yw hwnnw, mwyach, yn un hawdd ei gael.

Tybed a oes copi, neu gopau eraill o'r Athrawaeth ar gael yn rhywle? Ambell dro, caf freuddwyd ac yn honno gwelaf lyfrwerthwr tebyg i'r Dante neu'r Deiniol Goch yn estyn copi gln o'r Athrawaeth 1568 oddi ar un o'i silffoedd, yn ei osod yn ddidaro ar ei gownter o flaen prynwr gan ddweud, 'cinquanta lire, signor.' A llais trwchus Americanaidd yn ateb: 'Waal, ah guess it's just a load o' crap, anyway, but it shore looks like a bit of the genuine ole Tuscan lingo... y' never know!'

Na. Fedrwch chi byth ddweud.